Diogelu at y Dyfodol 2023/24
Dyfodol Ffyniannus i’r Celfyddydau
Saith o bobl ifanc broffesiynol addawol ym maes y celfyddydau yn cymryd eu camau cyntaf tuag at yrfaoedd creadigol.
Mae’n bleser gan A&B Cymru gyhoeddi enwau’r rhai fydd yn cymryd rhan yn y cynllun Diogelu at y Dyfodol 2023/24. Mae’r cynllun arloesol hwn yn rhoi cyfle strwythuredig i genhedlaeth newydd, gynhwysol o bobl broffesiynol ym myd y celfyddydau i sefydlu gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol. Trwy weithio i chwalu rhwystrau, nod A&B Cymru yw helpu i sefydlu gweithlu gwirioneddol amrywiol yn y celfyddydau.
Wedi’i ariannu gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn, mae Diogelu at y Dyfodol yn cyfuno dwy raglen arloesol a phellgyrhaeddol – y Rhaglen Interniaethau Creadigol a’r Rhaglen Prentisiaethau Creadigol.
Mae’r Rhaglen Interniaethau Creadigol yn galluogi rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar i weithio fel codwyr arian dan hyfforddiant mewn sefydliadau celfyddydol ar leoliadau â thâl, am gyfnod o 10 mis. O ystyried yr heriau ariannol sy’n bodoli yn yr hinsawdd sydd ohoni heddiw, mae’n bwysicach nag erioed bod y sector yn meddu ar y gallu i ddenu incwm o nifer o ffynonellau gwahanol. Ers ei sefydlu yn 2013, mae’r rhaglen wedi galluogi 33 o godwyr arian proffesiynol i gael mynediad i’r gweithlu celfyddydol. Rhyngddynt, maent hyd yma wedi codi dros £4.5 miliwn ar gyfer y sector yng Nghymru.
Bydd tri unigolyn newydd ymroddedig a hynod frwdfrydig yn cychwyn ar Interniaethau Creadigol ar 2 Hydref, gan weithio gyda Hijinx, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a Chelfyddydau SPAN.
Nod y Rhaglen Prentisiaethau Creadigol, a lansiwyd yn 2022, yw creu newid sylweddol yng nghyrhaeddiad ac ansawdd y cyfleoedd i gael mynediad at yrfa yn y celfyddydau. Mae’n darparu cyfleoedd i’r rhai hynny sy’n wynebu rhwystrau sylweddol oherwydd hil, anabledd, neu amgylchiadau cymdeithasol-economaidd, trwy eu gosod mewn sefydliadau celfyddydol am gyfnod o 10 mis fel hyfforddeion sy’n derbyn tâl mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol.
Ar 2 Hydref, bydd pedwar Prentis newydd, uchelgeisiol, yn cychwyn ar eu teithiau creadigol trwy weithio gyda Anthem – Cronfa Gerddoriaeth Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Theatr Iolo a’r Cylch Trefol / Urban Circle.
Dywedodd Rachel Jones, Prif Weithredwr A&B Cymru: Pleser o’r mwyaf i ni yw dechrau ar y cynllun Diogelu at y Dyfodol 2023/24. Mae effaith y Rhaglen Interniaethau Creadigol i’w gweld yn glir ar y celfyddydau yng Nghymru, a chawn ein hysbrydoli wrth weld y rhai fu’n rhan o’r cynllun dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn ffynnu yn eu gyrfaoedd fel codwyr arian. Drwy gyfrwng y Rhaglen Prentisiaethau Creadigol, a sefydlwyd yn ddiweddar, gobeithiwn gynnig dyfodol amgen a chyffrous i unigolion o bob cefndir. Braint o’r mwyaf yw gweld pobl ifanc mor dalentog yn cymryd eu camau cyntaf yn eu gyrfaoedd creadigol, wrth i ninnau chwarae ein rhan i greu sector y celfyddydau sy’n gryf ac yn iach.