Blog 2021-22
Wythnos 42: Tilly, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Ar ôl 10 mis anhygoel fel intern Creadigol C&B Cymru, yn anffodus mae’r interniaeth wedi dod i ben, a’r wythnos hon yw fy wythnos olaf yn y rôl hon. Ond, rydw i’n llawn cyffro i barhau gyda CBCDC yn fy rôl newydd fel Swyddog Datblygu, Stiwardiaeth a Digwyddiadau, a fydd yn gyfle gwych i roi fy sgiliau newydd ar brawf (a datblygu rhai newydd hefyd!).
Dros y mis diwethaf rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar roddion gan unigolion fel paratoad i fy rôl newydd a dod yn gyfarwydd â manylion ein cynlluniau aelodaeth. Un o agweddau’r swydd rydw i wedi’i mwynhau fwyaf yw’r digwyddiadau, y swyddi trefniadol a pharatoi a’u cynnal ar y diwrnod. Ond yn arbennig rydw i wedi mwynhau cael fy nghyflwyno i’n rhoddwyr rheolaidd yn ein digwyddiadau ac yn edrych ymlaen at ddod i’w hadnabod yn well dros y misoedd nesaf.
Mae Interniaeth Greadigol C&B Cymru wedi bod yn brofiad mor werthfawr i mi, yn enwedig mor gynnar yn fy ngyrfa. Mae wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau a hyder mewn amgylchedd diogel a chefnogol, gan gynnig digon o heriau ar hyd y ffordd hefyd. Rydw i’n ddiolchgar iawn i dîm cyfan C&B Cymru am ei gefnogaeth i gyd a dydw i ddim yn gallu aros i’r bennod nesaf hon yn CBCDC!
Wythnos 41: Suzy Celfyddydau Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru
Dydw i ddim yn gallu credu ein bod ni ar ddiwedd yr interniaeth 10 mis yn barod!
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur yn CCIC a llawn gweithgareddau i’n haelodau a chyfranogwyr. Es i ar daith yn ddiweddar gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Roedd yn wych gweld cymaint o berfformiadau byw mewn lleoliadau ledled Cymru – gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac Eglwys Gadeiriol Llandaf. Roedd hyn hefyd yn cynnwys cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant gydag anerchiad agoriadol gan y Prif Weinidog! Roeddwn i’n gyfrifol am y rhestrau gwesteion i’r digwyddiadau hyn a threfnu’r derbyniad i westeion yn Neuadd Dewi Sant. Ar hyn o bryd rydw i’n helpu trefnu derbyniad arall i westeion am un o’r sioeau Theatr, The In-Between, yr wythnos nesaf. O hyn, i ysgrifennu ceisiadau am grantiau, cysylltu â chorfforaethau, mynychu mwy o ddigwyddiadau, mynychu sesiynau hyfforddi, i gynllunio ymgyrch farchnata, a llawer mwy, rydw i wedi dysgu cymaint dros y 10 mis diwethaf.
Hoffwn i ddiolch pawb yn Celfyddydau a Busnes Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am y cyfle hwn, yn enwedig fy rheolwr David Hopkins sydd wedi fy nghefnogi i a dysgu llawer i mi am godi arian. Rydw i’n ddiolchgar i fy mentor celfyddydau, Marie, a mentor busnes, Evan, sydd wedi fy nghefnogi i ar y daith hon. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy rôl newydd gyda OCC mewn ychydig o wythnosau i gymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa codi arian, ond bydd colled fawr ar ôl tîm CCIC i gyd a grŵp 2021-2022 o interniaid!
Diolch yn fawr!
Wythnos 40: Rosie, Canolfan Mileniwm Cymru
Mae’r amser wedi dod i ysgrifennu fy mlog olaf! Rydw i’n teimlo’n drist bod fy interniaeth yn dod i ben, rydw i wedi cael profiad mor eang dros y 10 mis diwethaf. Rydw i mor hapus yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac wedi bod wrth fy modd i gwrdd â, ac ennill grŵp o ffrindiau gwych gyda fy nghyd-interniaid ac mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i derbyn gan C&B (yn enwedig Steve) a fy mentor busnes, Karen, wedi fy arwain i drwy’r daith hon.
Rydyn ni wedi croesawu Anna i’r tîm, a fydd yn gweithio fel Rheolwr Rhoddion gan Unigolion. Mae Anna yn ychwanegiad ardderchog i’r tîm ac yn barod rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd ar ddigwyddiadau sydd i ddod, gan gynnwys y Cinio i Ymddiriedolwyr. Rydw i hefyd wedi bod yn cefnogi Polly gyda’n hadolygiad blynyddol, sydd wedi bod yn brofiad gwerthfawr ac wedi dangos imi ba mor eang yw cydgasglu.
Rydw i wedi parhau i wneud lot o ymchwil i nawdd posib a wir wedi bod yn mwynhau’r elfen ychwanegol hon i fy rôl.
Cefais gyfarfod gyda Steve, Polly a Karen i drafod diwedd fy interniaeth ac roedd yn ddiddorol i edrych yn ôl dros y 10 mis diwethaf. Roedd myfyrio ar faint rydw i wedi’i ddysgu ac ennill o’r profiad hwn yn gwneud imi sylweddoli cymaint rydw i wedi’i gyflawni.
Roeddwn i’n lwcus i fynychu sioe NoFit State Circus ‘Sabotage’ yr wythnos ddiwethaf, gyda’r interniaid eraill. Roedd mor gyffroes i weld Chieu-Ju yn llywyddu’r digwyddiad VIP ac roedd y sioe ei hun yn anhygoel!
Rydw i wir yn edrych ymlaen at y dyfodol a sut byddaf i’n datblygu yn fy ngyrfa codi arian. Mae wedi bod yn bleser ac rydw i mor ddiolchgar i C&B am y cyfle.
Wythnos 39: Eve, Rubicon Dance
Mae’n teimlo’n rhyfedd iawn i ysgrifennu fy mlog olaf, ond ar ôl 10 mis o ddysgu a datblygu sgiliau newydd, rydw i’n teimlo’n barod am y cam nesaf yn fy ngyrfa! Rydw i’n llawn cyffro i ddechrau fy swydd newydd fel Cynorthwyydd Datblygu Sgiliau Cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar ddechrau mis Medi. Yn y rôl hon byddaf i’n helpu graddedigion a all fod mewn sefyllfa debyg i mi, cyn imi ddechrau’r interniaeth hon, felly byddaf i wir yn dod drwy gylch lawn.
Rydw i’n ddiolchgar am fy mentoriaid: Tracey, Shone a Steve. Byddwn i ddim wedi datblygu cymaint â hyn hebddyn nhw. Rydw i’n pryderu ychydig byddan nhw wedi hen blino â fi cyn bo hir oherwydd dydw i ddim yn barod i’r mentora i ddod i ben eto!
DIOLCH Celfyddydau & Busnes Cymru am fy nghael i fel intern. Byddaf i’n ddiolchgar o hyd am gyfle mor wych a roddodd imi lwybr i ddechrau fy ngyrfa. Mae gen i sgiliau a hyder sy’n fy ngwneud i deimlo fel fy mod i’n gallu gadael fy interniaeth i ddechrau dyfodol disglair a chyffroes!
Wythnos 38: Chieh-Ju, NoFit State
Mae wedi bod yn gyfnod gwefreiddiol ers imi ddechrau gweithio fel intern codi arian yma yn NoFit State Circus. Er mai hwn yw fy mlog olaf, gan fy mod i’n gorffen fy interniaeth yr wythnos nesaf, ni fydd y profiad syrcas neu’r stori codi arian yn gorffen yma – byddaf yn parhau i godi arian am yr achosion da a’r hud sydd i’w weld o dan y Babell Fawr.
Nid oedd hwn yn rhywbeth roeddwn i’n ei ragweld o gwbl pan wnes i gais am yr Interniaeth Greadigol. Doeddwn i ddim yn siŵr os byddai hyn yn iawn imi, ond rhoddais gynnig arni ac mae wedi bod mor dda fy mod i nawr yn teimlo fel fy mod i’n graddio gyda gradd arall!
Mae’r gwaith yn dal i fynd rhagddo i mi yn nhermau’r amcan “dylai swyddog codi arian ennill o leiaf 3 gwaith ei gyflog”, ond rydw i’n gallu dweud fy mod i mor falch o faint rydw i wedi tyfu a dysgu o’r cyfle anhygoel hwn, o ysgrifennu ceisiadau am gratiau, gweithio ar nawdd busnes, i weithio’n well fel rhan o dîm a mynegi fy hunan.
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb frwdfrydedd a chymorth astud y bobl rydw i wedi bod yn gweithio gyda nhw, ac mae wedi bod yn fraint i dderbyn cymaint o gariad gan bobl – yn enwedig fy ‘rhiant’ Celfyddydau a Busnes Cymru a fy nghartref newydd NoFit State, yn ogystal â fy mentoriaid rheolwyr llinell gwych. Felly, diolch i bawb sydd wedi fy helpu i ar y daith hon!
Byddwn yn hoffi gallu rhannu mwy o ddysgu a newyddion cyffroes gyda chi, ond mae pob peth da yn dod i ben. Ond nid yw hyn yn hwyl fawr ond yn hytrach welaf i chi wedyn!
Gobeithio bydd ein llwybrau yn croesi unwaith eto cyn bo hir. Wela i di wedyn!
