Valero ac Act Now Creative Training
Y Sialens
Roedd Valero am gefnogi datblygiad proffesiynol ei arweinwyr ar eu cynnydd drwy fynd i’r afael â meysydd allweddol fel hyder, hunan-barch a phendantrwydd.
Yr Ymateb
Trefnodd C&B Cymru gysylltiad rhwng y busnes ac Act Now Creative Training. Darparodd y sefydliad celfyddydol hyfforddiant wedi’i deilwra i ddeg aelod o staff ar eu cynnydd a oedd wedi’u hadnabod gan Reolwyr y Burfa yn “arweinwyr y dyfodol”. Nod y cwrs, a gynhaliwyd mewn sinema, oedd meithrin sgiliau ysgafn y gweithlu gyda ffocws ar weithredu uchelgais, cydbwyso ymddygiadau yn yr ystafell cyfarfod a darparu hyder i drafod materion amrywiaeth.
Y Canlyniadau
Mae’r busnes wedi nodi mwy o frwdfrydedd a hyder gan y cyfranogwyr i geisio am rolau arwain. O ganlyniad uniongyrchol i’r cwrs, llwyddodd dau gyfranogwr i sicrhau cyllid am gyfarpar purfa angenrheidiol a dywedodd y ddau ohonynt fod y llwyddiannau diolch i lefelau hyder uwch.
Y Gymeradwyaeth
Darparodd yr hyfforddiant gyfle trawsadrannol am rwydweithio a chefnogaeth ac ar yr un pryd mynd i’r afael â datblygiad personol y cyfranogwyr. Mae’r effaith sylweddol bydd y deg unigolyn hyn yn cael ar eu cyd-weithwyr, adrannau a’r busnes yn barod y tu hwnt i ddisgwyliadau.
Act Now
Mae’r ffordd hon o hyfforddi wedi helpu’r cyfranogwyr i ddod yn fwy rhyngweithiol ac, o ganlyniad, wedi gwella eu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu. Mae’r adborth gan bob un o’r cyfranogwyr wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Nid yn unig ydy’r cyfranogwyr yn dysgu gymaint mewn amgylchedd ‘diogel’ ac maen nhw hefyd yn cael lot o hwyl.
Denise Hicks, Cyfarwyddydd AD Valero