Mynd i'r cynnwys
Ar ochr chwith cefn y llun mae llun o rigiau llong hwylio. I'r dde mae actor Mewn Cymeriad yn edrych ar y camera yn gwisgo het ddu gyda phluen wen fawr

Menywod Cymreig Henebol / Monumental Welsh Women a Mewn Cymeriad / In Character

Y Sialens

  • Cefnogi prosiect sy’n ategu ymgyrch Menywod Cymreig Henebol.
  • Hyrwyddo ymgyrch Menywod Cymreig Henebol ac ehangu ei hapêl i gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru.
  • Codi arian i gefnogi ymdrechion y gwahanol gymunedau fydd yn codi cerfluniau.

Yr Ymateb

Aeth Menywod Cymreig Henebol ati i gomisiynu Mewn Cymeriad / In Character i greu drama am y bardd a’r eicon LGBTQ+ Sarah Jane Rees, a adwaenid hefyd fel Cranogwen, gan ddod â’i chyflawniadau anhygoel yn fyw.
Trwy gyfuno ymgyrch y gofeb gyda drama, nod y partneriaid oedd tynnu sylw at y modd y caiff cymunedau LGBTQ+ eu tangynrychioli ar lwyfan y theatr yng Nghymru.
Ariannodd CultureStep daith i theatrau, yn Gymraeg a Saesneg, mewn canolfannau ledled Cymru.

Y Canlyniadau

Teithiwyd y ddrama i gymunedau ledled Cymru, gyda bron i 1,000 o docynnau wedi eu gwerthu i gynulleidfa o Gymry Cymraeg a rhai nad oeddynt yn siarad yr iaith – ffigwr oedd yn uwch na’r disgwyl.
Mae Mewn Cymeriad / In Character yn bwriadu cyflwyno rhagor o berfformiadau yn 2023, ynghyd â mynd ar daith ddwy wythnos o gwmpas ysgolion uwchradd.

Ddrama Cranogwen

Y Gymeradwyaeth

Bu’r bartneriaeth hon o fudd mawr i’r ddau barti. Yn sgil y prosiect, mae Cranogwen yn gyfarwydd i gynulleidfa lawer mwy eang nag o’r blaen, ac yn cael ei dathlu ledled Cymru. Y budd mwyaf oedd i’n henw da, gan symud y cwmni yn ei flaen o fod yn gwmni sy’n cynhyrchu sioeau i blant/ysgolion, i un sy’n cynhyrchu dramâu o safon uchel i’w hymestyn allan i’r gymuned. Rydym bellach yn teimlo’n fwy hyderus i lwyfannu dramâu a threfnu teithiau theatr ar gyfer grwpiau cymunedol yn y dyfodol; yn ogystal â chynllunio taith arall gyda Cranogwen ym mis Chwefror, mae gennym gynlluniau i gynhyrchu dwy ddrama arall a theithiau cymunedol yn 2023. Byddwn wedi cael budd mawr o’r profiad a gawsom gyda’r prosiect hwn, a theimlwn y bydd gan gynulleidfaoedd yn y dyfodol hyder yn yr hyn sydd gennym i’w gynnig.

Eleri Humphries, Mewn Cymeriad / In Character

Lansiwyd y ddrama ym Mhontgarreg, lle’r oedd Cranogwen yn byw ac yn gweithio. Roedd y neuadd gymunedol yn llawn i’r ymylon, gan roi cyfle i MCH/MWW roi rhywbeth yn ôl i gymuned oedd wedi codi miloedd o bunnau tuag at greu’r gofeb. Yn ogystal â llwyfannu’r ddrama, ar yr un penwythnos agorodd y cerflunydd ei stiwdio i’r cyhoedd fel bod modd i’r gymuned weld y gwaith-ar-waith. Roedd y ddau ddigwyddiad wedi creu cyffro mawr o fewn y gymuned, a buont yn destun sgwrs am gryn amser.

Helen Molyneux, Monumental Welsh Women