Wythnos 37: Aled, Canolfan Gerdd William Mathias
Wel, mae di dod yn amser i fy mlog olaf. Dwi’n sgwennu hwn ar fy niwrnod olaf hefyd. Allai ddim gredu pa mor gyflym mae’r 10 mis diwethaf wedi fflio heibio. Dwi wedi mwynhau pob eiliad yn CGWM. Rydw i wedi dysgu cymaint trwy weithio gyda nhw ac maen nhw wedi caniatáu i mi ddysgu cymaint yn fy amser yma, o fy wythnos gyntaf yn cael fy mhlymio i’r Ŵyl Biano Ryngwladol nôl ym mis Hydref, i allu rheoli llwyfan yn yr Ŵyl Delynau ym mis Ebrill a phopeth rhyngddynt.
A hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Meinir – fy rheolwr yn CGWM – am fod y Rheolwr gorau erioed, a diolch i bawb yn CGWM am fy nghroesawu i mewn, boed hynny am y cyfnod byr iawn o amser a gwneud i mi deimlo fel rhan annatod o’r tîm. Hefyd diolch enfawr i fy mentoriaid Kathy Brown ac Andy Healy – mae gwerth therapiwtig eich sesiynau yn amhrisiadwy! Hefyd cyngor gwych iawn!
Diolch hefyd i Celfyddydau & Busnes Cymru am y 2 flynedd diwethaf. Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o’r Interniaeth hon ac i unrhyw un sy’n darllen hwn ac sydd â diddordeb, ewch amdani !! Yn wir, mae’n un o’r penderfyniadau gorau rydw i wedi’i wneud ar gyfer fy ngyrfa. I fynd o beidio â gwybod dim am godi arian na Thirwedd y Celfyddydau yng Nghymru ar ôl graddio o Fangor, i fod yn godwr arian go iawn a gafael iawn ar sut mae’r celfyddydau yng Nghymru yn gweithio. Mae’r gefnogaeth rydych chi wedi’i rhoi i mi yn anhygoel ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr bopeth rydych chi wedi’i wneud i mi.
Felly dyma fi yn signing off. Diolch yn fawr.
Aled x
Wythnos 36: Tilly, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Gan fod y Coleg wedi cau’n swyddogol am yr haf, y mis hwn rydw i wedi gallu treulio rhagor o amser ar swyddi gweinyddu a mewnol. Ar ôl cael rheolwr llinell newydd y mis diwethaf, rydw i’n canolbwyntio ar Roddion gan Unigolion am y tro ac wedi cael y cyfle i fynd i’r afael â chymhlethdodau ein cynllun rhoddion rheolaidd, Cyswllt, ac i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad ar ein system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) i feddwl am ffyrdd y gallwn ni defnyddio hwn yn fwy effeithiol yn y dyfodol.
Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl ymlaen i garfan myfyrwyr y flwyddyn nesaf, a’r wythnos hon rydw i wedi bod yn gweithio ar gais am fwrsariaeth ar gyfer myfyriwr sy’n dod i mewn ac yn edrych at berfformiadau’r tymor nesaf er mwyn dechrau penderfynu ble i roi digwyddiadau. Rydw i hefyd wedi bod yn ysgrifennu cais (llwyddiannus, diolch byth!) am CultureStep ac rydw i yng nghanol ysgrifennu adroddiadau am brosiectau CultureStep blaenorol.
Mae wedi bod yn hyfryd gweld y Coleg ar agor fel lleoliad masnachol, a’r wythnos hon rydyn ni wedi cael y pleser o fod yn gartref i Gyngres Telynau’r Byd. Rydw i’n teimlo’n ffodus iawn i allu gweithio mewn adeilad mor fywiog a chreadigol, ac yn ysu am weld beth a ddaw gyda gweddill yr haf!
Wythnos 35: Suzy Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Rydw i’n falch i gyhoeddi, ar ôl i fy interniaeth gyda CCIC ddod i ben ym mis Medi, byddaf yn dechrau gyda OCC fel Swyddog Ymddiriedolaethau. Er fy mod i wir wedi mwynhau fy amser gyda CCIC, rydw i wrth fy modd i ymuno ag OCC ac i ennill profiad yn gweithio mewn tîm datblygu llawer mwy.
Ar hyn o bryd yn CCIC, rydym yn paratoi am bopeth a fydd yn digwydd dros yr haf. Er ein bod ni heb gael perfformiad byw am gwpl o flynyddoedd oherwydd Covid, mae gennym ni 13 cyngerdd a 2 gig wedi’u trefnu dros y 6 wythnos o’r gwyliau haf, felly mae’n amser gyffroes iawn i weithio gyda CCIC. Os hoffech chi ddod, mae manylion ar ein gwefan: https://www.ccic.org.uk/digwyddiadur
Er mwyn ymarfer rhwydweithio yn barod i’n cyngherddau a derbyniadau i westeion, yn ddiweddar rydw i wedi mynychu Celfyddydau yn y Senedd a chefais wahoddiad caredig gan Marie, fy mentor celfyddydol, i gyngerdd CBCDC gyda derbyniad i westeion. Nid ydy rhwydweithio yn dod yn hawdd imi ond mae’n sgil mor allweddol – felly mae’n wych cael y cyfleoedd hyn i ymarfer. Roedd hefyd yn hyfryd i weld perfformiadau byw, yn enwedig Grumpy Unicorns Hijinx!
Dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi anfon gwahoddiadau i fusnesau i fynychu’r cyngherddau / derbyniadau i westeion hyn i sefydlu perthynas gyda nhw ar gyfer nawdd posib yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, rydw i wedi bod yn diweddaru ein taenlenni o VIPs i’w gwahodd, gan nodi’r ymatebion am ein rhestr gwesteion, archebu sticeri a phensiliau gyda’n logo arnynt, ac unrhyw swyddi eraill sydd i’w gwneud!
Edrychaf ymlaen at eich diweddaru chi’r mis nesaf!
Wythnos 34: Rosie, Canolfan Mileniwm Cymru
Hwn yw fy mlog olaf ond un! Gyda llai na 2 fis o fy interniaeth i fynd, mae pethau’r un mor brysur ag erioed. Ers fy mlog diwethaf, cynhaliwyd ein digwyddiad Te Prynhawn ar y Llwyfan anhygoel i aelodau CMC. Roed yn brofiad rhyfeddol i eistedd ar y llwyfan, sgwrsio a chwrdd â theuluoedd a ffrindiau aelodau.
Fy llwyddiant diweddaraf oedd cwblhau adroddiad Margaret Davies rydw i wedi bod yn gweithio arno gyda fy nghydweithiwr, Polly. Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o ysgrifennu adroddiad ac roedd yn brofiad gwerthfawr a fwynheais i yn fawr!
Hefyd, anfonais ein Hey Duggee/Llais solus sy’n atgoffa ein haelodau partner am eu mynediad unigryw at docynnau. Ar ddechrau’r wythnos hon, gwnes i ac Izzie adeiladu ac anfon e-newyddion ein haelodau a oedd yn llawn gwybodaeth am sioeau sydd i ddod a diweddariadau cyffrous.
Ym mis Mehefin, mynychais ddigwyddiad Celfyddydau yn y Senedd Celfyddydau & Busnes Cymru, a oedd yn gyfle ardderchog i rwydweithio a chyfle gwych i weld fy nghyd-interniaid. Uchafbwynt y digwyddiad oedd gweld Grumpy Unicorns Hijinx, a roddodd wên ar wynebau pawb!
Ar ddiwedd y mis, cymerais ran mewn hyfforddiant C&B Cymru mewn Cynllunio Strategaeth Farchnata. Roedd yn ddiddorol i ennill gwybodaeth am strategaethau ac ymgyrchoedd marchnata. Roedd yn hynod o ddefnyddiol i ddysgu am ba strategaethau sy’n gweithio orau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae’r set nesaf o seremonïau graddio Met Caerdydd i ddod a dechreuodd cynhyrchiad The Lion King ar Ddydd Gwener, sydd i gyd yn gyffrous iawn. Rydw i’n edrych ymlaen at gwpl o fisoedd prysur yma yn CMC!
Wythnos 33: Eve, Rubicon Dance
Wythnos 32: Chieh-Ju, NoFit State
Ar ôl gweithio gyda NoFit State Circus am 8 mis, rydw i’n falch iawn i gyhoeddi, pan fydd yr interniaeth greadigol yn gorffen ym mis Awst, byddaf yn dechrau contract newydd gyda’r cwmni ac yn parhau i weithio yma fel Cynorthwyydd Datblygu – rydw i mor falch fy mod i yn aros gyda’r syrcas ac yn dod yn aelod swyddogol o’r tîm!
Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd Celfyddydau yn y Senedd ar noson haf hyfryd lle cefais i’r cyfle i rwydweithio a sgwrsio gyda phobl o wahanol fudiadau celfyddydol, ac i gwrdd, wyneb yn wyneb, â sawl wyneb cyfarwydd, rydw i wedi’u cwrdd â nhw yng nghyfarfodydd y fforwm datblygu ar zoom ac achlysuron eraill. Roedd yn llwyfan hyfryd i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb, a oedd wir ei angen, mwynhau dau berfformiad ardderchog, ac ail-gysylltu â fy ngallu i rwydweithio ar ôl y pandemig.
Newyddion da eraill, yn nhermau ceisiadau, sicrhawyd tua 10 mil o’r Gronfa Loteri Fawr! Bydd y grant yn helpu i barhau datblygiad creadigol parti Clifton Street a chreu gofod lle gall cyfnewidfa ddiwylliannol ffynnu a lle gall unigolion creadigol o wahanol gefndiroedd dod ynghyd – gan hel straeon sydd yn taro tant gyda’r gymuned.
Yr wythnos hon byddaf i’n gweithio ar adroddiad ar ein Syrcas Ieuenctid Hygyrch, lle gafodd 7 person ifanc fwrsariaethau a hyfforddiant 1 i 1. Rydw i’n edrych ymlaen at gasglu eu hadborth yn dilyn pob sesiwn. Hefyd mae’r amser wedi dod i chwilio am y rownd nesaf o gyllid i gynnal y rhaglen. Rydw i wedi adnabod sawl ymddiriedolaeth a sefydliad a bydd rhaid imi gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth a dechrau amlinellu ceisiadau newydd.
Wythnos 31: Aled, Canolfan Gerdd William Mathias
lle i ddechrau. Wel a bod yn gwbl onest does dim llawer i’ch diweddaru chi efo. Dwi’n dal i ysgrifennu adroddiadau grant ar hyn o bryd. Y rhannau llai glamoraidd o godi arian ond y cyfan yn dal yn bwysig. Rydym wedi cyflwyno ceisiadau i barhau i ariannu ein prosiect ‘Canfod y Gân’ – felly gobeithio y bydd gennym grant llwyddiannus gan ei fod yn brosiect anhygoel ac mor bwysig i fywydau y cyfranogwyr! Meddwl ymlaen at 2023, a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru – Noddwyr! Canolbwyntio’n arbennig ar ddod â phecynnau nawdd at ei gilydd a chanfod pa fusnesau sydd ar gael i noddwyr posibl! Felly os ydych yn berchen ar fusnes ac eisiau noddi Gŵyl Ryngwladol – cysylltwch â ni!
Cefais gyfle hefyd i ymweld â Pharc Pendine yn Wrecsam. Fe wnaethon nhw noddi ein Gŵyl Biano Ryngwladol yn 2021 a thrwy gyllid Culture Step, roeddem yn gallu rhoi perfformiadau mewn dau o’u Cartrefi yn Wrecsam. Gyda’n tiwtoriaid profiadol Iwan Wyn Owen a Bethan Griffiths yn perfformio. Roedd hyn yn brofiad gwych iawn i allu gweld perfformiad hyfryd. Mwynhaodd y trigolion ac fu ymunynt yn y canu at ddiwedd y perfformiad.
Troi allan roedd gennai chydig mwy i weud na beth oeddwn yn meddwl!
Wythnos 30: Tilly, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mae tymor digwyddiadau wedi dechrau yn swyddogol yma yn CBCDC, ac felly mae wedi bod yn fis prysur iawn!
Yr wythnos hon, croesawyd dros 100 o gefnogwyr a rhanddeiliaid y Coleg i’n Cyntedd Carne hardd ar gyfer y Cinio Blynyddol, sydd yn ddigwyddiad sy’n ein galluogi ni i ddiolch i’n cymuned o gyfranwyr ac yn creu lle am sgyrsiau hynod o werthfawr a chyfleoedd amaethu. Hwn yw digwyddiad cyntaf o’r maint hwn ers i’r Coleg gau yn 2019 oherwydd y pandemig, felly roedd angen ‘pob llaw ar y llyw’.
Rydw i hefyd wedi bod yn trefnu cwpl o dderbyniadau rydym wedi’u cynllunio am ddiwedd y mis ac ar ddechrau mis Gorffennaf, sydd wedi bod yn brofiad ardderchog. Rydw i wir wedi mwynhau tynnu’r holl elfennau gwahanol sy’n gwneud i ddigwyddiadau fel hyn weithio at ei gilydd, ac mae wedi bod yn gyfle hyfryd i ddod i adnabod gweddill y staff yn y Coleg, ac nid dim ond y tîm datblygu.
Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn ymchwilio mwy o ymddiriedolaethau a sefydliadau ac yn dechrau symud ymlaen gyda sawl prosiect sydd wedi’u noddi gan gorfforaethau a fydd yn dechrau yn y flwyddyn academaidd newydd. Mae nifer fawr o’n myfyrwyr yn canolbwyntio ar waith allgymorth ac ymgysylltu â’r gymuned fel maes o ddiddordeb, felly mae gallu darparu cyfleoedd iddynt gyrraedd eu cymunedau yn gyffrous iawn.
Yn gyffredinol, mae wedi bod yn fis braf iawn ac rydw i’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â’n digwyddiadau sydd i ddod!
Wythnos 29: Suzy Celfyddydau Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru
Dydw i ddim yn gallu credu bod yna llai na 3 mis ar ôl o’n hinterniaethau!
Yn fy mlog diwethaf, dywedais fy mod i wedi dechrau Ymgyrch Marchnata Codi Arian. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod yn creu amserlen yr ymgyrch sy’n cynnwys llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol rydyn ni am eu defnyddio, y gynulleidfa darged, math y cyfryngau a chapsiwn atyniadol. Mae’r Ymgyrch Tanysgrifiwch i’n rhestr bostio, er enghraifft, yn bwriadu yn rhannol i estyn at aelodau ein cyn-fyfyrwyr a’u hannog i gadw mewn cysylltiad â CCIC. Felly rydw i wedi bod yn chwilio trwy ein harchif o luniau i weld sut allwn ni wneud hyn, ac wedyn wedi defnyddio Canva i greu cynnwys a fydd yn addas i sianelu ein cyfryngau cymdeithasol. Er nad yw hyn yn waith codi arian yn gyfan gwbl, yn aml maen nhw’n gweithio llaw yn llaw, felly mae wedi bod yn wych i gael y profiad hwn.
Yn ogystal â hyn, yn ddiweddar rydw i wedi bod yn dechrau trefnu dau dderbyniad i westai am un o’n cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac un o’n cyngherddau Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru sy’n cael eu cynnal yr haf hwn. Bydd y rhain ar gyfer gwestai pwysig iawn, felly rydw i wedi dechrau trefnu pethau fel y gofod, diodydd, rhifau, a staff. Gan fy mod i heb drefnu digwyddiad erioed o’r blaen, rydw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd pethau yn troi mas!
Rydw i’n parhau gyda’r cynigion am nawdd corfforaethol. Er nad ydyn ni wedi cysylltu ag unrhyw fusnesau hyd yn hyn, nawr mae gennym ni restr o fanylion cyswllt a pha gynnig bydd orau i ba gwmni, felly mae dal i ddatblygu.
Wela i chi gyd mis nesaf!
Wythnos 28: Rosie, Canolfan Mileniwm Cymru
Dim ond 3 mis sydd ar ôl o fy interniaeth! Yn anffodus, gorffennodd yr wythnos hon gan ddweud hwyl fawr i fy ail reolwr llinell a mentor celfyddydol Cecily, sydd yn gadael ar gyfer cyfnod mamolaeth. Mae Cecily wedi bod yn rheolwr llinell anhygoel am y misoedd diwethaf, ac mor gefnogol o’r fy niwrnod cyntaf gyda CMC.
Cynhaliwyd seremoni graddio Met Caerdydd yn y Ganolfan ym mis Ebrill ac roedd yn wych i fod yn rhan o rannau o’r digwyddiad. Roedd y Ganolfan mor brysur, ac roedd yn ddiddorol gweld sut mae elfen hon y bartneriaeth yn gweithio. Daeth fy llwyddiant mwyaf mewn ymgyrch fach a wnaethon ni yn ddiweddar, a arweiniodd at 4 aelod Partner newydd. Roeddwn i’n llwyddiannus yn ymgysylltu â 2 o’r aelodau newydd hyn drwy adfer ac roedd yn wych i glywed pa mor frwdfrydig oedden nhw i ail-ymuno.
Yn ddiweddar rydw i wedi cael dau gyfarfod, gyda Cecily am gynlluniau meithrin a pherthynas Noddwyr Mawr a gydag Izzie am Berthnasau Corfforaethol a Meithrin. Roedd hyn yn hanfodol i gyfnerthu fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygu a gwarchod y perthnasau pwysig hyn. Rydw i wedi dechrau ysgrifennu adroddiad diweddaru am y prosiect am un o’n harianwyr, The Margaret Davies foundation. Hwn yw’r tro cyntaf imi ysgrifennu adroddiad i ariannwr, felly rydw i wedi rhoi lot o amser i fy hun i ail-ysgrifennu a sicrhau fy mod i’n cynnwys yr wybodaeth bwysig i gyd yn yr adroddiad.
Wythnos 27: Eve, Rubicon Dance
Rydw i wedi cael amrywiaeth o brofiadau newydd yn ddiweddar, gyda dau ymweliad i Ysbyty Athrofaol Llandochau a meddwl am y posibilrwydd o Gynllun Cyfeillion Rubicon yn ychwanegu at fy ngwybodaeth codi arian.
Treuliais amser gyda chyn-Intern Creadigol C&B Cymru, Bex, o’r Elusen Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles i gwblhau Ocsiwn Gelf Ar-lein GIG 2022 yn Oriel Hearth yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Wnaethon ni bacio gwaith yr ocsiwn ac atodi’r labeli cyfeiriad cywir. Ysgrifennais e-byst i ddiweddaru’r rheini a gyfrannodd gelf ar lwyddiant eu darnau ac wedyn dechreuais feddwl am ba ofodau oriel all fod yn addas am yr ocsiwn nesaf.
