Mynd i'r cynnwys
Grŵp o blant ysgol ifanc a dau actor Hijinx, sydd wedi gwisgo mewn gwisgoedd gofodwr, yn sefyll mewn stryd. Mae dau o’r blant  yn rhoi ‘high five’ i un o'r actorion Hijinx.

Severn Screen a Hijinx

Y Sialens

  • Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
  • Cryfhau adnabyddiaeth brand ledled Cymru.
  • Dangos ymrwymiad y cwmni i weithio’n gynhwysol.
  • Adeiladu sgiliau a phrofiad y staff pan yn gweithio’n gynhwysol.
  • Dangos ymarfer gorau mewn creu theatr a ffilm sy’n wirioneddol gynhwysol, a chynyddu’r gynrychiolaeth o bobl a chanddynt anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yn y celfyddydau a’r gymdeithas ehangach.

Yr Ymateb

Estynnodd Severn Screen ei gymorth i Hijinx trwy gynnwys noddi Gŵyl Undod, un o wyliau celfyddydol mwyaf Ewrop ym maes anabledd a’r celfyddydau cynhwysol, a’r unig un o’i bath yng Nghymru; ariannodd CultureStep brofiadau proffesiynol yn y diwydiant yn yr Ŵyl ar gyfer actorion Hijinx a chanddynt anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, a chyfrannu tuag at gost gwisgoedd a deunyddiau ar gyfer perfformiadau actorion yr Academi.

Y Canlyniadau

Roedd y cymorth a gafwyd gan Severn Screen a CultureStep wedi galluogi Hijinx i gyflwyno Gŵyl Ffilmiau Undod am y tro cyntaf erioed. Darparwyd 73 o berfformiadau a 29 o ffilmiau a grëwyd gan artistiaid anabl, neu gan grwpiau o artistiaid anabl a heb anabledd. Ymgysylltodd yr Ŵyl Ffilmiau â thros 550 o bobl yng Nghaerdydd, Llanelli a Bangor, dros 260 o bobl ar-lein, a bron i 8,600 yn ystod yr Ŵyl Undod yn ei chyfanrwydd.

Roedd hanner y gynulleidfa’n newydd i Undod Hijinx, gyda 38% yn gweld perfformiad cynhwysol am y tro cyntaf. Cafodd trigain o ddisgyblion o dair ysgol gynradd ym Mangor gyfle i fwynhau rhaglen o berfformiadau a guradwyd yn arbennig, a hynny’n rhad ac am ddim.

Llwyddodd yr ŵyl i gynyddu hyder, annibyniaeth, a sgiliau proffesiynol 63 o actorion Hijinx a chanddynt anableddau dysgu, a chawsant gyfle i ddatblygu a chyflwyno eu gwaith eu hunain fel rhan o’r ŵyl; darparwyd cyfleoedd hefyd i 76 o artistiaid anabl, rhai a chanddynt anabledd dysgu, a rhai nad oeddynt yn anabl, o bob cwr o’r byd i berfformio ar lwyfan proffil-uchel. Yn ogystal, darparodd Undod gyflogaeth i 32 o bobl greadigol llawrydd wedi’u lleoli yng Nghymru, 18 o wirfoddolwyr, pump o leoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc, a 24 o bobl i weithredu fel criw, stiwardiaid, gweinyddwyr, a masnachwyr.

Darparodd CultureStep brofiadau â thâl wedi’u ffocysu ar y diwydiant i bedwar actor a chanddynt anabledd dysgu. Roedd hwn yn brofiad hynod werthfawr, gan alluogi’r actorion i fynychu sesiynau Holi ac Ateb a thrafodaethau panel y diwydiant fel panelwyr â thâl, yn cymryd cwestiynau gan y gynulleidfa a chwrdd â gwneuthurwyr ffilm, cynhyrchwyr ac actorion rhyngwladol, fel partneriaid cyfartal, ym mhob un o leoliadau’r ŵyl.

Y Gymeradwyaeth

Roedd yr ŵyl wedi rhoi cyfle marchnata newydd, gwych, i Severn Screen i’w galluogi i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a cryfhau’r brand ledled Cymru, gan ddangos cysylltiad ac ymrwymiad i wneud y celfyddydau’n hygyrch i bawb, cynyddu cynrychiolaeth grwpiau ymylol ar y llwyfan a’r sgrin, ac ehangu demograffig y rhai maent yn eu cyflogi. Cafodd Severn Screen fudd o hyrwyddo eu hegwyddorion i’r diwydiant yn ehangach, ac i’r cyhoedd, ynghyd â chael chyfle i archwilio sut y gellid creu cynnwys i’r sgrin mewn modd gwirioneddol gynhwysol, tyfu’r brand yn rhyngwladol, a chael eu hadnabod ledled Ewrop a thu hwnt fel enghreifftiau o ymarfer cynhwysol.

Mathew Talfan, Severn Screen

Roedd cysylltu enw Severn Screen â’r ŵyl yn gymorth i ddyrchafu’r digwyddiad a safle  Hijinx ym maes ffilm a theledu. Mae hyn yn cynyddu amlygrwydd ein cenhadaeth i wella cynrychiolaeth mewn modd ystyrlon a dilys. Daeth buddion pellach o allu gweithio gyda, a thynnu ar gysylltiadau ac arbenigedd, cwmni mor fawr a chanddo enw da yn rhyngwladol, a rhannu postiadau cyfryngau cymdeithasol y naill a’r llall, yn enwedig o amgylch yr ŵyl ond ar adegau eraill hefyd, wedi ein galluogi i gynyddu’n cyrhaeddiad yn sylweddol. Roedd y cymorth hefyd wedi ein galluogi i ddadorchuddio’n prosiect ReFocus, a gynlluniwyd i helpu’r diwydiannau sgrin ehangach i weithio’n fwy cynhwysol, i ffigurau yn y diwydiant, yn llawrydd ac yn sefydliadau, a bydd hynny yn y pen draw yn darparu ffrwd refeniw arall – un sylweddol – i’n sefydliad ni a gwella bywyd llawer o actorion a dangynrychiolir, mewn modd creadigol ac fel arall.

Greta Bettinson, Hijinx Theatre