Mynd i'r cynnwys
Cynulleidfa fawr o bobl yn sefyll ar laswellt yn gwylio perfformiwr ar y llwyfan yn dal meicroffon. Mae cefndir y ddelwedd yn dangos glaswellt, coed, pebyll mawr a strwythur Castell Caerdydd gydag awyr oriog uwchben.

Prifysgol De Cymru a Menter Caerdydd

Y Sialens

  • Ailsefydlu Gŵyl Tafwyl yn dilyn y pandemig, a chynnig rhaglen sy’n apelio at bob oedran, gyda ffocws arbennig ar ymgysylltu pobl ifanc sy’n gymdeithasol ddifreintiedig â’r celfyddydau.
  • Sefydlu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn rhan o fywydau pobl ifanc fel conglfaen Cymraeg 2050, y cynllun i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
  • Dangos ymrwymiad a chefnogaeth barhaus Prifysgol De Cymru i’r iaith Gymraeg a’r celfyddydau yng Nghaerdydd.

Yr Ymateb

Bu Tafwyl yn gweithio gydag ysgolion lleol – llawer ohonynt mewn ardaloedd difreintiedig o Gaerdydd – i ennyn diddordeb plant yn y gweithgareddau celfyddydol cyfranogol wedi’u ffocysu ar blant a drefnir drwy gyfrwng y Gymraeg gan Tafwyl.

Gyda chymorth y partneriaid, cyflwynodd Tafwyl strategaethau marchnata newydd ar draws rhanbarth dinesig Caerdydd er mwyn denu rhagor o bobl i’r digwyddiad. Ariannwyd ardal y plant a’u gweithgareddau celfyddydol gan fuddsoddiad CultureStep.

Y Canlyniadau

Roedd 31,000 o bobl wedi mynychu Tafwyl 2022, gyda chynnydd sylweddol – tua 10,000 – yn y nifer o bobl ifanc oedd yn bresennol. Llwyddodd y prosiect i ymgysylltu â phlant a theuluoedd o bob ardal o Gaerdydd, o bob cefndir a sefyllfa ariannol, i fwynhau gweithgareddau o safon uchel i blant, a’r cyfan yn rhad ac am ddim mewn lleoliad eiconig yn y brifddinas; roedd y rhain wedi rhagori ar y disgwyliadau, a chafwyd adborth anhygoel.

Roedd Tafwyl wedi galluogi Prifysgol De Cymru i ddyrchafu ei henw da fel sefydliad sy’n angerddol dros yr iaith Gymraeg a’r diwylliant. Trefnwyd man pwrpasol lle gallai ymwelwyr sgwrsio gydag aelodau o staff PDC, cymryd rhan mewn gweithgareddau, a dod i wybod am ddigwyddiadau sydd ar y gweill ar gampws Caerdydd, gan chwyddo presenoldeb PDC o fewn y gymuned Gymraeg a Chaerdydd. Rhoddwyd cyfle i nifer o bobl ifanc ymweld â Champws Caerdydd ac ymarfer yno yn ystod Wythnos Ymylol Tafwyl, lle cawsant brofiad personol o’r hyn sydd ar gael ar stepen eu drws, a chyfle i ystyried astudio ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Gymeradwyaeth

Dychwelodd Tafwyl 2022 i Gastell Caerdydd, lle cafwyd gŵyl lwyddiannus iawn; roedd y bartneriaeth wedi’n galluogi i guradu rhaglen wych o weithgareddau yn ardal y plant, a chyfrannodd yn hael iawn tuag at gostau’r isadeiledd a’r safle, sy’n holl bwysig i sicrhau bod yr ŵyl yn rhedeg yn llwyddiannus. Roedd gallu defnyddio cyfleusterau ardderchog Prifysgol De Cymru ar gyfer gweithdai ac ymarferion hefyd yn fanteisiol iawn, gan gyfrannu at y rhaglen o weithgareddau yn ystod Wythnos Ymylol Tafwyl, galluogi cynnal Tafwyl mewn mannau heblaw Castell Caerdydd, a rhoi cyfle i fwy o bobl brofi a mwynhau digwyddiadau’n gysylltiedig â Tafwyl y tu hwnt i furiau’r castell. Mae’r bartneriaeth rhwng PDC a Menter Caerdydd wedi’i seilio ar gyd-ddealltwriaeth a pharch at yr iaith a’r diwylliant Cymraeg o fewn y diwydiannau creadigol a’r cymunedau lleol, wrth i ni weithio tuag at gysylltu’r celfyddydau a’r iaith â phobl ifanc leol o bob cefndir; mae hyn yn parhau y tu hwnt i’r ŵyl ei hun, gyda gweithdai’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn gan roi cyfle i blant a phobl ifanc arbrofi a chreu dan arweiniad mentoriaid profiadol. Gobeithiwn barhau â’r bartneriaeth eleni eto gyda Tafwyl 2023, gyda’r nod o wneud yr ŵyl hyd yn oed yn fwy hygyrch i blant a theuluoedd o bob cefndir.

Caryl McQuilling, Prif Swyddog Tafwyl