Yn yr un ysbyty, ymwelais â’r Ganolfan Adsefydlu yn sgil Strôc i weld Anwen, ymarferydd Dawns Rubicon Dance, yn darparu sesiwn symudedd i grŵp ardderchog o gleifion. Rydw i wedi ysgrifennu disgrifiadau o’r sesiynau Strôc ar gyfer ceisiadau am nawdd cyn hyn, ond nawr fy mod i wedi bod yn rhan o sesiwn wyneb yn wyneb byddaf fi’n gallu ysgrifennu gyda mwy emosiwn a gwell gwybodaeth y tro nesaf. Ychwanegodd hwn at fy mhrofiad o ymuno â sesiwn dawns a symudedd Stroke Association a Rubicon yn gynharach yn fy interniaeth.
Rydw i wedi dechrau meddwl am ddechrau Cynllun Cyfeillion yn Rubicon. Ar ôl ymchwilio cyfleusterau addysgol, lleoliadau ac elusennau celf a dawns i weld beth maen nhw’n ei gynnig, nawr mae gen i ddealltwriaeth ehangach o’r mathau o gynlluniau sydd ar gael, neu beidio, yn y lleoedd hyn, sydd wedi dylanwadu ar fy syniadau am y cynllun gallwn ni ei greu yn Rubicon.
Mae’r ymgyrch codi arian ‘Rhannwch Lyfr’ dal i fynd ac rydw i’n ceisio meddwl am syniadau a ffyrdd newydd o godi cymaint o arian â phosib. Rydw i wir wedi mwynhau gweld y pentyrrau o lyfrau mae pobl wedi’u rhoi inni a’r arian sydd wedi dod o ganlyniad a fydd yn mynd tuag at ein prosiect Llyfrgell y Rhath. Os oes gennych chi unrhyw lyfrau diangen, dewch â nhw i ni!
Wythnos 26: Chieh-Ju, NoFit State
Wythnos 25: Aled, Canolfan Gerdd William Mathias
Mae hi di bod yn gwpwl o fisoedd prysur ers fy mlog diwethaf. Digwyddodd yr Ŵyl Delynau! Roedd hi mor braf cael cynnal digwyddiad byw o’r diwedd!! Llwyddwyd i ddenu dros 25 o delynorion i’r ŵyl a chyflwyno dosbarthiadau o safon uchel gyda’r telynorion gorau sydd gan Gymru i’w cynnig. Braf oedd gallu ysbrydoli telynorion newydd a rhai sy’n dychwelyd i gadw traddodiad y Delyn yng Nghymru yn fyw. Llwyddwyd hefyd i ddenu dros 200 o bobl i gyngerdd yr ŵyl ar y noson olaf. Roedd hyn yn ddiolch i gynllun CultureStep gan Celfyddydau & Busnes Cymru. Trwy hwn roeddem yn gallu cynnig tocynnau am ddim i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau rhag mynychu perfformiadau o’r fath. Felly diolch yn fawr iawn i C&B Cymru am gefnogi’r ŵyl a’n helpu ni i gyrraedd cynulleidfa ehangach!
Cefais gyfle i brofi rôl fwy ymarferol yn ystod y cyngerdd gan reoli llwyfan yn ystod y cyngerdd. Roedd hi’n wych cael profiad tu ôl i’r llenni a chwrdd â’r artistiaid oedd yn serennu yn yr ŵyl. Braf oedd cael cyfarfod â’r noddwyr hefyd, Salvi a Thelynau Vining, sy’n cyfrannu’n aruthrol at rediad esmwyth yr ŵyl ac yn cefnogi’r Ŵyl yn flynyddol. Rydym yn gyffrous i’w croesawu yn ôl i Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru’r flwyddyn nesaf.
Mae wedi bod yn gyfnod gwych, gyda fy ngwaith bellach yn canolbwyntio ar adrodd n ôl i arianwyr ers yr ŵyl a cheisio am fwy o arian ar gyfer ein prosiect anhygoel ‘Canfod y Gân’. Edrych ymlaen i’ch diweddaru chi gyd mewn mis!
Wythnos 24: Tilly, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Fel arfer, mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn brysur yma yn y Coleg. Nawr ein bod ni’n dechrau ein tymor olaf mae ein myfyrwyr yn brysur yn paratoi ar gyfer cynyrchiadau’r haf sy’n addo bod yn ddiweddglo cyffrous i waith caled y myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Ers fy mlog diwethaf rydw i wedi cael y cyfle i fynychu cynhyrchiad opera’r gwanwyn o ‘The Marriage of Figaro’ yn Theatr y Sherman gyda rhai o’n rhoddwyr sydd ar hyn o bryd yn cefnogi rhai o’n myfyrwyr Opera. Roedd y cynhyrchiad ei hunan yn ardderchog, ac roeddwn i wir yn mwynhau’r cyfle i gwrdd â rhagor o’n cefnogwyr ac i ddod i wybod mwy am eu cysylltiadau personol â’r Coleg a’n myfyrwyr.
Mae’r mis hwn hefyd wedi fy atgoffai, mewn ffyrdd da, bod gweithio fel swyddog codi arian fel arfer yn golygu gwneud lot o fân swyddi sydd ddim yn perthyn i unrhyw un adran! Rydw i wedi bod yn ysgrifennu cynnwys i’r wefan, tynnu lot o luniau o ymarferion, casglu gwybodaeth am roddwyr, ac anfon lot o lythyrau.
Mae lot o ddigwyddiadau i ddod cyn bo hir, felly rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio a mynychu’r rheini, ac yn gobeithio gweithio fy ffordd drwy ragor o waith ymddiriedolaethau a sefydliadau dros yr wythnosau nesaf hefyd. Yn gyffredinol, mae wedi bod yn fis cyffrous iawn!
Wythnos 23: Suzy Celfyddydau Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru
Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn brysur yma yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gan fod gweithgaredd 2022 wedi dechrau gyda phreswyliadau ac ymarferion y Pasg! Roedd yn gyffrous iawn mynychu ymarfer Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ychydig o wythnosau yn ôl i glywed cerddoriaeth fyw a chwrdd â’n haelodau.
Ers fy mlog diwethaf, rydw i wedi cyflwyno 3 chais arall am grantiau ar gyfer ein prosiect Cerdd y Dyfodol, a nawr dim ond un sydd ar ôl i’w wneud! Fel arfer mae’n cymryd cwpl o fisoedd i glywed gan ymddiriedolaethau a sefydliadau, ond rydw i’n croesi fy mysedd am rai llwyddiannus!
Ar wahân i ysgrifennu ceisiadau, rydw i wedi parhau i weithio ar ein pecynnau nawdd corfforaethol. Ar hyn o bryd nid oes gennym ni unrhyw noddwyr neu bartneriaid corfforaethol, felly rydw i wedi cael fy nhaflu i mewn yn y pen dwfn gan ein bod ni wedi dechrau o’r dechrau, ond mae wedi bod yn brofiad gwych i fod yn rhan ohono. Hyd yn hyn, rydw i wedi creu pedwar pecyn nawdd penodol ar gyfer ein prosiect Cerdd y Dyfodol ac wedyn y cyngherddau ynghylch ein cerddorfa, band pres, ac ensembles theatr yr haf hwn. Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio ar gynnig wedi’i deilwra tuag at bob busnes rydyn ni’n bwriadu mynd atynt gyda’r rhesymau pam y dylent ystyried ein cynnig a noddi ein digwyddiadau’r haf. Rydyn ni’n gobeithio cysylltu â busnesau cyn diwedd y mis!
Rydw i hefyd wedi dechrau gweithio ar ddwy ymgyrch farchnata gyda’r nod o gynyddu’r nifer o bobl sy’n cofrestru ar gyfer ein rhestr bost ac ehangu ymwybyddiaeth am ein heffaith. Mae hwn wedi bod yn brofiad ardderchog hyd yn hyn, ond byddaf i’n gwneud lot mwy o waith ar hyn dros yr wythnosau nesaf.
Am y tro, rydw i’n edrych ymlaen at barhau fy interniaeth a gwela i chi yn y blog nesaf!
Wythnos 22: Rosie, Canolfan Mileniwm Cymru
Fel arfer rydyn ni wedi bod yn brysur iawn yn CMC ers fy mlog diwethaf, gyda’r lolfa, prosesau debydau uniongyrchol a chyfarfodydd!
Roedd rhaid inni ddweud hwyl fawr dros dro i fy rheolwr llinell, Esyllt Williams, ar ddiwedd mis Mawrth felly mae pethau wedi newid ychydig. Rydyn ni’n gweld ei heisiau yn fawr iawn, ond rydw i mor falch iddi am fod yn fy rheolwr llinell am hanner cyntaf fy interniaeth, a dysgais i gymaint ganddi.
Gorffennais y Cwrs Celfyddydau ac Ymwybyddiaeth Iechyd ar ddiwedd mis Mawrth ac rydw i’n ddiolchgar iawn am y profiad hynny. Dysgais lot am werthuso, a fydd yn fy helpu i gydag un o fy amcanion i ddechrau ysgrifennu adroddiadau. Dysgais hefyd am amrywiaeth o brosiectau o fewn y Celfyddydau ac Iechyd sy’n gwneud bywyd ychydig mwy pleserus i bobl.
Hefyd paratois ac anfonais E-newyddion Ebrill i’n Haelodau ar ddechrau’r mis, a oedd yn gyffrous ac yn cyhoeddi tocynnau sydd nawr ar werth i’n haelodau. Mae hwn yn brofiad ardderchog, i gasglu, creu ac anfon ein cylchlythyr.
