Mynd i'r cynnwys

Sophia Miller a Bombastic

Y Sialens

Banc Byrddau 

Y Sefydliad Celfyddydol: Bombastic

Mae Bombastic, cwmni yng Nghaerdydd a sefydlwyd yn 2006, yn archwilio’r rhyngwyneb rhwng y celfyddydau byw a’r cyfryngau digidol. Mae’n creu celf eofn, hygyrch ac anghyffredin ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, tra hefyd yn hyrwyddo egin-dalent amrywiol drwy ddull sy’n ddwyieithog a cydweithredol.

Y Sialens

Roedd Bombastic yn awyddus i ehangu ei Fwrdd a chael budd o arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad o’r sectorau masnachol ehangach er mwyn hybu ei nodau i fod yn sefydliad celfyddydol mwy cynaliadwy a hyfyw.

Yr Ymgynghorydd: Sophia Miller

Cafodd Sophia ei hysbrydoli gan genhadaeth Bombastic, a’i nod oedd ehangu ei phrofiad busnes a strategol trwy ddefnyddio’r sgiliau mae hi’n eu defnyddio yn ei gwaith o ddydd i ddydd o fewn y celfyddydau, sydd â’u set o heriau a chyfleoedd unigryw hwy eu hunain.

Y Canlyniadau

Ar gyfer Bombastic

  • Llywio ei ffordd drwy’r pandemig, a chynorthwyo gyda’r trosglwyddiad i weithio ar-lein ac yn hybrid trwy gyfrannu at drafodaethau, awgrymiadau a strategaethau’r bwrdd ar ffyrdd o weithio yn y dyfodol.
  • Helpu Bombastic i fod yn fwy cynaliadwy a sefydlog, nid yn unig yn ariannol ond hefyd trwy helpu i lunio nodau’r cwmni yn y tymor byr a’r tymor hir.
  • Darparu cefnogaeth amhrisiadwy i’r Cyfarwyddwr Artistig / Cynhyrchydd wrth ail-werthuso cyfeiriad y sefydliad.
  • Helpu i addasu cwestiynau strategol i gyrraedd gwell opsiynau, sef y llwybr mwyaf addas at gael sefydliad sefydlog a hunangynhaliol.

Ar gyfer Sophia:

  • Mae’r berthynas gyda Bombastic wedi bod yn drawsnewidiol yn ei gyrfa ac wedi cyfrannu at ei phenderfyniad i ddilyn gyrfa ym maes strategaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
  • Mae trafodaethau’r Bwrdd wedi ei helpu i ddatblygu’n broffesiynol, yn cynnwys meysydd rheoli risg a sgiliau dadansoddi ariannol, ynghyd â sgiliau mwy meddal megis cyfathrebu a gwrando’n weithredol.
  • Mae Sophia wedi mynd â’i sgiliau newydd yn ôl i’w rôl gorfforaethol. Maent wedi ei galluogi i wneud ei gwaith yn fwy effeithiol, gan amlygu’r buddion symbiotig positif y gall perthynas ag A&B Cymru eu cynnig i’r ddwy sector.

Y Gymeradwyaeth

Mae Sophia wedi cyfrannu llawer iawn i ddatblygiad y bwrdd drwy gydol ei chyfnod gyda Bombastic, gan fwrw golwg werthusol a chytbwys ar gynlluniau’r cwmni. Trwy roi cyngor ymarferol amhrisiadwy ar atebion i weithrediadau’r cwmni o ddydd i ddydd, llwyddodd Sophia hefyd i annog mwy o feddwl mewn modd strategol, gan gyfrannu at ddatblygu potensial Bombastic i bontio’r sectorau masnachol a chyllid cyhoeddus.
Sean Tuan John, Bombastic

 

Mae cefnogi’r elusen wedi bod yn brofiad anhygoel o werthfawr, ac rwyf wedi mwynhau gallu defnyddio’r sgiliau a enillais yn fy ngyrfa gorfforaethol yn sector y celfyddydau. Cafodd COVID effaith ddifaol ar weithgareddau’r elusen, ond uchafbwynt o ’nghyfnod ar y Bwrdd hyd yma oedd gallu cefnogi’r trosglwyddiad i fyd mwy rhithiol.  
– Sophia Miller