Mynd i'r cynnwys

Nick Robinson a Motion Control Dance

Y Sialens

Banc Byrddau

 Y Sefydliad Celfyddydol: Motion Control Dance

Mae Motion Control Dance yn cyfoethogi bywydau ym Mro Morgannwg drwy symudiadau, tra hefyd yn chwalu rhwystrau a chreu priodoleddau positf ar gyfer bywyd.

Y Sialens

Roedd angen i Motion Control Dance gynyddu arbenigedd y Bwrdd mewn rheoli prosiect a systemau gweithredol i gefnogi gwaith parhaus yr elusen a’i chynlluniau i dyfu.

Yr Ymgynghorydd: Nick Robinson, Admiral

Roedd Nick yn awyddus i ymuno â bwrdd er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’w gymuned ac i barhau â’i ddatblygiad personol a phroffesiynol ef ei hun.

Y Canlyniadau

Ar gyfer Motion Control Dance

  • Arweiniad i ddatblygu’r sefydliad.
  • Creu systemau gweithredu i reoli holl raglen Motions Control Dance.
  • Datblygu sgiliau Technoleg Gwybodaeth a gwella systemau rheoli.
  • Cefnogi datblygiad cynllun 5-mlynedd Motions Control Dance a rhoi hwb i hyder Motion Control Dance yn eu gweledigaeth ar gyfer yr elusen.

Ar gyfer Nick:

  • Darganfod yr effaith mae’r celfyddydau’n ei chael ar deuluoedd ym mhob rhan o Fro Morgannwg a deall pwysigrwydd unrhyw sefydliadau celfyddydol.
  • Ennill profiad o ddatblygiad strategol ac arweinyddiaeth, drwy gymryd penderfyniadau ar lefel bwrdd.
  • Y cyfle i ddysgu am gefnogi datblygiad staff, ennill profiad mewn hyfforddi staff, a gwella ei sgiliau gwrando’n weithredol.

Y Gymeradwyaeth

“Mae Nick wedi arddangos ymddygiad ardderchog yn ei rôl fel ymddiriedolwr, gan gyfrannu at bob maes trafodaeth, boed bositif neu negyddol, a gwneud hynny mewn modd eglur ac arloesol. Cyn mynychu pob cyfarfod mae wedi paratoi’n drylwyr trwy astudio’r agenda ac mae’n ffocysu ar bob mater mewn modd proffesiynol sy’n gyrru ein elusen i gyfeiriad newydd. Mae Nick wedi rhannu ei wybodaeth a’i arbenigedd ym mhob un o’r materion pwysig, ac mae e’n eiriolwr da ar ran ein elusen. Bellach mae ei ferch yn mynychu ein dosbarthiadau dawns, felly mae e’n awr yn gweld y busnes elusennol o safbwynt cwsmer, ac mae hynny wedi bod yn hynod werthfawr i wella ein systemau.”
Emma Mallam, Motion Control Dance

 

“Gallaf ganmol i’r cymylau y cynllun hwn i osod pobl broffesiynol sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau ar Fwrdd. Rwyf wedi dysgu llawer iawn yn y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, ac yn dal i ddysgu wrth i’r elusen esblygu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n newid yn gyson ac sy’n wynebu sector y celfyddydau yng Nghymru.”
– Nick Robinson