Mynd i'r cynnwys
Person mewn cadair olwyn, yn dal beiro yn ei geg ac yn ei ddefnyddio i dynnu nodyn cerddoriaeth ar ddarn o bapur aur wedi'i baentio a'i glipio i îsl

Sefydliad Gofal Parc Pendine a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru (GGRGC)

Y Sialens

  • Hybu’r celfyddydau mewn gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru
  • Bod yn weithredol wrth gefnogi cynlluniau lleol ac ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r brand ledled gogledd Cymru, gan hyrwyddo Parc Pendine fel cymydog da a busnes cyfrifol.

Yr Ymateb

Sefydlwyd y bartneriaeth wreiddiol rhwng GGRGC a Sefydliad Gofal Parc Pendine yn 2011.  Yn 2022, cynyddodd y busnes ei gefnogaeth, gan ddod yn Brif Noddwr yr Ŵyl Dathlu 50 Mlynedd. Roedd y nawdd wedi helpu GGRGC i gyflawni ei brif nodau: Rhagoriaeth Artistig, Cydraddoldeb Diwylliannol a Datblygu Cynulleidfa, a’r Celfyddydau, Addysg a Dysgu Creadigol.

Cyfrannodd buddsoddiad CultureStep at waith helaeth yr Ŵyl mewn cymunedau ledled gogledd Cymru.

Y Canlyniadau

Llwyddodd y gwaith cymunedol i gyrraedd cynulleidfa o dros 3,000.

Diolch i gymorth Parc Pendine, cynhaliwyd cyngerdd Dementia-gyfeillgar, a gyflenwyd am y tro cyntaf gan GGRGC.

Darparodd Canolfan Gerdd William Mathias dri edefyn o weithgaredd ar gyfer yr ŵyl – Camau Cerdd/Steps in Music, gan ymgysylltu â 60 o blant rhwng 1 a 7 mlwydd oed; Talentau Cudd, a gyrhaeddodd 10 oedolyn a chanddynt anghenion ychwanegol, a’r Prosiect Offerynnol a ymgysylltodd â 30 o unigolion.

Cymerodd 1,200 o bobl ran yn y Prosiect Bynting Aur Ysgolion a Chymuned, yn cynnwys preswylwyr Parc Pendine.

Bu’r Daith Gymunedol, a ddarparwyd gan Live Music Now Cymru, yn ymweld ag ysgolion mewn ardaloedd economaidd-ddifreintiedig, ysgolion arbenigol i’r rhai a chanddynt anableddau corfforol neu anableddau dysgu, a’r rhai hynny oedd yn methu ymweld â’r Eglwys Gadeiriol oherwydd salwch neu nychdod. Drwy gyfrwng y daith, llwyddwyd i gyrraedd 1,800 o unigolion.

Y Gymeradwyaeth

Parhawyd â’n strategaeth hir-dymor o gyfoethogi bywydau ar draws y cenedlaethau, sy’n  gonglfaen diwylliant a gwerthoedd ein brand, a wreiddiwyd i raddau helaeth iawn o fewn y celfyddydau a cherddoriaeth yn ein cymunedau lleol rhanbarthol a chenedlaethol. Roedd y prosiect hefyd yn ein galluogi i adlewyrchu, mewn modd dwfn ac ystyrlon, ar effaith ddwys y pandemig mewn gofal cymdeithasol, ac i ddiolch yn gerddorol i’n holl staff, ein preswylwyr, eu teuluoedd a’n cymuned yn gyffredinol. Dymunai Pendine ymuno â dathliad 50 mlynedd GGRGC a chefnogi pa mor bwysig i ogledd Cymru yw eu hymgysylltiad cymunedol ar draws pob grŵp oedran, yn enwedig pobl iau a phobl hŷn, a’u hymwneud â lles – yn cynnwys eu digwyddiadau profil-uchel, cyngherddau cymunedol, prosiectau addysgol, a thaith o amgylch cartrefi gofal cymunedol, ysbytai ac ysgolion. Roedd ein partneriaeth wedi ein galluogi i  ymgysylltu ymhellach â’r gymuned, hybu’r celfyddydau a cherddoriaeth mewn gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru, dathlu a chefnogi sefydliad celf hanesyddol yn ei 50fed flwyddyn, bod yn weithredol wth gefnogi cynlluniau lleol, a chodi ein proffil busnes.

Sarah Edwards, Artist Preswyl Ymgynghorol, Sefydliad Gofal Parc Pendine

Mae Parc Pendine a GGRGC yn rhannu’r un nodau busnes clir. Dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu dull cynaliadwy o weithio, ac mae Pendine yn werthfawrogol iawn o ymrwymiad GGRGC i weithio o fewn y gymuned, ein prosiectau addysgol, ein hamrywiaeth a’n rhagoriaeth artistig, ac wedi nifer o flynyddoedd heriol rydym unwaith eto’n rhoi mynediad at gerddoriaeth fyw i gynulleidfaoedd. Mae hynny’n holl bwysig ar gyfer ein lles corfforol a meddyliol, codi’n hysbryd, a bwydo’r enaid drwy gerddoriaeth. Eleni, ar ein pen blwydd yn 50, mae Pendine wedi helpu i ddathlu, adlewyrchu a gwerthfawrogi’r ffaith bod GGRGC wedi chwarae rhan mor bwysig ym mywyd diwylliannol a cherddorol Cymru, a’r cyfleoedd a roddwyd i gynifer o bobl, yn enwedig yn ein cymuned leol.

Caroline Thomas, Rheolwr Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru