Gwobrau C&B Cymru 2023
Dychweliad Dathliad Blaenllaw
Cydnabuwyd partneriaethau creadigol gorau Cymru mewn seremoni fawreddog
Dychwelodd Gwobrau Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru 2023 fel digwyddiad wyneb yn wyneb ar nos Iau 18 Mai, yn dilyn seibiant o dair blynedd o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Cynhaliwyd y digwyddiad, sydd ers bron i dri degawd wedi dathlu rhagoriaeth mewn gweithio mewn partneriaeth, yn Y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd ac fe’i noddwyd am y 12fed flwyddyn yn olynol gan y cwmni ynni byd-eang Valero.
Dywedodd Prif Weithredwr C&B Cymru Rachel Jones, Yn yr hinsawdd economaidd hon, mae gweithio mewn partneriaeth yn fwy hanfodol i fywyd diwylliannol bywiog ein cenedl nag erioed o’r blaen. Rydym wedi cael ein syfrdanu gan y ffordd y mae busnes a’r celfyddydau wedi ymateb i’r heriau digynsail niferus yn y cyfnod diweddar – gyda gwydnwch, creadigrwydd a phenderfyniad. Mae C&B Cymru yn falch o chwarae rhan mewn meithrin cymaint o brosiectau arloesol sy’n helpu i greu cymdeithas gyfoethocach. Yn y seremoni flaenllaw hon, mae’n wirioneddol anrhydedd gallu dathlu’r goreuon mewn cydweithio traws-sector.
Enillwyr a’r rheini yn y rownd derfynol:
Y Wobr Robert Maskrey am Ddyngarwch Celfyddydol, noddir gan Lywodraeth Cymru
Enillydd: John Rath a John Underwood
Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned, noddir gan Wales & West Utilities
Enillydd: Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd a Syrcas NoFit State
Yn y Rownd Derfynol: Cartrefi Conwy & Oriel Colwyn
Yn y Rownd Derfynol: Trafnidiaeth Casnewydd a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon
Celfyddydau, Busnes ac Amrywiaeth, noddir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
Enillydd: Bad Wolf a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Hijinx, It’s My Shout Productions, The Other Room
Yn y Rownd Derfynol: Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Engage Cymru
Yn y Rownd Derfynol: S4C a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr, noddir gan Wind 2
Enillydd: Cydweithfa Cartrefi Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd a Hijinx
Yn y Rownd Derfynol: Jones Bros Civil Engineering UK a Role Plays for Training
Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, noddir gan The Waterloo Foundation a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Enillydd: RWE / Cronfa Fferm Wynt Clocaenog ac Urdd Gobaith Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Awdurdod Harbwr Caerdydd a Theatr na nÓg
Yn y Rownd Derfynol: Port of Milford Haven ac Elusen Aloud
Celfyddydau, Busnes ac Iechyd, noddir gan Forest Holidays
Enillydd: Wales & West Utilities a Cherdd â Gofal
Yn y Rownd Derfynol: Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Four in Four a Forget-Me-Not Chorus
Yn y Rownd Derfynol: Lyan Packaging a Theatr Clwyd
Celfyddydau a Busnes Bach, noddir gan Oil 4 Wales
Enillydd: Cazbah ac Elusen Aloud
Yn y Rownd Derfynol: Monumental Welsh Women a Mewn Cymeriad / In Character
Yn y Rownd Derfynol: Severn Screen a Hijinx
Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn, noddir gan Grant Stephens Family Law
Enillydd: Roman Kubiak, Hugh James a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Yn y Rownd Derfynol: Kate Fisher a Theatr na nÓg
Yn y Rownd Derfynol: Sian Humpherson ac Elen Llwyd Roberts / Dica
Yn y Rownd Derfynol: Dan Lewis ac Urdd Gwneuthurwyr Cymru
Busnes y Flwyddyn CGI
Enillydd: Bad Wolf
Yn y Rownd Derfynol: Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
Yn y Rownd Derfynol: Wales & West Utilities
Gwobrau Celfyddydau Hodge Foundation
Enillydd 1: Yr Elusen Aloud
Enillydd 2: Syrcas NoFit State
Enillydd 3: It’s My Shout Productions
Dewiswyd enillwyr y gwobrau gan banel annibynnol o feirniaid sydd ag arbenigedd mewn ffurfiau ymarferol ar gelfyddyd, nawdd a nodau’r sector preifat: Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C; Karen Hodge, Ymddiriedolwr o Hodge Foundation; Pianydd, Cyfansoddwr a Cynhyrchydd Ify Iwobi; Leusa Llewelyn, Cyd-Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru; Hyfforddwr ac Ymgynghorydd Cydraddoldeb Hiliol, Sunil Patel a Stephen Thornton, Rheolwr Materion Cyhoeddus Valero.
Cafodd Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn ei feirniadu gan dri chefnogwr allweddol o Raglenni Datblygiad Proffesiynol C&B Cymru: Deb Bowen Rees, Cyfarwyddwr Dŵr Cymru Welsh Water ac enillydd y teitl yn 2021; Adrienne O’Sullivan, sylfaenydd a chyfarwyddwr Act Now Creative Training, a Grant Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Grant Stephens Family Law.
Cafodd tlysau’r Gwobrau, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y seremoni, eu dylunio a’u gwneud gan yr artist gwydr lliw Ingrid Walker. Cawsant eu cyflwyno i’r enillwyr gan enwogion adnabyddus gan gynnwys yr actorion Rakie Ayola a Mark Lewis Jones, y Cyflwynydd Teledu a’r Dylunydd Anna Ryder Richardson, y Soprano Rebecca Evans sydd wedi ennill Gwobr Grammy a’r athletwr Olympaidd a darlledwr Colin Jackson. Darparwyd adloniant ysblennydd y noson gan Blacksmith Brass, Connor Allen a Simmy Singh.