Mynd i'r cynnwys

Gwobrau C&B Cymru 2023

Dychweliad Dathliad Blaenllaw

Cydnabuwyd partneriaethau creadigol gorau Cymru mewn seremoni fawreddog

Dychwelodd Gwobrau Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru 2023 fel digwyddiad wyneb yn wyneb ar nos Iau 18 Mai, yn dilyn seibiant o dair blynedd o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Cynhaliwyd y digwyddiad, sydd ers bron i dri degawd wedi dathlu rhagoriaeth mewn gweithio mewn partneriaeth, yn Y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd ac fe’i noddwyd am y 12fed flwyddyn yn olynol gan y cwmni ynni byd-eang Valero.

Dywedodd Prif Weithredwr C&B Cymru Rachel Jones, Yn yr hinsawdd economaidd hon, mae gweithio mewn partneriaeth yn fwy hanfodol i fywyd diwylliannol bywiog ein cenedl nag erioed o’r blaen. Rydym wedi cael ein syfrdanu gan y ffordd y mae busnes a’r celfyddydau wedi ymateb i’r heriau digynsail niferus yn y cyfnod diweddar – gyda gwydnwch, creadigrwydd a phenderfyniad. Mae C&B Cymru yn falch o chwarae rhan mewn meithrin cymaint o brosiectau arloesol sy’n helpu i greu cymdeithas gyfoethocach. Yn y seremoni flaenllaw hon, mae’n wirioneddol anrhydedd gallu dathlu’r goreuon mewn cydweithio traws-sector.

Enillwyr a’r rheini yn y rownd derfynol:

Y Wobr Robert Maskrey am Ddyngarwch Celfyddydol, noddir gan Lywodraeth Cymru

Enillydd:  John Rath a John Underwood

Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned, noddir gan Wales & West Utilities

Enillydd:  Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd a Syrcas NoFit State

Yn y Rownd Derfynol:  Cartrefi Conwy & Oriel Colwyn

Yn y Rownd Derfynol:  Trafnidiaeth Casnewydd a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon

 

Celfyddydau, Busnes ac Amrywiaeth, noddir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro

Enillydd:  Bad Wolf a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Hijinx, It’s My Shout Productions, The Other Room

Yn y Rownd Derfynol:  Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Engage Cymru

Yn y Rownd Derfynol:  S4C a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

 

Celfyddydau, Busnes a Gweithwyr, noddir gan Wind 2

Enillydd:  Cydweithfa Cartrefi Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Yn y Rownd Derfynol:  Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd a Hijinx

Yn y Rownd Derfynol:  Jones Bros Civil Engineering UK a Role Plays for Training

 

Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd, noddir gan The Waterloo Foundation a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Enillydd:  RWE / Cronfa Fferm Wynt Clocaenog ac Urdd Gobaith Cymru

Yn y Rownd Derfynol:  Awdurdod Harbwr Caerdydd a Theatr na nÓg

Yn y Rownd Derfynol:  Port of Milford Haven ac Elusen Aloud

 

Celfyddydau, Busnes ac Iechyd, noddir gan Forest Holidays

Enillydd:  Wales & West Utilities a Cherdd â Gofal

Yn y Rownd Derfynol:  Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Four in Four a Forget-Me-Not Chorus

Yn y Rownd Derfynol:  Lyan Packaging a Theatr Clwyd

 

Celfyddydau a Busnes Bach, noddir gan Oil 4 Wales

Enillydd:  Cazbah ac Elusen Aloud

Yn y Rownd Derfynol:  Monumental Welsh Women a Mewn Cymeriad / In Character

Yn y Rownd Derfynol:  Severn Screen a Hijinx 

 

Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn, noddir gan Grant Stephens Family Law

Enillydd:  Roman Kubiak, Hugh James a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Yn y Rownd Derfynol:  Kate Fisher a Theatr na nÓg

Yn y Rownd Derfynol:  Sian Humpherson ac Elen Llwyd Roberts / Dica

Yn y Rownd Derfynol:  Dan Lewis ac Urdd Gwneuthurwyr Cymru

 

Busnes y Flwyddyn CGI

Enillydd:  Bad Wolf

Yn y Rownd Derfynol:  Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro

Yn y Rownd Derfynol:  Wales & West Utilities

 

Gwobrau Celfyddydau Hodge Foundation

Enillydd 1:  Yr Elusen Aloud  

Enillydd 2:  Syrcas NoFit State

Enillydd 3:  It’s My Shout Productions

Dewiswyd enillwyr y gwobrau gan banel annibynnol o feirniaid sydd ag arbenigedd mewn ffurfiau ymarferol ar gelfyddyd, nawdd a nodau’r sector preifat: Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C; Karen Hodge, Ymddiriedolwr o Hodge Foundation; Pianydd, Cyfansoddwr a Cynhyrchydd Ify IwobiLeusa Llewelyn, Cyd-Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru; Hyfforddwr ac Ymgynghorydd Cydraddoldeb Hiliol, Sunil Patel a Stephen Thornton, Rheolwr Materion Cyhoeddus Valero.

Cafodd Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn ei feirniadu gan dri chefnogwr allweddol o Raglenni Datblygiad Proffesiynol C&B Cymru: Deb Bowen Rees, Cyfarwyddwr Dŵr Cymru Welsh Water ac enillydd y teitl yn 2021; Adrienne O’Sullivan, sylfaenydd a chyfarwyddwr Act Now Creative Training, a Grant Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Grant Stephens Family Law.

Cafodd tlysau’r Gwobrau, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y seremoni, eu dylunio a’u gwneud gan yr artist gwydr lliw Ingrid Walker. Cawsant eu cyflwyno i’r enillwyr gan enwogion adnabyddus gan gynnwys yr actorion Rakie Ayola a Mark Lewis Jones, y Cyflwynydd Teledu a’r Dylunydd Anna Ryder Richardson, y Soprano Rebecca Evans sydd wedi ennill Gwobr Grammy a’r athletwr Olympaidd a darlledwr Colin Jackson. Darparwyd adloniant ysblennydd y noson gan Blacksmith Brass, Connor Allen a Simmy Singh.