Theatr Iolo a Mark Rhys-Jones, Foot Anstey
Y Sialens
Sefydliad y Celfyddydau
Theatr Iolo
Yr Angen Datblygol
I recriwtio arbenigwr Cyfreithiol i’r Bwrdd, i gefnogi adolygiad cytundebau ac elfennau cyfreithiol parhaus y mudiad.
Yr Ymgynghorydd
Mark Rhys-Jones, Partner yn Foot Anstey.
Yr Angen Datblygol
Roedd Mark am ennill persbectif newydd. Mae ei rolau proffesiynol hyd yn hyn i gyd wedi cynnwys rhoi cyngor cyfreithiol i fudiadau, eu helpu nhw i fynd i’r afael â materion a phroblemau strategaeth. Trwy ymuno â Bwrdd, roedd am fod yn rhan o fudiad ac i brofi’r materion hynny o’r tu mewn.
Y Canlyniadau
I Theatr Iolo:
- Roedd Mark yn rhan hanfodol o sefydlogrwydd Theatr Iolo yn ystod cyfnod heriol pan fu dau o uwch rolau’r mudiad yn wag.
- Hyder llwyr mewn dogfennau a chytundebau cyfreithiol, a bod gofynion yn cael eu cwrdd.
- Arweiniodd Mark ar ddiweddaru Memorandwm Erthyglau Theatr Iolo, a helpodd y mudiad i baratoi ar gyfer Adolygiad Buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru ac Astudiaeth Dichonoldeb Cyfalaf mawr
I Mark:
- Mae chwe blynedd o brofiad fel Is-gadeirydd, ac yn fwy diweddar Cadeirydd, wedi arwain at sgiliau arwain datblygedig iawn
- Mae bod yn rhan o fudiad wedi’i alluogi i brofi sut mae cyngor cyfreithiol / proffesiynol yn cael ei rhoi ar waith yn fewnol, sydd wedi helpu sut mae’n mynegi ei gyngor i’w cleientiaid
- Ysbrydoliaeth a boddhad mawr o weithio gydag aelodaeth amrywiol o gyd-aelodau Bwrdd
Y Gymeradwyaeth
Mae Mark wedi bod yn rhan hanfodol o ddarparu bwrdd sefydlog ac effeithiol gyda’i arbenigedd proffesiynol yn enwedig yn ystod cyfnod heriol a oedd yn galw ar y bwrdd i gymryd rolau lot fwy ymarferol mewn rheoli’r mudiad am gyfnod. Chwaraeodd Mark ei ran unwaith eto pan gollon ni ein cadeirydd yn ddiweddar, ac mae wedi bod yn arwain y ffordd ers diwedd 2019. Mae’n arwain y bwrdd a thîm y staff mewn ffordd bwyllog a phroffesiynol, ac mae’n wastad ar gael i ddarparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ddefnyddiol i’r tîm a’r ymddiriedolwyr. Mae’n hanfodol i fodolaeth, gobeithion a breuddwydion Theatr Iolo.
Michelle Perez, Theatr Iolo
Mae fy rôl fel Is-gadeirydd ac yn fwy diweddar Cadeirydd Theatr Iolo wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau arwain. Mae wedi bod yn brofiad newydd i mi i ddeall yn uniongyrchol sut mae fy nghyngor yn cael ei roi ar waith gan y cwmni ac felly wedi helpu i wella fy safbwynt o sut i fynegi’r cyngor hynny. Yng ngoleuni fy niddordeb yn y theatr a’r pleser a gafodd fy mhlant o wylio Theatr Iolo pan oedden nhw’n iau, roedd y cyfle i ymuno â’r cwmni yn berffaith.
Mark Rhys-Jones, Foot Anstey