Es i Symposiwm Codi Arian C&B Cymru ym mis Mawrth, a oedd yn gyfle gwerthfawr iawn i ofyn cwestiynau i’r arbenigwyr o elusennau sydd ddim yn ein cefnogi a’r rheini sydd yn ein cefnogi ni. Roeddwn i’n gallu rhoi adborth i’r tîm ac roedd yn ddefnyddiol iawn inni gyd, yn enwedig o ran ein hadroddiad i Garfield Weston.
Mae wedi bod yn amser gwych ers fy mlog diwethaf ac rydw i’n edrych ymlaen at ail hanner fy interniaeth!
Wythnos 21: Eve, Rubicon Dance
Rydw i nawr hanner ffordd drwy fy interniaeth gyda Rubicon ac rydw i mor falch o’r sgiliau a’r profiadau rydw i wedi eu hennill.
Yn ddiweddar, rydw i wedi helpu gyda The Prynhawn Apêl Canolfan y Fron BIPCaF yn Park Plaza lle roeddwn i’n paratoi’r byrddau yn barod i dderbyn gwesteion, gan eu croesawu nhw wrth iddyn nhw gyrraedd, a helpu gyda’r raffl. Roeddwn i’n falch iawn i weld bod y raffl wedi codi £1500 o fewn 15 munud!
Rydw i’n ddiolchgar iawn bod BIPCaF wedi fy nghynnwys i fel rhan o’r tîm ar gyfer y digwyddiad codi arian, oherwydd cefais brofiad personol o ddigwyddiadau a’r cyfle i ymgysylltu â phobl o elusen y mae Rubicon yn cydweithio gyda nhw mor aml.
Mynychais Symposiwm Codi Arian Celfyddydau a Busnes Cymru a oedd yn fy helpu i ddysgu mwy am y pum ymddiriedolaeth a sefydliad a oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Mae yna gymaint o ymddiriedolaethau a sefydliadau ac rydw i’n cael trafferth i gofio proffil bob un ohonyn nhw, ond mae’r digwyddiad hwn wedi fy helpu i gofio bob un yn lot haws nawr.
Un uchafbwynt o’r mis diwethaf oedd Cwrs Celfyddydau ac Ymwybyddiaeth Iechyd wedi’i drefnu gan Raglen Hyfforddiant Cymru Gyfan a’i ariannu gan Gyfrif Dysgu Personol (PLA) Llywodraeth Cymru. Roedd yr hyfforddiant wir yn agor fy llygaid i’r gwaith ardderchog y mae sector y celfyddydau yn ei wneud i iechyd a lles ledled Cymru. Heb y cwrs hwn, byddwn i ddim wedi deall pwysigrwydd celf i iechyd, neu wedi cael cysylltiad gydag elusennau, prosiectau ac unigolion talentog sy’n gweithio yn y maes.
Nawr, rydw i’n edrych ymlaen at barhau ein hymgyrch codi arian Rhowch Lyfr i geisio adeiladu ar ein cyfanswm o £200.
Wythnos 20: Chieh-Ju, NoFit State
Mae gen i rai diweddariadau cyffrous i rannu ym mlog yr wythnos hon o NoFit!
Rydw i newydd ddod nôl o daith anhygoel i Sir Benfro i ymweld â’n tîm cynhyrchu sydd wedi bod yn gweithio’n hynod o galed yn y Babell Fawr i fireinio’r sioe deithiol newydd sbon SABOTAGE – gyda’r sioe gyntaf mewn 4 diwrnod! Fel swyddog codi arian, er fy mod i ddim wedi cael rhan uniongyrchol yn gwneud y sioeau, mae cael y cyfle i weld y broses greadigol, rhagolwg, ac i siarad ag aelodau ein tîm sy’n gweithio ar y safle wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae gallu profi’r hyn sy’n digwydd a siarad â’r bobl sy’n gwybod, yn cynnig gwybodaeth gyfoethog iawn a fydd yn cyfrannu tuag at ysgrifennu ceisiadau am gyllid, gan roi’r diweddaraf i’n rhoddwyr rheolaidd am y sgyrsiau y tu ôl i’r llenni, ac unrhyw gyfle arall imi fod yn eiriolwr dros y syrcas. Mae hefyd yn ychwanegu at fy nealltwriaeth o strwythur cyffredinol y mudiad, gan roi’r darnau at ei gilydd o’n sioe i’r holl raglenni cymunedol rydyn ni’n eu darparu yng nghymuned leol Adamsdown a Splott.
Mewn newyddion eraill, rydyn ni wedi cyflwyno, ar adegau yn gorfforol, mwy o geisiadau i ymddiriedolaethau a sefydliadau (gyda mwy i ddod) i godi arian ar gyfer digwyddiad cymunedol mawr Circus in Parks a fydd yn digwydd o’r Pasg, ar ôl sicrhau’r grant Creu CCC!
Mae Creu yn un o’r ceisiadau cyntaf rydw i wedi cyfrannu tuag ato. Mae mor foddhaol i wybod bod y gwaith caled gwerth chweil! Rydw i hefyd wedi bod yn ysgrifennu cais i The Percy Bilton Charity yn annibynnol, lle rydyn ni’n gobeithio derbyn cymorth i brynu cyfarpar syrcas a fydd yn ein helpu ni barhau ac ehangu ein rhaglen gymunedol.
Nawr fy mod i wedi casglu’r newyddion cyffrous a rhai “gyfrinachau gorau’r syrcas”, byddaf i’n dechrau ysgrifennu e-bost at ein rhoddwyr rheolaidd sydd wedi bod yn ein cefnogi ni ac yn helpu i wireddu pethau. Dydw i ddim yn gallu aros i rannu ein digwyddiadau a pherfformiadau sydd i ddod gyda nhw, sut allan nhw gymryd rhan, neu glywed am yr holl ddigwyddiadau hwyliog o dan babell y syrcas.
Nawr byddaf yn trosglwyddo i Eve a fydd yn cyfrannu at y blog nesaf. Gwelaf i chi yn fy mlog nesaf o fewn ychydig o wythnosau!
Wythnos 19: Aled, Canolfan Gerdd William Mathias
Wel mae’n amser am flog arall!
Fi’n gweud hyn bob tro nawr ond fedrai ddim dod dros ba mor gyflym y mae’r blogiau hyn yn dod o gwmpas! Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn paratoi ar gyfer Gŵyl Delynau Cymru sy’n cael ei chynnal ar y 12fed a’r 13eg o Ebrill. Rwyf wedi sefydlu cronfa busnes lleol ar gyfer yr Ŵyl i geisio cael busnesau lleol i gymryd rhan ac i fanteisio ar y gynulleidfa ychwanegol fydd yng Nghaernarfon ar gyfer yr Ŵyl. Ar hyn o bryd mae’n anodd iawn cyffroi busnesau am y celfyddydau gan arwain at ymateb cymysg. Ond gobeithio y byddwn yn gallu denu mwy o gefnogaeth yn yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd wedi bod yn llwyddiannus mewn cais CultureStep arall yn dathlu’r bartneriaeth rhwng CGWM, Telynau Camac a Telynau Vining – perthynas hirsefydlog lle maent wedi cefnogi’r ŵyl ers blynyddoedd. Bydd y cyllid yn anelu at gynyddu diddordeb pobl ifanc sydd fel arfer yn wynebu rhwystrau i fynd i weld cyngherddau mewn cerddoriaeth glasurol, trwy gynnig tocynnau am ddim i gyngerdd yr ŵyl.
Hefyd hoffwn rhoi diolch mawr i Andy a Kathy, fy mentor Celfyddydau a mentor Busnes. Mae’r ddau wedi bod yn help mawr i mi eleni, o fod yn seinfwrdd allanol i drafod rhai syniadau neu i gael sgwrs a gweithio drwy unrhyw bryderon sydd gennyf. Felly diolch yn fawr iawn!
Wythnos 18: Tilly, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Ar ôl treulio hanner cyntaf fy interniaeth yn gweithio o gartref yn unig, o’r diwedd rydw i wedi symud i Gaerdydd! Mae wedi bod yn gyfle gwych i mi i gymryd rhan mewn rhai o’r digwyddiadau yn y Coleg a chwrdd â rhai o’n rhoddwyr rheolaidd sy’n rhoi i’n cynllun rhoddion rheolaidd. Rydw i hefyd wedi mwynhau gweithio yn y swyddfa a gwrando ar rai o’r gwaith cyffrous mae ein myfyrwyr wedi bod yn ei wneud a ellir eu clywed o hyd o gwmpas yr adeilad.
Mae’r mis hwn hefyd wedi rhoi imi lot o gyfleoedd i ddatblygu fy hun fel swyddog codi arian. Gorffennais fy nghais annibynnol cyntaf i ymddiriedolaeth a gobeithio byddaf yn ei gyflwyno cyn bo hir. Rydw i hefyd wedi drafftio sawl peth i gyfathrebu gydag amrywiaeth o unigolion, ymddiriedolaethau, a chysylltiadau corfforaethol sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu a dysgu sut i addasu fy arddull personol i’r pwrpas a’r derbynnydd.
Roedd y sesiynau Hanfodion Codi Arian a arweiniwyd gan Celfyddydau & Busnes Cymru yn ddefnyddiol iawn ac yn helpu hybu fy hyder yn fy sgiliau a gallu fy hunan, ac yn rhoi lot imi feddwl amdano wrth ymgymryd â fy ngwaith fy hunan.
