Mynd i'r cynnwys
Mae pedwar o bobl, gan gynnwys perfformiwr, yn eistedd ar fainc aml-liw yn y stryd, yn chwerthin

Newport Transport a Theatr a Chanolfan Gelfyddydol Glan yr Afon

Y Sialens

  • Cefnogi gweithgareddau yn y gymuned ac ar lawr gwlad.
  • Gwella’r canfyddiad o frand Newport Bus.
  • Gosod trafnidiaeth gyhoeddus wrth galon y cymunedau.
  • Darparu cludiant cynaliadwy ar gyfer dinas lanach, mwy diogel a smart.
  • Hyrwyddo teithio cynaliadwy a fforddiadwy i’r gynulleidfa o deuluoedd a phobl ifanc.

Yr Ymateb

Gan gydnabod gwerth yr ŵyl i’r ddinas, daeth Newport Transport yn bartner gyda Glan yr Afon am y tro cyntaf yn 2022. Rhoddodd y busnes nawdd i’r Sblash Mawr, yr ŵyl gelfyddydol deuluol rad ac am ddim sy’n ymgysylltu miloedd o bobl o Gasnewydd a’r ardal leol â  chreadigrwydd. Mae’r ŵyl yn ennyn balchder yn y ddinas trwy ddod â phobl at ei gilydd i gael profiad o weithgareddau artistig sy’n cynyddu mwynhad, lles a’r economi. Roedd ffocws Gŵyl 2022 ar amlygu a dathlu amrywiaeth ddiwylliannol Casnewydd.

CultureStep oedd yn ariannu ffioedd yr artistiaid lleol a’r gweithdai.

Y Canlyniadau

Roedd tua 30,000 o bobl wedi cymryd rhan yn Y Sblash Mawr, cynnydd o 200% ar ŵyl 2019, gan ragori ar y disgwyliadau a’r targedau. Roedd dros 50 o artistiaid a pherfformwyr yn gweithio drwy gydol penwythnos yr ŵyl. Roedd bws a gyfrannwyd gan Newport Transport, wedi’i lapio mewn enfys Pride/ Balchder i ddangos cefnogaeth i gymunedau LGBTQIA+, yn darparu gofod hwyliog i gynnal gweithdai o flaen Glan yr Afon, ac ar yr un pryd yn hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Roedd Newport Transport hefyd yn cynnig teithiau bws am ddim i wirfoddolwyr oedd yn gweithio dros y penwythnos.

Y Gymeradwyaeth

Y budd i Newport Bus oedd cael mynediad at gynulleidfa ehangach, nad oeddynt o reidrwydd yn defnyddio bysiau’n rheolaidd. Trwy fod yn weladwy, roedd yn gwneud Newport Bus yn rhan o’r gymuned ac yn creu teimlad positif tuag at deithio mewn bws. Cymerwyd y cyfle hefyd i lansio ein cynnig arbennig dros yr haf – gall plant deithio am ddim yng nghwmni oedolyn.

Sophie Comelli, Newport Transport

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydol Glan yr Afon, a Newport Transport, yn falch iawn o fod wedi cydweithio i ddarparu Gŵyl y Sblash Mawr, gan roi cyfle i filoedd o bobl ymgysylltu – yn rhad ac am ddim – â chelf a gweithgareddau creadigol yng Nghasnewydd. Rydyn ni’n hynod falch o’r nifer o bobl y llwyddwyd i’w cyrraedd, ac yn gyffrous ynghylch sut y gallwn ddatblygu’r ŵyl yn y dyfodol. Dyma hefyd ddechrau partneriaeth ehangach rhwng Casnewydd Fyw, Newport Transport, a sefydliadau eraill megis Tai Dinas Casnewydd, i ddarparu rhagor o gyfleoedd creadigol.

Gemma Durham, Theatr a Chanolfan Gelfyddydol Glan yr Afon