Amgueddfeydd Ymlaen

Amgueddfeydd Ymlaen
Mae’n bleser gan C&B Cymru gyhoeddi llinyn newydd o Tretftadaeth Ymlaen, diolch i gefnogaeth hael Llywodraeth Cymru.
Mae Amgueddfeydd Ymlaen yn cynnig cymorth arbennig, wedi’i deilwra i Amgueddfeydd heb eu Hachredu’n Genedlaethol ledled Cymru.
Yn aml mae’r amgueddfeydd hyn wedi’u tan gyllido ac wedi’u heffeithio’n anghymesur gan gynnydd mewn costau, pwysau llywodraethiant a bylchau mewn sgiliau. Mae nifer y tu allan i lwybrau cymorth strwythuredig sy’n bodoli, er bod ganddynt gasgliadau o bwysigrwydd lleol a chenedlaethol arwyddocaol.
Fe fydd Amgueddfeydd Ymlaen yn delio’n uniongyrchol gyda’r heriau hyn drwy gynnig cymorth adeiladu capasiti ymarferol wedi’i dargedu ar gyfnod tyngedfennol i’r sector.
Fe fydd y fenter yn darparu mynediad i’r sgiliau, gwybodaeth a chymorth y mae’r cyrff sydd yn cymryd rhan eu hangen i ffynnu mewn cyfnod heriol. Fe fydd yn galluogi amgueddfeydd bach a chanolig eu maint i gryfhau eu harweinyddiaeth, llywodraethiant, cynllunio ariannol, codi arian, ymgysylltiad gyda chynulleidfaoedd a gweithrediadau o ddydd i ddydd.
Hoffech chi wybod rhagor? Cyn gwneuid cais, mae’n ofynnol I gyrff sydd â diddordeb gael cyfarfod ymgynghori byr gydag A&B Cymru i edrych ar anghenion cefnogaeth a phenderfynu ar addasrwydd ar gyfer Amgueddfeydd Ymlaen. E-bostiwch conactus@aandbcymru.org.uk a byddwn mewn cysylltiad!