Mynd i'r cynnwys
Perfformiwr o flaen meicroffon gyda wal frics yn y cefndir

Phoenix Business Solutions, Cardiff Safe Deposit a Cardiff International Film Festival

Y Sialens

  • Mynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol, a gwneud cynhyrchu ffilmiau yn fwy hygyrch i genhedlaeth newydd sy’n anelu at fod yn broffesiynol.
  • Cefnogi pobl ifanc, a chymunedau a dangynrychiolir, drwy gyfrwng y sinema.

Yr Ymateb

Creu tair ffilm nodwedd, gan roi cyfle i gymunedau amrywiol rannu eu straeon, magu hyder a datblygu talent ar lefel llawr gwlad.

Trwy gyfrwng digwyddiadau allgyrch, bu’r partneriaid yn gweithio gydag arweinwyr cymunedol a chynrychiolwyr i gysylltu â chyfranogwyr, gan greu platfform lle gallai gwneuthurwyr ffilmiau lleol ddod at ei gilydd a dathlu sinema.

Cefnogodd CultureStep y cynllun trwy ariannu digwyddiadau allgyrch mewn cymunedau amrywiol sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol-economaidd i annog ymgysylltiad a chyfranogiad.

Y Canlyniadau

Llwyddodd y tair ffilm i ymgysylltu a darparu gwaith ar gyfer dros 40 o gyfranogwyr. O’r rhain, roedd 30 yn bobl ifanc o gymunedau a dangynrychiolir a rhai sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol-economaidd.
Dangoswyd y ffilmiau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd i gynulleidfa o 10,000 o unigolion. Roedd dros 150 o bobl o’r cymunedau cysylltiedig wedi cymryd rhan yn yr ŵyl trwy gyflwyno’r dangosiadau a helpu gyda’r rhaglen.

Ers hynny, mae 15 o bobl ifanc o’r cymunedau hyn wedi derbyn hyfforddiant pellach a chyfleoedd am waith.

Y Gymeradwyaeth

Trwy fod yn gwmnïau cyfrifol, gall busnesau gael effaith sylweddol yn gymdeithasol, fel cyflogwr ac fel cymydog. Roedd y cymorth a gafwyd trwy CultureStep wedi ein helpu i adeiladu perthynas gyda chwsmeriaid a’r cymdogaethau. Mae’r bartneriaeth wedi ymrwymo i barhau yn y tymor hir a bydd yn ariannu’r prosiectau hyn yn gyson.

Sudeep Singh, Phoenix Business Solutions

Mae yna ddiffyg amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol, ac rydym yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wyrdroi’r arfer hwnnw a gwneud creu ffilmiau yn fwy hygyrch i genhedlaeth newydd o wneuthurwyr ffilm addawol yng Nghymru. Credwn fod angen i ni ymgysylltu â gwahanol gymunedau os am gael cyfranogiad llawn yn yr ŵyl. Mae CultureStep wedi caniatáu i Gaerdydd agor ei breichiau i ddathlu a chroesawu’r cyfraniadau gwefreiddiol, yn rhyngwladol a lleol, mewn prosiectau yn y celfyddydau a’r sinema; trwy ein galluogi ni i ddod ag aelodau o wahanol gymunedau a dargedwyd, mae’r prosiect wedi pontio’r gagendor mewn cymunedau lleol, gan ddod â chynulleidfaoedd o bob cefndir i un platfform cyffredin.

Rahil Sayed, Cardiff International Film Festival