C&B Cymru yn Cyhoeddi Cadeirydd Newydd yr Ymddiriedolwyr
Mae C&B Cymru yn falch o gyhoeddi Anthony Wedlake fel ei Gadeirydd newydd. Cafodd ei benodi’n ffurfiol yng nghyfarfod Bwrdd yr elusen ym mis Hydref, pan roddodd David Morpeth y gorau i’w rôl ar ôl tymor o chwe blynedd. Anthony yw pedwerydd Cadeirydd C&B Cymru ers iddi ddod yn elusen Gymreig annibynnol yn 2011 a’r cyntaf i gael ei lleoli yng Ngogledd Cymru.
Mae Anthony wedi treulio mwyafrif ei yrfa yn y Gwasanaethau Ariannol mewn busnesau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Siartredig, EE, Furness Building Society a Legal & General. Mae ei gysylltiad â C&B Cymru yn ymestyn dros 25 mlynedd – trwy gymryd rhan yn Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol yr elusen, rhoddodd gyngor hollbwysig i ystod o sefydliadau celfyddydol. Ymunodd Anthony â Bwrdd C&B Cymru yn 2023 i rannu ei arbenigedd a’i brofiad a chefnogi datblygiad gwaith yr elusen yng Ngogledd Cymru.
Meddai Anthony: Mae’n bleser mawr gennyf ddod yn Gadeirydd Celfyddydau & Busnes Cymru, elusen yr wyf yn poeni’n fawr amdani ac y mae angen ei gwaith yn yr hinsawdd economaidd bresennol yn fwy nag erioed o’r blaen. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm staff gwych i wneud gwahaniaeth diriaethol i fusnes a’r celfyddydau yng Nghymru.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol C&B Cymru, Rachel Jones: Mae pawb yn C&B Cymru wrth eu bodd yn croesawu Anthony fel Cadeirydd y Bwrdd. Bydd ei ddealltwriaeth o’n gwaith a’i angerdd drosto, ynghyd â’i graffter busnes a gwleidyddol, yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant ein helusen yn y blynyddoedd i ddod. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag ef.