Hyfforddiant yn Seiliedig ar y Celfyddydau
Yr Ymagwedd Greadigol at Ddysgu
Creadigrwydd yw enaid y celfyddydau ac ail natur i’w ymarferwyr. Gall trosglwyddo sgiliau o’r celfyddydau perfformio a gweledol ysgogi gweithwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd.
Mae Hyfforddiant yn Seiliedig ar y Celfyddydau yn helpu i adeiladu timau effeithiol, gwella arweinyddiaeth, rhoi hwb i hyder, gwella cyfathrebu mewnol ac allanol, rheoli newid a datblygu strategaeth.
Wedi’i deilwra’n arbennig i bob busnes, mae’n rhoi pwyslais ar ddysgu trwy wneud, gan gydbwyso dull hwyliog, arloesol gydag ymarfer a strwythur hyfforddi trylwyr.
Gall Hyfforddiant yn Seiliedig ar y Celfyddydau fynd i’r afael ag unrhyw angen datblygu sy’n seiliedig ar gyfathrebu, er enghraifft:
- Gofal Cwsmeriaid
- Gwaith Tîm
- Sgiliau Cyflwyno
- Rhwydweithio a Gwerthu
- Hyder
- Rheoli Newid
- Prynu i mewn i’r weledigaeth
A llawer mwy…..
Gweler ein hastudiaethau achos am ragor o wybodaeth