
Cymhelliant a Datblygiad Staff Effeithiol
Gall gweithio gyda’r celfyddydau helpu staff busnes i feddwl yn fwy creadigol a chyfathrebu’n fwy effeithiol. Gall wella cymhelliant, ehangu persbectif ac adeiladu sgiliau.
Mae dwy brif ffordd y mae C&B Cymru yn helpu ei aelodau busnes i ddod â buddion i weithwyr:
- Hyfforddiant yn Seiliedig ar y Celfyddydau
- Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol
Llun: Hijinx
Hyfforddiant yn Seiliedig ar y Celfyddydau
Mae Hyfforddiant yn Seiliedig ar y Celfyddydau yn helpu i adeiladu timau effeithiol, gwella arweinyddiaeth, hybu hyder, gwella cyfathrebu mewnol ac allanol, rheoli newid a datblygu strategaeth. Cyrsiau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer pob busnes unigol, mae Hyfforddiant yn Seiliedig ar y Celfyddydau yn rhoi pwyslais ar ddysgu trwy wneud. Mae'n cydbwyso ymagwedd hwyliog, arloesol gydag ymarfer a strwythur hyfforddi trwyadl.
Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol
Offeryn datblygu rheolaeth arloesol, sy'n darparu cyfleoedd unigryw i'ch staff fagu hyder a gwella sgiliau a gwneud cyfraniad effeithiol i'r gymuned.