Mynd i'r cynnwys
Criw mawr o blant ysgol yn canu o flaen hyfforddwr o Elusen Aloud.

Port of Milford Haven ac Elusen Aloud

Y Sialens

  • Annog disgyblion ysgol i ystyried gyrfa yn y sector ynni adnewyddadwy morol.
  • Hyrwyddo manteision prosiect Doc Morol Penfro i’r gymuned leol.
  • Hyrwyddo negeseuon amgylcheddol mewn modd creadigol ac ymgysylltiol.
  • Creu etifeddiaeth ddigidol y gall y gymuned fod yn falch ohoni.

Yr Ymateb

Fel rhan o’r gwaith o hyrwyddo prosiect Doc Morol Penfro, aeth Porthladd Aberdaugleddau ati i gomisiynu Elusen Aloud i gyflawni prosiect cyfansoddi cân. Comisiynodd Aloud gyfansoddwr caneuon proffesiynol i gyfansoddi cytgan o safon uchel, yn gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol. Dilynwyd hyn gan weithdy cyfansoddi cân gyda myfyrwyr cerdd yn Ysgol Harri Tudur, yr ysgol uwchradd leol, i greu pennill bachog. Crëwyd ffilm o’r gân, oedd yn cynnwys pobl ifanc ac aelodau o’r gymuned, a rhannwyd hi ar draws y platfformau digidol. Llwyddodd y Porthladd hefyd i sicrhau buddsoddiad yn y prosiect gan ei bartneriaid Celtic Sea Power, Marine Energy Wales ac ORE Catapult, a chryfhaodd CultureStep y prosiect trwy gyfrannu tuag at ffi y cyfansoddwr caneuon a’r offer recordio. Defnyddiwyd peth arian hefyd i wella hygyrchedd y ffilm, a noddi costau dehongliad IAP/BSL, cyfieithu ac is-deitlau.

Y Canlyniadau

Bu Aloud yn gweithio gyda 40 o ddisgyblion Ysgol Harri Tudur, yn ogystal â 50 aelod o’r gymuned, i greu a pherfformio’r fideo cerdd. Roedd y ddau barti wrth eu bodd gyda lefel yr ymgysylltiad a gafwyd gan fusnesau ac unigolion yn Noc Penfro.
Rhannwyd y ffilm ar y gwahanol gyfryngau cymdeithasol, gan hyrwyddo datblygiad Prosiect Doc Morol Penfro ac amlygu pwysigrwydd ynni cynaliadwy. Llwyddwyd i gyrraedd oddeutu 6,300 o bobl ar-lein.
Diolch i fuddsoddiad CultureStep, ariannwyd ail ddiwrnod o weithdai a arweiniodd at ymgysylltu gwerthfawr, gwell safon o ran cyfansoddi cân, a gwell dealltwriaeth o ynni cynaliadwy. Yn ogystal, rhoddodd y cynllun gymorth i greu ffilm o safon uchel ar ddiwedd y prosiect.

Fideo Tu ôl i’r Llenni

Fideo Cerddoriaeth Terfynol

Y Gymeradwyaeth

Y prif fuddion i’r Porthladd yw ein bod wedi ein trochi ein hunain yn y gymuned leol ac adeiladu perthnasoedd cryfach. Fe lwyddwyd i roi sylw i’n cynlluniau datblygu a’r cyfleoedd am yrfa yn y diwydiant adnewyddadwy i ddisgyblion ysgol lleol yn ogystal ag i aelodau o gymuned Doc Penfro. Roedd yn gyfle ardderchog i ddangos ein hymrwymiad i un o’n gwerthoedd craidd, sef cynaliadwyedd. Trwy weithio gydag elusen gyfarwydd ac iddi enw da, cawsom gyfle i greu etifeddiaeth ddigidol unigryw, sy’n rhywbeth mae’r Porthladd a phartneriaid busnes eraill yn falch iawn ohono. Roedd yn wych gallu codi proffil Prosiect Doc Morol Penfro a’r cyfleoedd a grëir o fewn yr ardal leol.

Sara Richards, Port of Milford Haven.

Y prif fudd i Aloud oedd gallu ymgysylltu’n fwy eang gydag aelodau o’r gymuned yng ngorllewin Cymru. Rhoddodd y bartneriaeth sefydlogrwydd ariannol i Aloud i’w galluogi i fuddsoddi mewn offer recordio proffesiynol fyddai’n arwain at gynnyrch o safon uchel. Yn ogystal, ychwanegodd y prosiect werth i’n henw da trwy gysylltiad positif gyda chorfforaeth fawr, a rhoddodd gymorth i Aloud godi ymwybyddiaeth o’r corau Gorllewin Cymru newydd ymhlith rhai a allai fod yn awyddus i gymryd rhan. Mae’r prosiect hefyd wedi helpu Aloud i ddatblygu perthynas newydd gydag Ysgol Harri Tudur ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol.

Hannah Beadsworth, The Aloud Charity