Plantlife & Live Music Now & Ucheldre
Y Sialens
Nod Plantlife oedd annog ymgysylltiad cymunedol rhwng cenedlaethau trwy ei brosiect Twyniweddau Dynamig, a gynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd twyni tywod, eu ffurfiant, gwerth ecolegol a threftadaeth. Er mwyn meithrin gwerthfawrogiad a chadwraeth o dwyni lleol drwy’r celfyddydau, gofynnodd y busnes i C&B Cymru frocera partneriaethau a fyddai’n cyflwyno dysgu creadigol ar y pwnc.
Yr Ymateb
Hwylusodd C&B Cymru ddwy bartneriaeth rhwng Plantlife a’i aelodau celfyddydol: un gyda Live Music Now, elusen sy’n defnyddio cerddoriaeth i wella llesiant a chysylltu cymunedau ar draws y DU ac un arall gyda Chanolfan Ucheldre, elusen gelfyddydol sy’n cynnig arddangosfeydd, perfformiadau a gweithdai sy’n meithrin mynegiant creadigol ac ymgysylltu â chymuned Gogledd Cymru.
Y Canlyniadau
Adnewyddwyd twyni tywod gan Dynamic Dunescapes mewn saith lleoliad Cymreig. Arweiniodd Live Music Now weithdai mewn pedair ysgol gynradd yn ne Cymru. Creodd y disgyblion offerynnau o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, yna ysgrifennu a recordio cân. Yng Ngogledd Cymru, cyflwynodd Canolfan Ucheldre sesiynau celfyddydol i 96 o bobl, gan arwain at arddangosfa a fynychwyd gan 1,200 o bobl. Gwnaeth y ddau bartner celfyddydol hefyd ffilmiau o’u gweithgaredd, sy’n gwasanaethu fel cymynroddion creadigol y prosiect.
Y Gymeradwyaeth
Roeddem wrth ein bodd i weld grwpiau amrywiol yn cymryd rhan yn y prosiect hwn, gan arwain at gynnydd sylweddol mewn ymwelwyr newydd ac ymgysylltiad. Arweiniodd comisiynu artistiaid at weithiau newydd ysbrydoledig ac roeddem yn falch o fod yn bartner gyda menter gymdeithasol leol, gan greu effaith gadarnhaol yn ein cymuned. Mike Gould, Rheolwr Cyffredinol, Canolfan Ucheldre
Yn Live Music Now Cymru, rydym wedi ymrwymo i gyfrifoldeb amgylcheddol a defnyddio dull ‘ymwybodol o’r hinsawdd’ ym mhopeth a wnawn. Mae’r prosiect hwn wedi atgyfnerthu ein dyletswydd ddinesig i fod yn ‘gyndeidiau da’, tra’n galluogi ein cerddorion i gysylltu ag ysgolion nad oeddem wedi’u cyrraedd o’r blaen, gyda chanlyniadau ysbrydoledig i’r myfyrwyr. Mae cerddoriaeth fyw yn arf pwerus, yn agor llwybrau newydd i blant ac yn cyfoethogi eu cyfathrebu. Jen Abell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Live Music Now Cymru
Mae’r cydweithio hwn wedi gwella’n fawr ein dealltwriaeth o weithio gyda’r sector celfyddydol a diwylliannol, gan chwarae rhan allweddol wrth lunio ein strategaeth gelfyddydol. Llwyddodd y prosiect i gysylltu cymunedau lleol â thirweddau twyni tywod, gan feithrin gwerthfawrogiad dyfnach o’r cynefinoedd amrywiol hyn, sy’n fwy na thywod yn unig ac sydd angen cadwraeth. Trwy ymgysylltu â grwpiau cymunedol amrywiol a hwyluso cysylltiadau rhwng cenedlaethau, fe wnaethom amlygu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal, gan alluogi ymgysylltu ar bob lefel a chryfhau bondiau cymunedol. Cassie Crocker, Rheolwr Prosiect, Plantlife Cymru