Mynd i'r cynnwys
Poster digwyddiad wedi'i docio gyda'r geiriau PARTI; PWLL; PONTY, wedi ei ysgrifennu mewn prif lythrennau ar draws tair llinell a logo Parti Ponty a chyfeiriad gwefan partiponty.cymru mewn cylch porffor

Orchard Media, Pontypridd Pawb a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

Y Sialens

  • Hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o frand ac arddangos gwasanaethau.
  • Datblygu partneriaethau newydd.
  • Datblygu cyfleoedd sgiliau.

Yr Ymateb

Gan gydnabod gwerth Parti Ponty, unig ŵyl Rhondda Cynon Taf i’w chynnal yn yr iaith Gymraeg, ffurfiwyd partneriaeth rhwng Grŵp Cyfryngau a Digwyddiadau Orchard, Eich Pontypridd, a Menter Iaith RhCT am y tro cyntaf yn 2022. Mae Parti Ponty yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn normaleiddio dwyieithrwydd drwy’r celfyddydau. Yn dilyn saib o dair blynedd, dychwelodd y digwyddiad yn 2022 i ddathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu.

Ariannwyd gweithgareddau ac adloniant trwy gyfrwng y Gymraeg trwy fuddsoddiad gan CultureStep.

Y Canlyniadau

Roedd tua 7,000 o bobl wedi mynychu Parti Ponty, gyda rhagor yn mwynhau elfennau eraill ohoni, megis y gìg fin nos, trwy lif byw. Roedd hyn yn cynnwys 370 o blant a gafodd fynediad i’r lido yn rhad ac am ddim, llawer ohonynt am y tro cyntaf er eu bod yn byw’n lleol.

Fel y partner cynnwys a chyfryngau, creodd Orchard rîl arddangos i’w defnyddio i bwrpas hyrwyddo yn y dyfodol, ac ymgysylltodd drwy gyfrwng y Gymraeg â phobl ifanc yn y gymuned i hyrwyddo cyfleoedd o fewn y diwydiant.

Ymgysylltodd Eich Pontypridd â busnesau yn y gymuned gyda gwersi Cymraeg, gan alluogi staff i gyfarch cwsmeriaid yn yr iaith.

Mae’r berthynas rhwng y partneriaid wedi mynd o nerth i nerth.

Y Gymeradwyaeth

Mae Orchard yn gwmni sy’n falch o hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ac yn cefnogi digwyddiadau mewn ardaloedd difreintiedig. Mae nifer dda o’r staff yn siarad Cymraeg, ac mae Orchard yn awyddus i helpu i ddarparu llwyfan i ddathlu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Roedd Parti Ponty yn gyfle i Orchard godi ymwybyddiaeth o’r brand ac arddangos ei wasanaethau a’i gynnwys i gynulleidfa ehangach. Prif fudd y bartneriaeth i Orchard yw ffurfio perthnasoedd tymor-hir yn yr ardal, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau drwy’r cymunedau arloesol.

Rob Light, Cyfarwyddwr Cynnwys, Orchard 

Mae AGB Eich Pontypridd yn hyrwyddo sector fusnes tref Pontypridd tra hefyd yn ymgysylltu â’r digwyddiadau a drefnir yno. Maen nhw’n uno’r gymuned fusnes, a’r bwriad trwy’r bartneriaeth hon oedd cynnig cyfle i gyflogeion y busnesau gael gwersi Cymraeg (ar gais y gymuned fusnes) ac roedd y fenter yn gefnogol i hyn. Rhoddwyd cyfle i drafod gyda’r busnesau i feddwl am gynigion arbennig fyddai’n annog y bobl ddaeth i Parti Ponty i ymweld â’r dref hefyd, a dechrau’r sgwrs ynghylch y camau nesaf i adeiladu perthnasoedd gyda’r iaith Gymraeg, tra ar yr un pryd ddod â’r gymuned yn rhan fwy canolog o Parti Ponty.

James Payne, Swyddog Prosiectau, Pontypridd Pawb

Roedd cefnogaeth Orchard ac AGB Pontypridd Pawb wedi galluogi’r Fenter i gynnig rhaglen ehangach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol – diwrnod ychwanegol o ddigwyddiadau gyda Parti Pwll Ponty, partneriaeth gyda ParkRun Pontypridd i gynnig elfen wahanol a’i chynnwys fel rhan o ddathliadau’r diwrnod, yn ogystal â’r daith o amgylch y dref, fel bod yr ymwybyddiaeth ieithyddol yn amlwg am gyfnod hirach na dim ond yn ystod diwrnod yn y parc. Roedd y cymorth a gafwyd gan CultureStep wedi ein galluogi i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau newydd ar gyfer Parti Ponty 2022, a mwynhaodd 370 o blant lleol sesiwn rhad ac am ddim yn y Lido, Pontypridd, a chael hwyl mewn awyrgylch Cymreig ac i seiniau cerddoriaeth Gymraeg. Fe’n galluogwyd ni hefyd i gynnig profiad diwylliannol i redwyr ParkRun Pontypridd, sef cyfle i’r gwirfoddolwyr fod yn rhan o Parti Ponty, gan ein helpu i chwalu’r syniad mai Gŵyl Gymraeg i Gymry Cymraeg yn unig yw hon, a gyda’r gefnogaeth roeddem hefyd wedi gallu cynnig rhaglen lawn o weithgareddau ar gyfer teuluoedd. Yn ogystal â’r cymorth ariannol, yn bwysicach fyth, mae’r cynllun wedi helpu Menter Iaith Rhondda Cynon Taf i adeiladu perthynas gryfach gyda’r partneriaid busnes a’u cynulleidfaoedd ehangach. Yn sicr, fe wnaeth wahaniaeth mawr i Parti Ponty 2022 – diolch!

Osian Rowlands, Prif Weithredwr, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf