Mynd i'r cynnwys
Grŵp mawr o berfformwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn sefyll ar y llwyfan yn dal offerynnau llinynnol ac yn gwenu. Mae pedwar o bobl eraill yn eistedd ar flaen y llwyfan y tu ôl i greadur mawr, glas, sy'n edrych fel mwydyn estron gyda phedwar llygad.

UBS Wealth Management a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Y Sialens

  • I hyrwyddo neges gadarnhaol am UBS i’r gymuned leol.
  • I hybu proffil brand UBS, gyda chanolbwynt penodol ar gynulleidfaoedd yng Nghanolbarth Cymru.
  • I gwrdd ag amcanion byd-eang y cwmni drwy helpu i gynyddu cyrhaeddiad addysgol pobl ifanc.

Yr Ymateb

Gwnaeth UBS rhodd sylweddol i raglen Rhoddion gan Unigolion Cyswllt y Coleg, cronfa gyfatebol sy’n helpu i annog rhoddion dyngarol.

Denodd y buddsoddiad gefnogaeth ychwanegol gan CultureStep C&B Cymru, a ariannodd cyngerdd cerddoriaeth byw, rhyngweithiol i bobl ifanc yng Nghanolbarth Cymru. Perfformiodd Cerddorfa Symffoni CBCDC Orchestraadventure! ym Maes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt. Roedd y rhaglen yn cynnwys darnau clasurol a chyfoes a bu 320 o blant o 7 i 11 oed a’u hathrawon yn ei mwynhau.

Y Canlyniadau

Cyn Orchestraadventure!, roedd gwaith UBS gyda CBCDC wedi bod yn Ne Cymru a Llundain yn unig. Rhoddodd y prosiect hwn fynediad at farchnad newydd i’r busnes, er mwyn cael cleientiaid newydd ac i hybu ei broffil. Roedd UBS yn gallu gwahodd perchnogion busnes, darparwyr grantiau a dyngarwyr lleol i’r cyngerdd.

Cafodd y digwyddiad ymateb gwych, yn galluogi UBS i hybu neges gadarnhaol am ei waith i’r gymuned leol. Roedd yn brofiad boddhaol ac adeiladol i’r cerddorion a gymerodd ran a hefyd yn gymorth gwerthfawr i’r athrawon wrth ddarparu’r cwricwlwm cerddoriaeth. Trwy hyn, cefnogodd UBS gerddorion ifanc i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae UBS a CBCDC yn archwilio’r posibilrwydd o drefnu digwyddiad codi arian untro yng Nghaerdydd yn 2021.

Y Gymeradwyaeth

Un o’r prif fuddion i UBS oedd sylw i’r brand, a chafodd y cwmni ei adnabod fel cyd-noddwr y cyngerdd drwy gydnabyddiaeth ar holl ohebiaeth y prosiect a sylw cadarnhaol yn y wasg. Roedd y bartneriaeth hefyd yn gyfle gwych i UBS i ddyfnhau ei berthynas gyda’r Coleg trwy gefnogi addysg myfyrwyr sy’n hyfforddi yn y Coleg a phlant o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru.

Matthew Marsden, Cyfarwyddydd, Cymru, UBS Wealth Management

Darparodd y bartneriaeth nifer o fuddion i’r Coleg ac yn ein galluogi ni i ehangu ein gwaith allgymorth y tu allan i Gaerdydd. I’r cerddorion sy’n hyfforddi yn y Coleg, roedd y prosiect yn brofiad hynod o werthfawr a derbyniodd y perfformiad ymateb brwdfrydig o’r ysgolion a ddaeth. Rydyn ni wedi gallu bwydo’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o’r prosiect i mewn i’n strategaeth allgymorth newydd, sy’n llywio’r ffordd byddwn ni’n ymgysylltu ag ysgolion a gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol yn y dyfodol.

Marie Wood, Pennaeth Codi Arian Cyllid, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru