Galwad am Berfformwyr: Lansiad 30ain Gwobrau C&B Cymru
GALWAD AM GYNIGION
Mae Gwobrau C&B Cymru yn bodoli i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector preifat a’r celfyddydau ledled Cymru.
Bydd yr 30ain Gwobrau yn cael ei lansio yn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ddydd Mercher 22 Ionawr 2025, rhwng 6.00yh – 8.00yh, pan fydd manylion y seremoni yn cael eu cyhoeddi. Bydd y 100+ o westeion yn y digwyddiad arbennig hwn yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o fusnes, y celfyddydau a bywyd cyhoeddus.
Mae un cyfle perfformiad ar gael a byddem yn falch iawn o gynnig y cyfle arddangos unigryw hwn i un o’n haelodau celfyddydol. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn cynigion sy’n fywiog ac yn ddifyr.
Pe hoffech wneud cais, llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i C&B Cymru dim hwyrach na dydd Gwener 6 Rhagfyr, os gwelwch yn dda.