Rydw i wir wedi mwynhau fy interniaeth hyd yn hyn a llawn cyffro i weld beth a ddaw yn yr ail hanner!
Wythnos 17: Suzy Celfyddydau Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru
Dydw i ddim yn gallu credu fy mod i wedi bod yma am 4 mis nawr ac yn cyrraedd pwynt hanner ffordd fy interniaeth gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru!
Un peth rydw i’n caru am yr interniaeth hon yw faint o gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael imi. Rydyn ni newydd orffen cwrs hyfforddi Hanfodion Codi Arian C&B Cymru sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i gadarnhau’r holl wybodaeth rydw i wedi’i ddysgu ers imi ddechrau fy interniaeth. Rydw i hefyd yn lwcus bod CCIC yn aelod o’r Arts Marketing Association sy’n golygu fy mod i’n gallu cofrestru ar gyfer unrhyw rhai o’i weminarau. Hyd yn hyd rydw i wedi mynychu pynciau fel Amrywiaethu eich Cynulleidfa, Cyllidebu Sylfaenol a Chyfryngau Cymdeithasol ar Sail Tystiolaeth. Mae yna hefyd gymaint o gyfleoedd y tu allan i C&B Cymru a CCIC. Er Enghraifft, yn ddiweddar mynychais sesiynau mentora cyflym Young Arts Fundraisers gyda menywod sydd wedi helpu llunio’r sector codi arian. Roedd hyn yn gyfle gwych i rwydweithio a gofyn am gyngor gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, a ffordd ardderchog i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod!
Ar wahân i hyfforddi, rydw i wedi treulio fy nyddiau gwaith yn ysgrifennu pecyn nawdd drafft, parhau gyda fy ngwaith ymchwil i fudiadau ac ymddiriedolaethau, ysgrifennu ceisiadau am grantiau, ac ysgrifennu fy adroddiad cyntaf. Mae’r adroddiad ar gyfer Tŷ Cerdd am y grant a roddwyd tuag at ein prosiect pen-blwydd NYOW yn 75 oed. Mae wedi bod yn ddefnyddiol i ysgrifennu adroddiad i weld camau ymddiriedolaethau a mudiadau ar ôl i’r grant cael ei roi, ac i allu ysgrifennu am effaith gwirioneddol ein prosiect ar ein haelodau, y mudiad a sector y celfyddydau.
Wythnos 16: Rosie, Canolfan Mileniwm Cymru
Mae amser yn hedfan pan rydych chi’n mwynhau eich hun! Dydw i ddim yn gallu credu bod mis Mawrth yma yn barod. Mae gymaint wedi bod yn digwydd yng Nghanolfan y Mileniwm ac rydyn ni mor hapus ein bod ni ar agor eto. Ar hyn o bryd mae’n dymor opera ac rydw i wedi dychwelyd i fy swyddi arferol o ddelio â chwestiynau ynglŷn â’r Lolfa i Aelodau, adborth a rhifau.
Yn ogystal â’r Ganolfan yn dod yn fwy prysur unwaith eto, rydyn ni wedi cael pedwar o gyrsiau hyfforddi Codi Arian C&B y mis hwn sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Rydw i wir wedi mwynhau ehangu fy ngwybodaeth am sawl agwedd o waith codi arian a siarad â phobl o ystod o fudiadau i glywed am y ffyrdd y maen nhw’n codi arian.
Rydyn ni wedi croesawu dau aelod newydd i Dîm Datblygu CMC, Polly ein Cydlynydd Effaith ac Adrodd newydd, ac Izzie ein Cydlynydd Perthnasoedd ac Ymgyrchoedd newydd.
Rydw i wedi mynychu sawl un o’n gweithdai Partneriaeth Ysgolion Gwerthfawr gyda phobl ifanc o ysgolion lleol yng Nghaerdydd a gwelais un o’r pethau anhygoel rydyn ni’n codi arian amdano. Mae cymryd rhan yn y gweithdai hyn wedi bod yn werthfawr iawn. Mae wedi dangos sut mae ein gwaith yn hanfodol o ran creu cyfleoedd i bobl ifanc. Mae wedi bod mor mewnweledol i brofi’r prosiectau gwych yn bersonol ac i weld gymaint y mae’r cyfranogwyr yn elwa ohonynt
Rydw i’n edrych ymlaen at sawl mis prysur yn y Ganolfan a hefyd i barhau’r Cwrs Celfyddydau ac Ymwybyddiaeth Iechyd gan Rubicon Dance, a ddechreuais yr wythnos hon gyda sesiwn ar Werthuso.
Wythnos 15: Eve, Rubicon Dance
Yn fy mlog diwethaf, ysgrifennais fy mod i’n paratoi fy nghais cyntaf erioed i’w gyflwyno i CultureStep C&B Cymru, rydw i’n falch iawn i gadarnhau roedd fy nghais yn llwyddiannus! Roeddwn i mor falch ac roedd y tîm yn fy llongyfarch am y llwyddiant cofiadwy hwn. Rydw i nawr yn dechrau cais newydd, Arian i Bawb, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, lle rydw i’n dod ar draws her newydd o ddysgu sut i greu cyllideb a’i chyfiawnhau o fewn fy atebion i’r cwestiynau.
Mae prosiect arall rydw i’n parhau i weithio arno ar hyn o bryd yn cynnwys adnabod busnesau posib i weithio mewn partneriaeth gyda Rubicon i godi arian tuag at adnewyddiad Llyfrgell Y Rhath. Cymerodd amser hir imi greu a pherffeithio fy e-bost i fusnesau er mwyn cael y dôn a strwythur cywir; a chynnig rheswm clir dros sut byddai’r busnesau yn elwa o’r bartneriaeth. Doeddwn i ddim yn credu byddai ysgrifennu e-bost effeithiol mor anodd, ond nawr rydw i’n fwy hyderus yn fy ngallu i wneud hyn ac yn gallu parhau i ddefnyddio fy sgil newydd ym mhob e-bost o hyn ymlaen.
Mewn ymdrech i godi hyd yn oed mwy o arian i adnewyddu Llyfrgell y Rhath, mae ein tîm codi arian wedi datblygu ymdrech codi arian o’r enw ‘Rhowch Lyfr’ lle rydyn ni’n derbyn llyfrau sydd heb gael eu defnyddio o’r gymuned leol. Rydw i wedi bod yn cysylltu â busnesau a all hyrwyddo’r ymdrech drwy arddangos poster i ni o fewn ei siop neu yn y cyfryngau cymdeithasol. Rydw i wir wedi mwynhau creu perthnasau gyda busnesau lleol drwy gydol y ddau brosiect hyn ac yn edrych ymlaen at ddatblygu’r cysylltiadau hyn drwy gydol fy interniaeth.
Wythnos 14: Chieh-Ju, NoFit State
Bydd y mis nesaf yn nodi hanner ffordd drwy fy interniaeth!
Yn NoFit State, rydyn ni’n brysur yn gwneud ceisiadau am gratiau CCC ar gyfer:
- digwyddiad cyfranogi a dathlu mawr a fydd yn cael ei gynnal yn ein cymuned leol Adamsdown
- yr ail Bentref Syrcas lle mae artistiaid o bob lefel ac o ledled Cymru a’r DU ehangach yn dod ynghyd i fyw, hyfforddi, gweithio a dysgu gyda’i gilydd
- y Gronfa Adferiad Diwylliannol.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn mapio nawdd posib a all cefnogi prosiectau eraill fel ein rhaglen allgymorth gydag Ysgol Gynradd Adamsdown, Syrcas Amrywiol i blant sydd ar y sbectrwm awtistig, clwb syrcas ar ôl ysgol a mwy. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ganlyniadau cadarnhaol am y ceisiadau hyn fel y gallwn ni gymryd y prosiectau ymhellach.
Yn ystod ein sioe deithiol LEXICON, gwahoddwyd i’n cynulleidfaoedd i ddod yn gefnogwyr rheolaidd sy’n ariannu ein prosiectau o dan y Babell Fawr ac yn ein cymuned. I’r rheini sy’n ymuno, rydyn ni’n stiwardio’r perthynas gan fod eu cefnogaeth yn hanfodol. Rydw i wedi ennill profiad gan ysgrifennu e-byst i gyflawni hyn ac yn edrych ymlaen at glywed mwy gan ein cefnogwyr sy’n rhannu ein cariad at gelf y syrcas.
Cyn imi fynd, rydw i am rannu pethau o’r tu allan i’r gwaith. Y mis hwn gyda’r internaid eraill, rydw i wedi mynychu cyfres o gyrsiau hyfforddi mewn codi arian, wedi’u cyflwyno gan dîm anhygoel Celfyddydau & Busnes Cymru, i gyd am ddim diolch i’r Rhaglen Interniaethau Creadigol hon. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys strategaeth codi arian, nawdd gan fusnes, cynlluniau cyfeillion a mwy. Enillais fwy o fewnwelediadau ac atebwyd rhai o fy nghwestiynau. Roeddwn i’n llai cyfarwydd â rhai meysydd, ac roedd y cyrsiau yn rhoi trosolwg addysgiadol o’r rhain ac rydw i’n edrych ymlaen at roi’r wybodaeth hon ar waith yn y byd go iawn!
