
Gwobrau C&B Cymru 2023
Noddir gan
Dychweliad Dathliad Blaenllaw
Cydnabuwyd partneriaethau creadigol gorau Cymru mewn seremoni fawreddog
Dychwelodd Gwobrau Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru 2023 fel digwyddiad wyneb yn wyneb ar nos Iau 18 Mai, yn dilyn seibiant o dair blynedd o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Cynhaliwyd y digwyddiad, sydd ers bron i dri degawd wedi dathlu rhagoriaeth mewn gweithio mewn partneriaeth, yn Y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd ac fe’i noddwyd am y 12fed flwyddyn yn olynol gan y cwmni ynni byd-eang Valero.
Gellir gweld manylion llawn am yr holl noddwyr, enillwyr a’r rheini yn y rownd derfynol yma.
Dywedodd Prif Weithredwr C&B Cymru Rachel Jones, Yn yr hinsawdd economaidd hon, mae gweithio mewn partneriaeth yn fwy hanfodol i fywyd diwylliannol bywiog ein cenedl nag erioed o’r blaen. Rydym wedi cael ein syfrdanu gan y ffordd y mae busnes a’r celfyddydau wedi ymateb i’r heriau digynsail niferus yn y cyfnod diweddar – gyda gwydnwch, creadigrwydd a phenderfyniad. Mae C&B Cymru yn falch o chwarae rhan mewn meithrin cymaint o brosiectau arloesol sy’n helpu i greu cymdeithas gyfoethocach. Yn y seremoni flaenllaw hon, mae’n wirioneddol anrhydedd gallu dathlu’r goreuon mewn cydweithio traws-sector.
Dewiswyd enillwyr y gwobrau gan banel annibynnol o feirniaid sydd ag arbenigedd mewn ffurfiau ymarferol ar gelfyddyd, nawdd a nodau’r sector preifat: Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C; Karen Hodge, Ymddiriedolwr o Hodge Foundation; Pianydd, Cyfansoddwr a Cynhyrchydd Ify Iwobi; Leusa Llewelyn, Cyd-Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru; Hyfforddwr ac Ymgynghorydd Cydraddoldeb Hiliol, Sunil Patel a Stephen Thornton, Rheolwr Materion Cyhoeddus Valero.
Cafodd Gwobr Ymgynghorydd y Flwyddyn ei feirniadu gan dri chefnogwr allweddol o Raglenni Datblygiad Proffesiynol C&B Cymru: Deb Bowen Rees, Cyfarwyddwr Dŵr Cymru Welsh Water ac enillydd y teitl yn 2021; Adrienne O’Sullivan, sylfaenydd a chyfarwyddwr Act Now Creative Training, a Grant Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Grant Stephens Family Law.
Cafodd tlysau’r Gwobrau, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y seremoni, eu dylunio a’u gwneud gan yr artist gwydr lliw Ingrid Walker. Cawsant eu cyflwyno i’r enillwyr gan enwogion adnabyddus gan gynnwys yr actorion Rakie Ayola a Mark Lewis Jones, y Cyflwynydd Teledu a’r Dylunydd Anna Ryder Richardson, y Soprano Rebecca Evans sydd wedi ennill Gwobr Grammy a’r athletwr Olympaidd a darlledwr Colin Jackson. Darparwyd adloniant ysblennydd y noson gan Blacksmith Brass, Connor Allen a Simmy Singh.
I gael gwybodaeth lawn, ewch i’n gwefan Gwobrau ymroddedig.
Llun: NoFit State yng Ngwobrau C&B Cymru