Mynd i'r cynnwys
Criw o blant ysgol ifanc yn gwenu ac eistedd mewn hanner cylch ar lawr pren, yn gwylio perfformiwr yn chwarae'r drymiau.

Richard H Powell a Partners Ltd a Gŵyl Gerdd y Bont-faen

Y Sialens

  • Dangos ymrwymiad i achosion cymdeithasol a chyfrifoldeb i’r gymuned.
  • Sicrhau rhagoriaeth artistig yng Nghymru.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth brand ym Mro Morgannwg ac ennill sylw ehangach fel busnes sydd wedi ymrwymo i’r gymuned leol.

Yr Ymateb

Noddwyd Gŵyl Gerdd y Bont-faen gan Richard H Powell & Partners er mwyn datblygu ei rhaglen allgyrch. Roedd y gweithgareddau a ddeilliodd o hyn yn cynnwys gweithdai mewn ysgolion cynradd, cyngherddau i’r teulu, a pherfformiadau mewn cartrefi gofal.

Cyfrannodd CultureStep at y broses gyfan.

Y Canlyniadau

Roedd y rhaglen allgyrch wedi ymgysylltu â phump o ysgolion cynradd, gyda 750 o blant yn cael budd o’r gweithdai. Roedd y staff ym mhob ysgol hefyd wedi cael budd o ddysgu sut i ddefnyddio gemau cerddoriaeth ac ymarferion rhythm fel rhan o’u haddysgu.

Mynychodd 200 o bobl y Cyngerdd i’r Teulu, ac roedd 150 o bobl hŷn wedi mwynhau perfformiadau a gynhaliwyd mewn pump o gartrefi gofal.

Darparodd y bartneriaeth ddull unigryw o gysylltu ag aelodau o’r gymuned – yr  ifanc iawn a’r to hŷn – gan sicrhau bod yr ŵyl yn rym dros les y gymuned.

Y Gymeradwyaeth

Roedd pob un o’n dysgwyr wedi ymgysylltu’n llwyr, a mwynhau’r sesiynau a ddarparwyd yn fawr iawn. Roedd y plant yn gyffrous, brwdfrydig, chwilfrydig, yn gofyn cwestiynau, ac yn dod â rhagor o gwestiynau’n ôl i’r dosbarthiadau. Roedd pob aelod o’r staff fu’n rhan o’r sesiynau yn dweud bod Patrick yn wych gyda’r holl ddysgwyr, yn cynnwys y rhai oedd efallai ag angen cymorth ychwanegol i gael mynediad at brofiadau dysgu positif. Roedd y cyfan yn cefnogi gwybodaeth ein plant o’r gwahanol offerynnau, gwaith tîm a pherfformio.

Athro/Athrawes, Ysgol Y Ddraig

Roedd Patrick yn wych gyda’r plant – mor ddymunol a brwdfrydig. Dyna wych oedd gweld bod modd i’r holl blant gymryd rhan a rhoi cynnig ar offeryn. Roedd Blwyddyn 4 wrth eu bodd, a buont yn clapio’r rhythmau drwy’r prynhawn!

Athro/Athrawes, Ysgol Gynradd y Bont Faen 

Mae bod yn gysylltiedig â gŵyl gerdd lwyddiannus, a chanddi raglen allgyrch fywiog, yn fodd effeithiol o ddangos ymrwymiad dilys ac ystyrlon y busnes i achosion cymdeithasol a’r gymuned. Mae’r celfyddydau’n bwysig i iechyd y gymuned – ffaith a amlygwyd yn ystod cyfnod y pandemig gyda’r ffocws ar iechyd meddwl – a thrwy gyfrwng yr ŵyl galluogwyd ni i wneud cyfraniad real, a werthfawrogwyd yn fawr, i hyrwyddo’r celfyddydau fel grym i gefnogi lles y gymuned.

Richard Powell, Cadeirydd, Richard H Powell & Partners

Eleni, galluogwyd ni i ddangos ein hymrwymiad i’r gymuned, ac ymestyn ein gwaith allgyrch. Roedd y buddsoddiad yn golygu y gallem barhau â’n gweithgareddau allgyrch ar yr un lefel ag mewn blynyddoedd a fu, gan gyrraedd niferoedd cyfatebol a hyd yn oed gynyddu’r nifer o ysgolion oedd yn cymryd rhan. Roedd y gwaith allgyrch hefyd yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac i adeiladu cynulleidfaoedd y dyfodol. Mae gwaith yr ysgolion yn ymestyn y tu hwnt i’r plant eu hunain ac yn gwneud athrawon a rhieni’n ymwybodol o’r ŵyl gan eu hannog i ymgysylltu â hi a mynychu perfformiadau eraill.

Joe Fort, Gŵyl Gerdd y Bont-faen