Wythnos 13: Aled, Canolfan Gerdd William Mathias
Mae mis Chwefror yn barod? Mae’r blogiau hyn yn dod o gwmpas yn gynt ac yn gynt bob tro! Yn CGWM rydym wedi bod yn brysur yn trefnu Gŵyl Delynau Cymru 2022 sydd yn agosau’n fuan ar y 12fed a’r 13eg o Ebrill. Mae gennym ni raglen gyffrous sy’n cynnwys dosbarthiadau meistr a gweithdai i Delynorion o bob oed a gallu gyda rhai o diwtoriaid mwyaf talentog Cymru. A bydd cyngerdd yr ŵyl yn serennu Gwenllian Llŷr a Ben Creighton Griffiths gyda’i Fand, os ydych chi yn yr ardal ewch i edrych ar ein gwefan am docynnau! www.walesharpfestival.co.uk
Mae codi arian cyffredinol ar gyfer yr ŵyl yn dirwyn i ben ac rwyf nawr yn edrych am arianwyr i barhau gyda’n prosiect anhygoel – Canfod y Gân – gan fod cyllid ar gyfer y prosiect hwn ar fin dod i ben. Edrychaf ymlaen i ddechrau ffurfio perthnasau hirdymor gydag Ymddiriedolaethau a Sefydliadau i ennill cyllid am sawl blwyddyn ar gyfer y prosiect cyffrous hwn!
Rydym hefyd yn cynllunio strategaeth codi arian ar gyfer Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru yn 2023 ac yn gobeithio lansio ymgyrch codi arian gan unigolion i’w lansio yn ystod yr ŵyl lai ym mis Ebrill.
Felly, ar y cyfan nid cyfnod hudolus iawn o amser ond digon i’w wneud a dyna sut mae’r swydd hon yn mynd.
Wythnos 12: Tilly, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mae tri mis wedi mynd heibio yn barod, mae’r amser wir wedi hedfan!
Ers fy mlog diwethaf rydw i wedi cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau fel swyddog codi arian, yn enwedig mewn agweddau nad oeddwn i wedi eu hystyried o’r blaen. Mae wedi bod yn dda cael dysgu am lot o wahanol brosiectau sydd wedi bod yn digwydd yn y Coleg, ac mae wedi bod yn bleser cael ysgrifennu am y prosiectau mewn adroddiadau i ymddiriedolaethau i’w diweddaru ar sut y mae eu harian wedi cael ei wario. Yn enwedig rydw i wedi mwynhau gweld yr effaith y gall yr arian rydyn ni’n ei godi gael ar gymuned ein coleg!
Y mis hwn rydw i wedi ymgymryd â lot o ymchwil mewn agweddau newydd o godi arian inni eu harchwilio ar gyfer ein cronfa bwrsariaethau; gan edrych ar y gwahanol agweddau sy’n rhan o’n strategaeth ac ymgyrch codi arian, a dysgu am rai agweddau sy’n llai cyfarwydd imi, fel nawdd corfforaethol. Mae hyn wedi bod yn gyfle ardderchog i ddefnyddio fy menter fy hun ac i fod yn greadigol i feddwl am syniadau newydd i’w harchwilio.
Gan ein bod ni’n ail-agor ar ôl y cyfnod COVID diweddaraf, byddwn ni’n gallu agor ein drysau i’r cyhoedd unwaith eto, o’r diwedd, a fydd yn rhoi inni’r cyfle i gynnal digwyddiadau i noddwyr a chroesawi’r gymuned yn ôl i’r Coleg – alla i ddim aros i fynd yn ôl i’r adeilad a phrofi rhai o’r agweddau wyneb-yn-wyneb o waith codi arian!
Wythnos 11: Suzy, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae tri mis o fy interniaeth gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi mynd heibio ac yn barod rydw i’n teimlo fy mod i wedi dysgu cymaint!
Ers fy mlog diwethaf, mae un o fy hoff dasgau wedi bod i weithio mewn mwy o’n sesiynau clyweliadau cerddoriaeth. Roedd yn gyfle ardderchog i gwrdd â rhai o’n haelodau a oedd yn dod yn ôl a’r rheini a oedd yn dod am eu clyweliad cyntaf i ddysgu mwy am eu cefndiroedd cerddorol a cheisio llonyddu eu nerfau. Roedd hefyd yn fy atgoffa i o’r rhesymau rydyn ni’n codi arian, ac i bwy – ein haelodau!
Yn ddiweddar rydw i wedi mwynhau gweithio ar sawl cais i ymddiriedolaethau a sefydliadau am nawdd. Mae fy rheolwr llinell, David, a fi wedi gwneud cais diweddar i Gronfa Ad-dalu Cerddoriaeth Ieuenctid. Er na fyddwn ni’n cael canlyniad y cais cyn diwedd mis Mawrth, rydw i’n obeithiol bydd yn llwyddiannus oherwydd mae’n brosiect cyffroes sy’n canolbwyntio ar hyfforddiant a lles staff, yn ogystal â thwf a datblygiad y mudiad. Roedd ysgrifennu’r cais ychydig yn fwy heriol na gwneud cais am nawdd tuag at ein prosiectau allgymorth a phethau o’r fath oherwydd mae’n brosiect unigol a newydd, ac felly doedd dim ceisiadau blaenorol i’w defnyddio er mwyn cael ysbrydoliaeth. Ond, roedd hyn yn ei wneud hyd yn oed yn fwy gwerth chweil unwaith imi ei orffen ac yn barod i’w gyflwyno!
Rydw i wedi bod yn gweithio ar geisiadau eraill ar gyfer ein prosiectau datblygu, fel Cerdd y Dyfodol – prosiect cerddoriaeth gyfoes i bobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli ledled Cymru. Mae wedi bod yn wych cael mwy o annibyniaeth o ran y ceisiadau hyn ac i dderbyn adborth am fy ngwaith, sydd, yn ei dro, yn helpu datblygu fy hyder wrth ysgrifennu. Ar wahân i ysgrifennu, rydw i hefyd wedi bod yn brysur gyda fy sesiynau cyntaf gyda fy mentoriaid gyda fy mentoriaid celfyddydol a busnes, gan ddysgu am farchnata’r celfyddydau, ac ymchwilio ymddiriedolaethau a sefydliadau addas er mwyn gwneud ceisiadau.
Wythnos 10: Rosie, Canolfan Mileniwm Cymru
Blwyddyn Newydd Dda!
Am gyfnod rhyfedd! Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2, bu’n rhaid i Ganolfan Mileniwm Cymru gau ei drysau o 26 Rhagfyr ymlaen. Roedd rhaid i mi gysylltu â nifer o bobl ar ôl gorfod canslo digwyddiadau ac ar ôl siarad â chymaint o bobl, sylweddolais pa mor bwysig yw ein cefnogwyr ac aelodau, yn enwedig yn ystod cyfnodau fel hyn. Cyn i’r cyfyngiadau cael eu gosod, enillais rywfaint o brofiad fel tywysydd ar gyfer Beauty and the Beast! Roedd yn anhygoel gael cwrdd â chymaint o’n gwirfoddolwyr angerddol sy’n helpu rhedeg y Ganolfan ac roedd yn wych gallu ennill profiad mewn rhan arall CMC.
Mae fy nhasgau wythnosol wedi newid yn gyfan gwbl o ddelio â’n haelodau i ganolbwyntio mwy ar waith ymchwil a gobeithio bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol iawn pan fyddwn ni’n ysgrifennu ceisiadau a chynigion. Mae’r amser ychwanegol hwn wedi fy ngalluogi i ennill mwy o sgiliau ac rydw i wedi cael hyfforddiant gan Kia i wneud sawl peth fel ysgrifennu anfonebau, creu posteri ar gyfer cystadlaethau, prosesu ein debydau uniongyrchol misol, a sut i baratoi ac anfon ein E-newyddion i Aelodau. Rydw i wedi dechrau gweithio gyda fy mentor busnes ar brosiect codi arian newydd byddaf i’n gweithio arno dros y misoedd nesaf hefyd!
Rydw i’n edrych ymlaen at Raglenni Hyfforddi C&B Cymru sydd yn cael eu cynnal yn Chwefror ac i ddysgu mwy am fyd Codi Arian. Rydw i’n llawn cyffro i allu rhoi’r hyfforddiant hwn ar waith yn fy ngwaith dydd i ddydd ac yn enwedig gyda’r cynigion a cheisiadau sydd i ddod.
Wythnos 9: Eve, Rubicon Dance
Mae’r Nadolig wedi dod i ben ac mae’r amser wedi dod i fynd yn ôl i’r gwaith! Ers imi ysgrifennu fy mlog diwethaf ym mis Rhagfyr, rydw i wedi ymgymryd â mwy o agweddau o waith codi arian ac wedi cael mwy o brofiadau hyfryd yn yr wyth wythnos o fod yn Intern Creadigol.
Helpais gynllunio’r datganiad i’r wasg am sioe theatr Nadolig aruthrol Rubicon “The Nutcracker” gydag ein Hymgynghorydd Cyfathrebu, y cefais y pleser o wylio yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Roeddwn i mor hapus gweld gwaith caled pawb yn dod at ei gilydd.
Atgof cofiadwy arall oedd cefnogi “Dathliad o’r Celfyddydau 2021” wedi’i gynnal gan Celfyddydau & Busnes Cymru, oherwydd roedd hyn yn golygu fy mod i’n gallu cwrdd â fy Nghyd-Interniaid Creadigol eraill ac aelodau tîm C&B Cymru, gan fy mod i wedi cyfathrebu gyda nhw i gyd ar-lein yn unig hyd at y digwyddiad oherwydd y mesurau covid sy’n parhau. Roedd yn mor hyfryd i fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n dathlu creadigrwydd a chyflawniadau elusennau, ac roeddwn i’n teimlo’n mor falch i weithio yn sector y celfyddydau yng Nghymru.
