Mynd i'r cynnwys

Motion Control Dance a Siobhan Saunders, Barclays Partner Finance

Y Sialens

Y Sefydliad Celfyddydol

Motion Control Dance

Yr Angen Datblygol

Yr Ymgynghorydd

Siobhan Saunders, Barclays Partner Finance

Yr Angen Datblygol

Roedd Siobhan am ddatblygu ei gwybodaeth am y celfyddydau ac ennill profiad llywodraethu, ac ar yr un pryd cynnig ei harweiniad a sgiliau ariannol i helpu mudiad i ddatblygu.

Y Canlyniadau

I Motion Control Dance:

  • Cyflwyniad adroddiadau Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) chwarterol, yn galluogi’r ymddiriedolwyr eraill i ganolbwyntio ar fetrigau perfformiad penodol, monitro datblygiad a rhoi mwy o fewnwelediad i weithgareddau’r mudiad.
  • Darparu adolygiad cadarn, annibynnol o’r datganiadau ariannol, adnabod gwelliannau a rhoi arferion gorau ar waith.
  • Ymddiriedolwyr a oedd wedi mynychu cwrs hyfforddi yn rhannu arfer gorau ac yn denu sylw at rolau a chyfrifoldebau.
  • Yn ystod argyfwng COVD-19, cefnogi creadigaeth llif arian manwl, yn amlygu’r camau gweithredu a oedd angen eu cymryd, trafod cyfleoedd ac adolygu ceisiadau am grantiau i sicrhau parhad gwaith yr elusen.

I Siobhan:

  • Golwg mwy eang o sut mae mudiad y tu allan i fyd cyllid yn gweithredu.
    Gwell mewnwelediad i’r heriau mae mudiadau celfyddydol bach a’r sector elusennol yn eu hwynebu, yn cefnogi ei hymroddiadau gwirfoddol eraill.
    Cynyddu ei rhwydwaith proffesiynol gydag unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd.

Y Gymeradwyaeth

Mar cyfraniad Siobhan wastad yn glir iawn ac yn berthnasol, ac yn darparu awgrymiadau mewn ffordd sydd wedi cael ei chroesawi yn ein cyfarfodydd bwrdd. Mae hi wedi cyflwyno systemau newydd sy’n canolbwyntio ar y canlyniadau mae’r elusen yn eu cynhyrchu, yn enwedig o ran ein targedau ariannol, ac mae adrodd ar DPA wedi ein helpu ni i adnabod a dathlu llwyddiannau yn ogystal â phethau i’w gwella.

Emma Mallam, Motion Control Dance