Mynd i'r cynnwys
Grŵp o breswylwyr cartrefi gofal yn gwylio person yn canu ac yn chwarae'r allweddellau.

Pendine Park Care Organisation a Chanolfan Gerdd William Mathias

Y Sialens

  • Darparu profiad cerddorol pleserus i breswylwyr Parc Pendine.
  • Rhoi hwb i ysbryd a lles y preswylwyr a’r gofalwyr.
  • Dangos pa mor hanfodol yw cerddoriaeth a’r celfyddydau i raglen gofal Parc Pendine.
  • Cefnogi a chyfoethogi bywydau’r gymuned ehangach yn y gogledd-ddwyrain, ac ymgysylltu ag unigolion a theuluoedd a fyddai o bosib yn defnyddio darpariaeth gofal Pendine yn y dyfodol.

Yr Ymateb

Cyflwyno pedwar perfformiad wyneb-yn-wyneb yn safleoedd Pendine Park yn Wrecsam, a pherfformiadau ar-lein i Ganolfannau sy’n darparu gofal dydd yn y gogledd-ddwyrain.

Y Canlyniadau

Diolch i fuddsoddiad CultureStep, ymestynnwyd y berthynas rhwng CGWM a Pharc Pendine drwy ariannu pedwar gweithdy/cyngerdd piano wyneb-yn-wyneb ar gyfer preswylwyr eu cartrefi gofal yn Wrecsam, a chyngherddau/gweithdai rhithiol ar Zoom ar gyfer Canolfannau Dydd yn ardal y gogledd-ddwyrain.
Llwyddodd y prosiect i gyrraedd cyfanswm o 67 o bobl hŷn, rhai ohonynt yn byw gyda dementia, ac oedolion a chanddynt anghenion cymhleth, sy’n byw yng nghartrefi gofal Parc Pendine yn Wrecsam. Cynhaliwyd cyngherddau wyneb-yn-wyneb yng Nghartref Gofal Highfield ac yn Hillbury House, a chyngherddau ar-lein yn Y Bont ac Y Popty, sef canolfannau dydd yn sir Ddinbych ar gyfer oedolion a chanddynt anableddau dysgu.
Cyflwynwyd y cyngherddau hyn gan ddau bianydd ifanc proffesiynol, Iwan Wyn Owen a Bethan Griffiths – dau o gyn-fyfyrwyr gwych CGWM sydd bellach yn diwtoriaid yn CGWM yn ogystal ag yn gweithio’n llawrydd.

Cyngerdd Hillbury

Y Gymeradwyaeth

Ar ôl holl heriau cyfnod Covid, pleser o’r mwyaf oedd gallu darparu gweithgareddau wyneb-yn-wyneb yn y cartrefi gofal unwaith eto, a gwerthfawrogwyd y cyfle hwn yn fawr gan staff a phreswylwyr y cartrefi gofal, a’r perfformwyr llawrydd, fel ei gilydd. Y prif fudd i CGWM yw cael mwy o bresenoldeb yn ardal y gogledd-ddwyrain, ac ymgysylltu ag aelodau newydd o’r gymuned a phartneriaid newydd. Mae datblygu partneriaeth gyda Pharc Pendine yn werthfawr iawn i ni. Roedd y prosiect CultureStep hefyd wedi ein galluogi i sicrhau bod ardal ehangach o Gymru’n cael budd o weithgareddau Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, a chynnig cyfleoedd newydd i’n tîm o diwtoriaid cerdd llawrydd trwy drefnu iddynt berfformio mewn lleoliadau gwahanol a datblygu fel tiwtoriaid ac fel perfformwyr.

Meinir Llwyd Roberts, CGWM

Pleser pur oedd gwrando unwaith eto ar sain y piano’n atseinio drwy’r coridorau. Mae gan Bethan dalent gwbl naturiol, a dull hypnotig o chwarae. Beth bynnag oedd y darn – clasurol neu fodern – roedd pawb yn y gynulleidfa wedi eu swyno’n llwyr.

Rheolwr Hillbury , Cindy Clutton

Roedd y cyngerdd yn mynd â mi’n ôl i ddyddiau fy ieuenctid pan fyddwn i, fel merch ifanc, wrth fy modd yn mynd i gyngherddau. Mae gan Bethan ddawn gynhenid, ac roedd ei pherfformiad yn gwbl hudol. Roedd yn brynhawn hyfryd dros ben.

Audrey Taylor, un o breswylwyr Hillbury

Mae ‘What a Wonderful World’ yn un o’m hoff alawon, ac roedd Bethan yn ei chwarae’n wych. Roedd yn rhaid imi ganu’n uchel – doedd dim modd fy atal! Roedd yn brofiad arbennig i allu gwrando ar artist proffesiynol yn chwarae’n fyw i ni unwaith eto, ac ymuno yn y canu.

Val Barnett, un o breswylwyr Hillbury