Mynd i'r cynnwys

Menna Chmielewski a Hijinx Theatre

Y Sialens

Banc Byrddau a Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau

Y Sefydliad Celfyddydol: Theatr Hijinx

Mae Hijinx yn un o’r prif gwmnïau theatr cynhwysol yn Ewrop. Eu nod yw sicrhau cydraddoldeb trwy greu celfyddyd o safon rhagorol gydag actorion a chanddynt anableddau dysgu a / neu awtistiaeth, a hynny ar lwyfan, ar y sgrin, ar y stryd ac yn y gweithle. Mae’r cwmni’n gweithio’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar ran Cymru a’r byd.

Y Sialens

Roedd Hijinx yn chwilio am Ymddiriedolwr newydd a chanddynt arbenigedd yn y gyfraith, gan i hyn gael ei nodi fel bwlch yn sgiliau’r Bwrdd. Cymerodd Menna ei lle yno ychydig cyn y pandemig COVID-19, felly yn fuan iawn ar ôl iddi ymuno â’r Bwrdd daeth anghenion Hijinx yn rhai llawer mwy penodol.

Yr Ymgynghorydd: Menna Chmielewski

Trwy ymuno â Hijinx drwy Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau, roedd Menna’n gobeithio ymestyn ei rhwydwaith, ymgysylltu ag unigolion a busnesau eraill yng Nghaerdydd, a chael dealltwriaeth o nodau allweddol, ystyriaethau a phryderon Bwrdd o Ymddiriedolwyr. Ar yr un pryd, roedd Menna’n dymuno rhannu ei gwybodaeth fel cyfreithiwr ym maes Cyflogaeth i helpu Hijinx i fynd i’r afael â heriau allweddol.

Y Canlyniadau

Ar gyfer Theatr Hijinx

  • Llywio drwy sefyllfaoedd heriol yn ystod y pandemig, gan roi i’r staff, yr actorion, y cyfranogwyr a’r llawryddion y sicrwydd a’r cyfleoedd i barhau i ffynnu.
  • Darparu cyngor ar weithdrefnau cyflogaeth, yn enwedig yn ystod y pandemig, gan sicrhau bod mesurau diogelwch COVID yn cael eu gweithredu a’u dilyn.
  • Galluogi staff Hijinx i fod yn fwy gwybodus a hyderus ynghylch y fframwaith gyfreithiol maent yn gweithredu o’i mewn, gan sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn gadarn, yn cydymffurfio, ac wedi eu hystyried yn ofalus.

Ar gyfer Menna:

  • Cynnydd sylweddol mewn hyder a sgiliau cyfathrebu.
  • Datblygu’r gallu i feddwl yn gritigol a chymryd rhan mewn trafodaethau, gan gyflwyno atebion ymarferol i’r cwmni.
  • Datblygu’r sgiliau i gymhwyso ei gwybodaeth gyfreithiol i bwrpas rhedeg busnes o ddydd i ddydd ac i bwrpas blaenoriaethau allweddol elusen.
  • Dyfnhau ei dealltwriaeth o’r dyletswyddau mae ymddiriedolwyr yn eu cario, sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar wella’r cyngor mae Menna’n ei gynnig yn ei gwaith o ddydd i ddydd.

Y Gymeradwyaeth

Roedd cyngor Menna wedi ein galluogi i lywio’n ffordd yn llwyddiannus drwy’r pandemig, gan gadw pawb yn ddiogel a sicrhau llywodraethiant a phrosesau o safon uchel. Rhoddodd hyn sylfaen gadarn i ni i ddal ymlaen i weithio a’n helpu i fireinio a gwella ein prosesau’n gyson. Mae Menna wedi bod yn hynod hael ac agored gyda’i hamser, a buan iawn y daeth yn ffrind y gallai Hijinx ymddiried ynddi. Mae hi’n anfeirniadol, ond hefyd yn glir a manwl yn ei hymatebion, sy’n llawer o help – yn enwedig yng nghanol pandemig.
– Sarah Horner, Theatr Hijinx

 Rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â grŵp o unigolion dymunol, cefnogol a gwybodus ac wedi dysgu llawer ganddynt o ran eu hymwybyddiaeth fasnachol, atebion ymarferol, a sgiliau dadansoddi. Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn fy hyder, fy sgiliau cyfathrebu a’m gallu i feddwl yn gritigol, gan gymryd rhan mewn trafodaethau i gynnig dulliau amgen o feddwl ac atebion ymarferol.”
– Menna Chmielewski