Mynd i'r cynnwys
Mae grŵp o fyfyrwyr yn eistedd ac yn wynebu actor Hijinx gyda myfyriwr eraill yn eistedd ar flaen yr ystafell.

Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd a Hijinx

Y Sialens

  • Ehangu cysylltiad myfyrwyr Fferylliaeth i ‘gleifion’ bregus, cyn iddynt raddio a dechrau gweithio. Roedd yr ysgol yn dymuno defnyddio profiadau go-iawn yr actorion i ddatblygu senarios clinigol, a rhai nad oeddynt yn glinigol, lle gallai cyfathrebu fod yn heriol.
  • Rhoi cyfle i fyfyrwyr adlewyrchu ar senario go-iawn, a’i thrafod, o fewn amgylchedd dysgu diogel.
  • Cynyddu hyder y myfyrwyr wrth fynd at bobl niwroamrywiol a chyfathrebu â hwy.

Yr Ymateb

I barhau â’r cydweithredu llwyddiannus a ddechreuwyd yn 2019, darparodd Hijinx sesiynau hyfforddi ar gyfathrebu, gyda’r nod o wella darpariaeth gofal iechyd i gleifion bregus, yn enwedig y rhai a chanddynt anabledd dysgu, a/neu sesiynau ar awtistiaeth ar gyfer myfyrwyr Ysgol Fferylliaeth Caerdydd yn 2021/2022.

Mewn ymateb i adborth a dderbyniwyd yn y gorffennol, gyda buddsoddiad gan CultureStep, lwyddwyd i ehangu’r bartneriaeth trwy ariannu elfennau newydd, yn cynnwys prosiect ymchwil a gwerthuso trylwyr i archwilio manteision yr hyfforddiant i bob un a gymerodd ran. Roedd hefyd yn galluogi mwy o amser cyswllt rhwng y myfyrwyr Fferylliaeth ac actorion Hijinx fel ‘cleifion’ niwroamrywiol, datblygu adnoddau addysgu ychwanegol, a chynnwys rhagor o actorion Hijinx fel hwyluswyr cynorthwyol ynghyd â darparu hyfforddiant i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau hwyluso.

Y Canlyniadau

Daeth 440 o fyfyrwyr fferylliaeth i gymryd rhan mewn pum niwrnod o chwarae rôl wyneb yn wyneb, a sesiynau theatr fforwm, gyda 126 o fyfyrwyr ychwanegol yn dod i gysylltiad drwy sgyrsiau ymchwil a recordiwyd. Roedd y prosiect hefyd yn darparu cyflogaeth â thâl i 5 o actorion hwyluso niwroamrywiol a 3 o actorion hwyluso niwronodweddiadol, a chafwyd gwasanaeth 10 actor Hijinx ychwanegol a 6 o rieni/perthnasau drwy sesiynau ymchwil i nodi profiadau gofal iechyd a gafwyd yn y gorffennol.

Dyma ddywedodd y myfyrwyr:

Roedd gweld senarios gyda chleifion a chanddynt anawsterau dysgu yn rhoi cyd-destun i’r addysg a gawsom eisoes, ac yn amlygu’n gryf iawn bwysigrwydd gofal wedi’i deilwrio a’i ganoli ar y claf.

Roedd cael adborth gan yr actorion yn hynod ddefnyddiol, gan ein helpu i ddirnad sut y bydd cleifion y byddwn yn dod i gysylltiad â hwy yn dehongli math arbennig o wybodaeth y byddwn yn ei rhoi iddynt.

Pan ofynnwyd iddynt beth roedden nhw wedi’i ddysgu o’r hyfforddiant, dywedodd y myfyrwyr eu bod wedi dysgu bod yn “amyneddgar a goddefgar”; “i fod yn llai rhagfarnllyd ac yn fwy agored tuag at y claf ” ac “i fod yn ystyriol nid yn unig o gyflwr claf, ond hefyd o’r hyn allai fod yn digwydd y tu allan i’r sesiwn ymgynghori yn eu bywydau personol, a phwysigrwydd gwrando’n weithredol”.

Y Gymeradwyaeth

Gan i’r ysgol fferylliaeth yn y gorffennol bartneru gyda Hijinx i drefnu sesiynau fforwm theatr gyda blynyddoedd 2 a 4, roedd y prosiect hwn yn gyfle gwych i’r ysgol roi ymgysylltiad ystyrlon i bob grŵp blwyddyn gyda ‘chleifion’ niwroamrywiol, gan gynyddu eu hyder a’u dealltwriaeth o niwroamrywiaeth mewn modd pwerus a chofiadwy, a thrwy hynny eu paratoi’n well ar gyfer cyfarfyddiadau o’r fath pan fyddant mewn swydd. Mae ehangu’r cynnig wedi ein galluogi i gynyddu cymhlethdod y senarios bob yn gam drwy gydol y rhaglen.

O ran ein henw da, mae’r bartneriaeth wedi ei nodi gan ein cyrff achredu fel maes cryf o ymarfer clinigol y dylid ei rannu’n fwy eang ymysg y sector, gan gadw Ysgol Fferylliaeth Caerdydd ar flaen y gad ym maes addysg fferyllol i is-raddedigion.

Mae’r myfyrwyr a gymerodd ran yn y sesiynau wedi adrodd bod ganddynt fwy o hyder – nid yn unig wrth gyfathrebu gyda chleifion niwroamrywiol, ond hefyd wrth gyfathrebu gyda phob grŵp arall o gleifion. Yn benodol, roeddynt yn gwerthfawrogi’r adborth a’r arweiniad mewn amser real a roddwyd gan yr actorion a’r hwyluswyr.

Dr Jenna Bowen, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Cymru

Mae’r bartneriaeth wedi gweithio’n unol â nodau Hijinx ei hun i ddatblygu ein busnes hyfforddi, gwella ein proffil fel arweinwyr mewn ymarfer cynhwysol, a pharhau i ddarparu cyfleoedd am gyflogaeth broffesiynol ar gyfer ein hactorion niwroamrywiol. Cyfrannodd hyn tuag at gyflawni ein cenhadaeth o gynyddu cynrychiolaeth a dealltwriaeth o anabledd dysgu yn y celfyddydau ac yn y gymdeithas ehangach, yn y gobaith o ostwng lefelau arwahanrwydd ac achosion o droseddau casineb/ffrind.

Yn ychwanegol, aeth Hijinx ati i ddefnyddio canfyddiadau y prosiect ymchwil trylwyr i ddilysu buddion ein hyfforddiant, yn enwedig o fewn y sector addysg gofal iechyd lle mae tystiolaeth ar gyfer buddsoddi yn arbennig o bwysig. Mae gan hyn y potensial i’n galluogi ni i ddatblygu ein cynnig o hyfforddiant ymhellach fyth, a’n sefydlu ein hunain fel darparwyr hyfforddiant o safon uchel mewn cyfathrebu.

Greta Bettinson, Swyddog Datblygu Hijinx