Mynd i'r cynnwys

Marc Jones a Cwmni Theatr Volcano

Y Sialens

Banc Byrddau

Y Sefydliad Celfyddydol: Cwmni Theatr Volcano

Cwmni cynhyrchu annibynnol yw Volcano sy’n teithio yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae’r theatr yn ofod creadigol pwysig yn y ddinas – safle sy’n gwneud gwaith unigryw ac yn cynnal ac ysbrydoli ystod eang o ddefnyddwyr eraill.

Y Sialens

Cyflwyno arolygiaeth strategol a chraffter ariannol ychwanegol i Fwrdd Ymddiriedolwyr Volcano, a chael budd o lais hyderus sy’n dirnad ac yn gallu mynegi dynameg a hanfodion ei bartneriaid busnes a’i randdeiliaid mwy o faint.

Yr Ymgynghorydd: Marc Jones, Cyllid Partner Barclays

Nod Marc oedd rhoi cymorth i gwmni bychan nad oedd mewn sefyllfa ariannol i recriwtio rhywun a chanddynt brofiad o sefydliad corfforaethol mawr. Roedd yn awyddus i ddysgu mwy am weithio mewn elusen oedd â’i phrif ffocws ar y gymuned. Mae Marc o’r farn y dylai’r celfyddydau fod yn hygyrch i bawb, ac mae’n credu’n gryf yng ngwaith allgymorth Volcano.

Y Canlyniadau

Ar gyfer Cwmni Theatr Volcano

  • Datblygu cynllun busnes effeithiol.
  • Rhoi cymorth i ddiweddaru’r portffolio polisïau, gan sicrhau bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau’n cydymffurfio’n llawn.
  • Gweithredu arolwg cynhwysfawr, gan symleiddio prosesau Volcano i gadw’r gwaith polisi’n gyfoes.
  • Cefnogaeth uniongyrchol y Rheolwr Ariannol a’r Swyddog Codi Arian y tu allan i gyfarfodydd o’r Bwrdd drwy ymweliadau rheolaidd.
  • Cymorth ac arweiniad wrth ddatblygu cynlluniau am adeilad newydd yn y ddinas.
  • Cyfathrebu effeithlon ac effeithiol gyda’r Bwrdd, yn cynnwys sefydlu system ddigidol ddiogel ar gyfer adolygu dogfennau, digwyddiadau a phroblemau.

Ar gyfer Marc:

  • Datblygu gwell ymgysylltiad a rhyngweithio gyda phobl o wahanol gefndiroedd, amgyffred, a sgiliau.
  • Helpu Marc i ystyried ei ddull o gyfathrebu o fewn ei rôl o ddydd i ddydd.
  • Datblygu dealltwriaeth o’r heriau ariannol mae sefydliadau bach ym maes y celfyddydau yn eu hwynebu.
  • Trwy fynychu perfformiadau Volcano, mae Marc wedi ehangu ei brofiad a’i fwynhad o’r celfyddydau.

Y Gymeradwyaeth

Mae Marc yn Ymddiriedolwr hynod ragweithiol sy’n gallu ysgogi’r tîm staff ac Aelodau eraill o’r Bwrdd i fynd i’r afael â heriau. Mae e’n hael gyda’i amser, bob amser yn hwyliog, ac yn abl i gynrychioli’r cwmni mewn modd cadarn ac effeithiol mewn deialog gyda rhanddeiliaid mawr. Mae e’n sylwgar, a chanddo ystod eang o ddiddordebau proffesiynol a chelfyddydol, yn ogystal â bod yn arbenigwr ariannol craff. Mae Marc yn effro i ddatblygiadau newydd ac yn ymateb i gyfleoedd ar gyfer y cwmni. Mae e’n aml yn mynychu a chefnogi cynyrchiadau’r cwmni a’r digwyddiadau cymdeithasol neu rwydweithiol. Yn ogystal, mae’n eiriolwr hyderus, diflewyn-ar-dafod ac effeithiol ar ran y cwmni a’i ddiddordebau.
Paul Davies, Theatr Volcano

Mae hyn wedi bod o help mawr wrth i mi ystyried fy null o gyfathrebu o fewn fy rôl o ddydd i ddydd. Mae gen i hefyd gydweithwyr rwy’n siarad gyda nhw ynghylch yr heriau ariannol a theimlaf fod gen i fwy o wybodaeth am yr effeithiau y tu allan i’r byd corfforaethol.
Marc Jones