Gyda chefnogaeth Kathryn, Cyfarwyddwr Rubicon, cefais y cyfrifoldeb o baratoi cyfres “Deuddeg Diwrnod y Nadolig” ar draws ein platfformau’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd gwneud hyn mor ddefnyddiol gan ei fod yn fy helpu i ddysgu’r hyn a oedd Rubicon wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae rhannu cynnwys am ddeuddeg digwyddiad neu fentrau a oedd Rubicon wedi’u cyflawni yn ystod 2021 yn golygu bod ein cyfranogwyr a chefnogwyr yn gallu rhannu yn ein balchder a dathlu’r pethau cadarnhaol.
Rydw i wedi cymryd rhan mewn rhai digwyddiadau hyfryd wedi’u trefnu gan Rubicon, fel y sgwrs gan Cai Tomos fel rhan o Gyfres Siaradwyr Ysbrydoledig y Cynllun Hyfforddiant Cymru Gyfan. Rhannodd Cai rai o’i straeon o weithio gyda chleifion sâl ac ar ddiwedd eu hoes yn ystod ei yrfa ddawns – roedd hyn yn gwneud imi deimlo’n emosiynol iawn.
Hefyd cefais i’r pleser o wylio sioe diwedd blwyddyn y myfyrwyr llawn amser, a gafodd ei rhannu’n ddigidol, lle roeddwn i’n gallu gwylio amrywiaeth o waith roedden nhw wedi’i greu dros y flwyddyn. Yn olaf, cefais y cyfle i ddawnsio mewn Dosbarth Stryd Ar-lein i Blant. Roeddwn i’n gallu gweld gymaint oedd y plant yn mwynhau’r dosbarthiadau ar-lein a gwylio sgiliau ardderchog ein Hymarferwyr Rubicon Dance.
Rydw i’n edrych ymlaen at ddatblygu mwy trwy gydol y tymor hwn a nawr yw’r amser i ddysgu sut i baratoi cais am nawdd, dymunwch lwc imi!
Wythnos 8: Chieh-Ju, NoFit State
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod yn falch i gymryd rhan mewn amrywiaeth o waith, ac un swydd oedd diweddaru tudalen Rhoddion Rheolaidd NoFit State (https://www.nofitstate.org/cy/support/regular-giving).
Dechreuodd LEXICON, ein perfformiad syrcas deithiol yng Nghaerdydd ar 15 Rhagfyr. Bydd y perfformiad, sy’n cael ei gynnal yng Ngerddi Sophia, yn cael ei gyflwyno hyd at 15 Ionawr 2022 i gynulleidfa lai fel rhagofal COVID. Er mwyn gwneud y gorau o’r sylw, a’r teimlad cadarnhaol y mae ein cynulleidfaoedd yn cael o’r syrcas, rydyn ni’n gobeithio gofyn i aelodau’r gynulleidfa i ddod yn rhoddwyr rheolaidd drwy ein tudalen we rhoddion rheolaidd. Rydyn ni wedi diweddaru’r dudalen we yn barod i’w gwahodd nhw i redeg i ffwrdd gyda’r syrcas a chefnogi ein gwaith.
Wrth roi’r fflipfwrdd i fyny, cafodd y tîm datblygu sesiwn gwyntyllu yn ein parlwr yn Four Elms i lunio’r pwyntiau allweddol i’w hamlygu ar y dudalen roddion rheolaidd. Rydyn ni wedi penderfynu diweddaru ein gwefan gan fod nifer fawr o’r negeseuon ynghylch buddion. Rydyn ni’n gwybod gan ein cefnogwyr presennol bod pobl yn ein cefnogi ni er mwyn gallu rhoi ac nid i gymryd, felly gan gadw hyn mewn cof, roedden ni am roi gwybod i’n cefnogwyr ffyddlon sut mae eu rhoddion nhw yn cael eu defnyddio o fewn y mudiad. Er bod elusennau eraill wedi cael llwyddiant drwy amlinellu i’w rhoddwyr sut y mae eu cyfraniadau yn helpu e.e. faint y mae’n ei gostio i redeg llinell gymorth am noson, diwrnod o hyfforddiant i staff, ayb., penderfynon ni fod angen arnon ni rywbeth sy’n fwy priodol i NoFit State a fydd yn fwy cymhellol i’n cefnogwyr ni.
Derbyniais i bwyntiau bwled allweddol er mwyn gallu achub y blaen ar ysgrifennu ein truth am Roi yn Rheolaidd, gan fy mod i ddim yn gyfarwydd ag ysgrifennu yn y maes hwn. Roeddwn i’n falch iawn i orffen y fersiwn cyntaf ac yn ddiolchgar am y cyfle i ddysgu gan yr adborth adeiladol a ddefnyddiol gan Ed a Bethan (a oedd yn bennaeth datblygu anhygoel ond sydd nawr wedi dechrau tudalen newydd yng Ngorllewin Cymru gyda Span Arts!) a roddodd arweiniad imi i wneud golygiadau ychwanegol. Mae ein negeseuon terfynol yn dilyn y rhesymeg isod, sydd hefyd yn un o’r prif bwyntiau imi a hoffwn ei rannu yn y blog:
Yn y cyflwyniad cyffredinol yn gyntaf rydyn ni’n esbonio pwy ydyn ni, yr hyn rydyn ni’n adnabyddus amdano (e.e. cynyrchiadau teithiol a dosbarthiadau cymunedol), a’r hyn y mae’r syrcas yn ei wneud efallai na fydd pobl yn gwybod amdano ond sydd wrth galon y cwmni (gan gynnwys gweithio gyda sector syrcas ehangach y DU ac ein cymuned leol i gyflwyno cyfleoedd creadigol a hygyrch fel gall pawb ymgysylltu â’r ffurf gelf arbennig syrcas gyfoes).
Rydyn ni wedyn yn cyflwyno i gynulleidfa ein gwefan wybodaeth am sut y mae eu haelioni yn ein galluogi ni i barhau i ddarparu ein rhaglenni anhygoel.
Nesaf, rydyn ni’n cyflwyno’r llinynnau gwahanol o dan ein cynllun rhoddion rheolaidd. Ym mhob llinyn, rydyn ni’n cynnwys negeseuon sy’n pwysleisio bod pawb yn rhoi yn ôl eu gallu eu hun, ac nad yw hyn yn newid pa mor bwysig yw cefnogaeth pob un i’r syrcas. Mae’r tri llinyn, Breuddwydwyr, Rebelwyr ac Ysgogwyr yr Halibalŵ i gyd â rôl hanfodol i’w chwarae.
Heblaw am ddiweddaru ein tudalen we, rydw i hefyd wedi bod yn ymgymryd â gwaith arall, fel ymuno â chyfarfodydd parhaus i drafod cais Portffolio Cenedlaethol gyda Chyngor Celfyddydau Lloegr, ac ysgrifennu datganiad i’r wasg am berfformiad hamddenol gyda help Ed ac Anna, ein swyddog marchnata a chyfathrebu, ac mae hefyd wedi bod ar ein gwefan (gallwch chi ei ddarllen yma: https://www.nofitstate.org/cy/news/nofit-states-accessible-winter-comeback-circus-show-lexicon-its-first-ever-relaxed-performance). Ond, oherwydd y lle cyfyngedig yma, byddaf i’n ceisio eu rhannu yn y blog nesaf gyda phethau eraill cyffrous sydd i ddod.
Yn y cyfamser, cadwch eich llygaid ar Flog Interniaethau Creadigol Celfyddydau & Busnes Cymru i wybod mwy am weithgareddau diweddaraf y chwech intern!
Wythnos 7: Aled, Canolfan Gerdd William Mathias
Nadolig Llawen! Mae’r misoedd diwethaf wedi fflio mynd a dwi methu credu ei fod bron yn Ddolig!
Dydi’r misoedd diwethaf heb gael ei llenwi efo cymaint o godi arian gweithredol, ond mwy o ymchwilio strategol i fewn i darpar ariannwyr i’r flwyddyn newydd. Er hyn mi wnes i ysgrifennu cais ariannu gan y cynllun CultureStep sydd yn cael ei darparu gan Celfyddydau & Busnes Cymru eu hun AC mi roedd o’n llwyddiannus! Mae’r buddsoddiad yn cydnabod a dathlu y berthynas hir dymor mae CGWM a Pendine Park yn mwynhau, ac iddyn nhw gefnogi ni yn yr Ŵyl Biano Rhyngwladol Cymru ym mis Medi 2021. Fydd y cyllid o’r cynllun CultureStep yn caniatau i CGWM gynnal gweithdai-cyngherdd i drigolion cartrefi gofal Pendine Park. Fyddwn hefyd yn cysylltu’r digwyddiadau yma efo canolfannau gofal arall sydd yn lleol i cartrefi gofal Pendine Park yn Wrexham.
Mewn newyddion arall rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar gais £2,000 i ariannu’r Ŵyl Delynnau Cymru yn Ebrill 2022. Dwi hefyd wrthi yn ymchwilio am gwmniau fyddwn yn medru mynd atyn yn y flwyddyn newydd am nawdd. Er taw hyn yw’r agwedd mwyaf heriol mewn codi arian, gyda cefnogaeth fy mentoriad Celfyddydol a Busnes gobeithio mi allai ddatblygu perthnasau newydd gwych!