Noson o jazz yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Mae C&B Cymru yn falch iawn o gael cynnal digwyddiad arbennig i aelodau, mewn partneriaeth â Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ddydd Gwener 7 Gorffennaf. Bydd y cyngerdd yn cynnwys The Guy Barker Big Band a rhestr llawn sêr o unawdwyr gwadd, a fydd yn mynd â’r gynulleidfa ar daith gerddorol wefreiddiol o jazz yr 20fed Ganrif. Allwn ni ddim aros!
Mae’n argoeli i fod yn noson gofiadwy a hynod ddifyr!
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei noddi’n garedig gan Aaron & Partners Solicitors.