Mynd i'r cynnwys
Grŵp o blant ysgol yn rhedeg mewn neuadd chwaraeon.

Roberts of Port Dinorwic a Chanolfan Gerdd William Mathias

Y Sialens

  • Cynyddu ymwybyddiaeth leol o Roberts of Port Dinorwic a’i weithgaredd.
  • Cefnogi digwyddiad ac iddo weledigaeth leol a rhyngwladol.
  • Bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n anelu am ragoriaeth ac ysbrydoli eraill.

Yr Ymateb

Darparu gweithdai mewn dwy ysgol gynradd yn seiliedig ar y gwaith ‘Carnival of the Animals’ gan Saint-Saëns. Cafodd y plant gyfle i wrando ar y pianydd Iwan Llewelyn Jones yn perfformio’r gerddoriaeth, a bu cerddor-storïwr yn eu hannog i ddyfeisio’u geiriau eu hunain mewn ymateb i’r gerddoriaeth. Cafodd eu geiriau hwy, yn cael eu llefaru gan y ddau storïwr, eu cynnwys yn y perfformiad o ‘Carnival of the Animals’ fel rhan o gyngherddau rhithiol yr ŵyl.

Y Canlyniadau

Derbyniodd CGWM ragor o geisiadau o’i cymharu â gŵyl 2016, a chredant fod y wobr ariannol uwch – a wnaed yn bosibl drwy gyfraniad hael Roberts of Port Dinorwic – wedi cyfrannu at y cynnydd hwn.

Trwy gyfrwng buddsoddiad gan CultureStep, galluogwyd CGWM i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, ac i weithio gyda phlant na fyddent fel arall wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y gweithdai hyn. Mae gan y ddwy ysgol a gymerodd ran yn y prosiect lefel uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o blant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim, ac nid oedd unrhyw wersi peripatetig – offerynnol na lleisiol – yn cael eu cynnig mewn un o’r ysgolion.

Ymgysylltodd CGWM â mwy na’r hanner cant o blant y bwriadwyd eu cael yn wreiddiol, gyda chyfanswm o 90 o blant yn cymryd rhan yn y gweithdai; buont yn gweithio gyda dau artist llawrydd newydd, gan gyfuno elfennau o lenyddiaeth a cherddoriaeth. Roedd Penaethiaid y ddwy ysgol yn awyddus iawn i’r plant gael y cyfle hwn, gan deimlo y byddai’n hwb i’w hyder ac yn cefnogi dysgu.

Cyflawnwyd y prosiect drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Cyngerdd Carnifal yr Anifeiliaid gan Saint-Saëns

Y Gymeradwyaeth

Mae gan Roberts of Port Dinorwic a Chanolfan Gerdd William Mathias nifer o amcanion yn gyffredin – anelu am ragoriaeth, bob amser yn awyddus i ddatblygu cynhyrchion newydd, a rhoi’r gymuned wrth galon eu gwaith. Trwy weithio mewn partneriaeth ar y Gwyliau Piano Rhyngwladol, mae’r ddau sefydliad wedi helpu ei gilydd i wireddu’r gwerthoedd hyn. Fel busnes teuluol, mae ymgysylltiad cymunedol yn bwysig iawn i Roberts of Port Dinorwic. Roedd y prosiect CultureStep yn gyfle i gyfoethogi’r gymuned, yn ogystal ag i gefnogi’r pianyddion rhyngwladol disglair oedd yn cystadlu yn yr ŵyl.

Meinir Llwyd Roberts, Canolfan Gerdd William Mathias