Western Power Distribution a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Y Sialens
Roedd WPD yn awyddus i hyrwyddo ei Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PSR) i bobl hŷn sy’n anoddach eu cyrraedd, gan ddangos yn gyhoeddus ei hymrwymiad i helpu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed ac mewn angen. Roedd y busnes hefyd yn dymuno hyrwyddo ei frand, gan atgyfnerthu ei enw da yn gadarnhaol yn y cymunedau lleol y mae’n eu gwasanaethu.
Roedd CDCCymru yn dymuno datblygu a gwella prosiect arloesol a helpodd i wella bywydau pobl sy’n byw gyda Parkinsons, gan atgyfnerthu ei neges fod dawns i bawb.
Yr Ymateb
Broceriwyd y bartneriaeth rhwng CDCCymru a WPD gan C&B Cymru, a alluogodd barhad a datblygiad Dance for Parkinson’s, prosiect cyfranogol sy’n cefnogi’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr trwy gyfrwng dawns. Fe wnaeth y nawdd, ynghyd â buddsoddiad CultureStep, alluogi blwyddyn lawn o ddosbarthiadau dawns mewn dwy gymuned WPD yn Ne Cymru. Fel rhan o’r prosiect, creodd NDCWales ffilm hefyd, Reflections, yn cynnwys cyfranogwyr y prosiect, gan fyfyrio ar eu profiad o fywyd gyda Parkinson’s trwy ddawns.
Y Canlyniadau
Cyfanswm presenoldeb yn y dosbarthiadau, yng Nghaerdydd a’r Coed Duon, oedd 1,028. Roedd y ddau ganolbwynt yn darparu cymunedau cyfeillgar, hygyrch a oedd yn annog presenoldeb rheolaidd, hyd yn oed trwy amgylchiadau heriol. Roedd lansiad y ffilm ddigidol ym mis Rhagfyr 2019 yn llwyfan llwyddiannus i CDCCymru a WPD, gan godi ymwybyddiaeth brand ynghyd â’r PSR. Derbyniodd y ffilm dros 7,000 o olygfeydd, ac mae wedi cael ei rhannu 135 o weithiau.
Y Gymeradwyaeth
Mae cefnogaeth ariannol WPD a buddsoddiad ychwanegol CultureStep wedi bod yn amhrisiadwy eleni; yn ogystal â gallu cynnal blwyddyn lawn o ddosbarthiadau, roeddem yn gallu creu Reflections; a oedd yn brofiad gwerth chweil i bawb a gymerodd ran. Roedd yr ymateb a gawsom ar gyfer Reflections yn anhygoel, ac mae wedi darparu llwyfan cyhoeddus dylanwadol ar gyfer y prosiect. Mae cyfraniad WPD a C&B Cymru i Dance for Parkinson’s wedi bod yn werthfawr nid yn unig yn ariannol ond hefyd wrth alluogi CDCCymru i ysgogi cefnogaeth gan arianwyr eraill ar gyfer y gwaith hwn ac ar gyfer y rhaglen gyfranogol y mae’n ei ategu.
Rebecca Hobbs, CDCCymru