Cerflun yn y Parc
Mae C&B Cymru yn falch i’ch gwahodd chi i gyflwyno cynllun a phrosiect ar ran Manor Wildlife Park (MWP), i ddathlu Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni.
Fel rhan o brosiect Harddu’r Eisteddfod, mae MWP yn dymuno comisiynu artist neu sefydliad celfyddydol i greu cerflun draig awyr agored i’w leoli ar y glaswellt y tu allan i’r parc yn ystod mis Gorffennaf ac Awst.
Bydd gweithdai cymunedol yn cael eu darparu gan yr artist yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 29 Mehefin.
Am fanylion pellach a’r ffurflen gynnig cliciwch yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno dyluniad, llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i contactus@aandbcymru.org.uk erbyn dydd Llun 1 Mehefin fan bellaf.