Mynd i'r cynnwys

Mae Laura Drane wedi’i phenodi i arwain C&B Cymru i’w bennod nesaf

 

Mae Laura Drane wedi’i phenodi i arwain C&B Cymru i’w bennod nesaf wrth i’r elusen dynnu sylw at werth cynyddol partneriaethau rhwng busnes a’r celfyddydau.

Mae C&B Cymru, yr elusen sy’n dod â busnes a’r celfyddydau ynghyd ledled Cymru, wedi penodi Laura Drane yn Brif Weithredwr newydd, wrth ddatgan bod ei gwaith yn sicrhau gwerth amcangyfrifedig o £1 filiwn o gymorth gan y sector preifat i’r celfyddydau yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae tua hanner y cyfraniad blynyddol hwnnw yn fuddsoddiad ariannol uniongyrchol, gyda’r gweddill yn cael ei ddarparu drwy arbenigedd a sgiliau busnes, ynghyd â chymorth mewn nwyddau a gwasanaethau.

Mae Laura yn ymgymryd â’r swydd ar adeg bwysig i’r sector, wrth i sefydliadau celfyddydol wynebu pwysau ariannol cynyddol ac wrth i fusnesau chwilio am ffyrdd newydd o ddangos eu gwerth cymdeithasol, datblygu eu pobl a meithrin cysylltiadau ystyrlon â chwsmeriaid a chymunedau.

Ar hyn o bryd, mae C&B Cymru yn gweithio gyda mwy na 180 o aelodau celfyddydol a dros 50 o aelodau busnes ledled Cymru, o ymarferwyr unigol a masnachwyr unigol i sefydliadau celfyddydol cenedlaethol a chwmnïau rhyngwladol.

Mae ei raglen fuddsoddi CultureStep wedi helpu i ddenu bron i £5 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat i’r celfyddydau ers 2014, gan gefnogi bron i 350 o bartneriaethau rhwng mwy na 250 o fusnesau a sefydliadau celfyddydol, a chyrraedd cymunedau ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae gan Laura fwy na 25 mlynedd o brofiad fel hwylusydd, cynhyrchydd ac ymgynghorydd, ac mae wedi cyflawni mwy na 120 o gontractau ledled y DU ac yn rhyngwladol. Treuliodd dair blynedd mewn swydd uwch yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, lle cyfrannodd yn strategol at yr adolygiad o £29.6m o gyllid refeniw ac arwain gwaith i adolygu a datblygu’r sector. Mae hefyd wedi gweithio gyda The Audience Agency ar ymchwil a lywiodd gynigion ar gyfer Bil Diwylliant yng Nghymru, ac wedi cydsefydlu What Next? Cardiff/Cymru, sy’n dod â’r sector diwylliannol ynghyd i ymgysylltu â pholisi cyhoeddus a dylanwadu arno.

Mae Laura yn olynu Rachel Jones, a fydd yn camu i lawr ddiwedd mis Tachwedd ar ôl 30 mlynedd gyda’r sefydliad. Yn ystod ei chyfnod gyda’r elusen, mae C&B Cymru wedi datblygu model incwm cymysg sy’n cyfuno cyllid cyhoeddus a phreifat, aelodaeth, nawdd ac incwm a enillir, gan ehangu ei waith gyda sefydliadau celfyddydol a busnesau ledled Cymru.

Dywedodd Rachel Jones: “Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser o’r mwyaf i arwain C&B Cymru dros y tri degawd diwethaf. Mae’r elusen yn wirioneddol unigryw, ac rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n barhaus gan y bobl greadigol a gweledigaethol niferus yr wyf wedi cael y pleser o gydweithio â nhw, pobl sy’n dod â chymaint o ymrwymiad ac angerdd i bopeth a wnânt.

“Dros y 30 mlynedd hynny, rwyf wedi gweld nifer cynyddol o fusnesau yn sylweddoli nid mater o roi rhywbeth yn ôl yn unig yw gweithio gyda’r celfyddydau. Mae’r partneriaethau gorau yn creu gwerth gwirioneddol i’r ddwy ochr, gan ddod â buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd y mae mawr eu hangen i’r celfyddydau, tra’n helpu busnesau i ymgysylltu â’u pobl, cyrraedd cymunedau a chyflawni eu hamcanion eu hunain mewn ffyrdd creadigol.

“Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae C&B Cymru wedi’i gyflawni ac yn ddiolchgar am yr ymddiriedaeth y mae ein Bwrdd, ein cefnogwyr a’n haelodau wedi’i rhoi ynof. Rwy’n wirioneddol gyffrous am ddyfodol y sefydliad wrth iddo ddechrau pennod newydd dan arweiniad Laura. Ar adeg pan fo’r cymunedau celfyddydol a busnes fel ei gilydd yn wynebu heriau sylweddol, ni fu gwaith C&B Cymru erioed mor hanfodol.”

Wrth sôn am ei blaenoriaethau, dywedodd Laura Drane, Prif Weithredwr newydd Celfyddydau & Busnes Cymru: “Mae Rachel, y tîm a’r Bwrdd wedi adeiladu sylfaen wych dros y 30 mlynedd diwethaf. Fy ngwaith i nawr yw adeiladu ar hynny, ymateb i’r dirwedd ddiwylliannol ac economaidd newidiol yng Nghymru a dod â mwy o bobl ynghyd o fyd busnes, y celfyddydau ac, yn gynyddol, treftadaeth. Rwyf am i C&B Cymru helpu sefydliadau i ddatblygu’r sgiliau, y partneriaethau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.”