Mynd i'r cynnwys
Safodd deg o bobl ar lwyfan, yn gwisgo gwisgoedd ac yn dal eu bysedd mewn siâp calon o flaen eu cistiau. Mae cefn y llwyfan yn ddu, gyda phetryal coch mawr yn y canol, gyda chalon ddu wag yn y canol.

Unite Students a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Y Sialens

  • Cynyddu sylw i frand Unite Students
  • Datblygu dealltwriaeth o gymorth partneriaeth busnes ymhlith myfyrwyr a chymuned Caerdydd yn gyffredinol
  • Cael ei weld fel cwmni sy’n rhoi gwerth ar fynediad / cefnogi gwasanaethau i rai a chanddynt anabledd

Yr Ymateb

Mae’r bartneriaeth rhwng CBCDC a Unite Students yn barhad o’r berthynas gyda pherchennog blaenorol y busnes, sef Liberty Living, a ffurfiwyd yn 2011.

Roedd y bartneriaeth newydd yn galluogi myfyrwyr ledled Caerdydd i gael mynediad am ddim, neu docynnau am bris gostyngol, ar gyfer perfformiadau yn y Coleg, gan gynnig cyfleoedd i artistiaid ifanc fwynhau perfformiadau oedd yn cynnwys eu cyfoedion a phobl broffesiynol adnabyddus yn y diwydiant.

Roedd buddsoddiad CultureStep wedi galluogi’r Coleg i ddarparu ystod o berfformiadau hygyrch drwy gydol y flwyddyn. Roedd hyn yn help i CBCDC wrth iddo lunio ei bolisïau a’i berfformiadau at y dyfodol, gan sicrhau bod aelodau o’r gymdeithas, a myfyrwyr a chanddynt anableddau, yn cael mynediad at berfformiadau o safon uchel.

Y Canlyniadau

Cyflawnwyd 13 o berfformiadau ag uwchdeitlau a/neu gapsiynau, gan gyrraedd cynulleidfa o 1,051. Bu darparwyr capsiynau CBCDC yn casglu adborth adeiladol gan gynulleidfaoedd hygyrch ar draws nifer o ganolfannau celfyddydol, a’r rheiny’n adlewyrchu islais cynhwysol a gwerthfawrogol. Disgrifiwyd perfformiadau hygyrch fel ‘chwyldroadol’ yn achos y rhai sy’n byw gydag anabledd, fel nad ydynt bellach yn ‘teimlo’n anabl nac wedi’u heithrio’.

Drwy gyfrwng y prosiect hwn, llwyddodd Unite Students i wella’r sylw i’r brand ar draws platfformau CBCDC, gan ei broffilio ei hun fel busnes cyfrifol sy’n rhoi gwerth ar fynediad a chefnogi gwasanaethau ar gyfer y rhai a chanddynt anghenion ychwanegol ac anableddau.

Y Gymeradwyaeth

Roedd y prosiect hwn yn llwyddiant ysgubol i’r Coleg, gan helpu CBCDC i weithredu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae wedi ein galluogi i wreiddio hygyrchedd i mewn i gynnwys creadigol ym meysydd drama a cherddoriaeth, gan ymestyn ymgysylltiad cymunedol a mynediad o fewn y gymuned F/fyddar. Cafodd y Coleg fudd o’r prosiect gan fod modd i ni ddarparu 13 o berfformiadau â chapsiynau/uwchdeitlau, tra hefyd yn gallu arsylwi ar, a datblygu, cynllun hir-dymor ar gyfer perfformiadau hygyrch, a chynnwys y rhain yn y cyllidebau craidd.

Emma Parkins, Swyddog Partneriaethau Corfforaethol, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Cafodd Unite Students brofiad o amlygu brand i farchnad sy’n tyfu’n gyson. Roedd y cyllid hwn wedi noddi perfformiadau hygyrch rhwng hydref 2021 a gwanwyn 2023. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i Unite ar draws cyfrifon cyfryngau cymdeithasol CBCDC, ein gwefan, taflenni Beth sy ’Mlaen, a Phlác Cefnogwyr y Coleg yn y prif gyntedd. Cafodd perfformiadau eu harddangos gyda’r dilysiad: ‘Cefnogir perfformiadau sy’n cynnwys capsiynau gan raglen CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru a Unite Students’. Roedd y buddion hyn yn unol â strategaeth ehangach y cwmni o ran ystyried cydraddoldeb wedi’i ffocysu ar ‘ddarparu cyfleoedd i bawb’ a chydnabod Unite fel sefydliad sy’n cymryd i ystyriaeth y rhai a chanddynt anghenion ychwanegol ac anableddau.

Michael Dewey, Rheolwr Cyffredinol Rhanbarthol, Unite Students