Mynd i'r cynnwys

Comisiwn Cerflun

I nodi ei 25 mlwyddiant, mae aelod busnes C&B Cymru, Awdurdod Harbwr Caerdydd, yn dymuno comisiynu cerflun sydd yn symbol o wytnwch, cynnydd a threftadaeth forwrol Bae Caerdydd. Bydd yn dirnod fydd yn dathlu gwaddol yr Awdurdod Harbwr ac yn atgyfnerthu hunaniaeth diwylliannol y glannau.

Am fanylion pellach cliciwch yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno dyluniad, llanwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda a’I dychwelyd, gyda’r gwaith celf arfaethedig i contactus@aandbcymru.org.uk dim hwyrach na Dydd Gwener 9 Ionawr 2026.