Mynd i'r cynnwys

Newyddion CultureStep Gorffennaf 2024

Fis Gorffennaf eleni, cyfarfu Panel CultureStep i drafod y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer ail gyfarfod 2024/25.

Cadarnhawyd chwe buddsoddiad, a bydd pob un ohonynt yn helpu i gryfhau a chynnal partneriaethau arloesol rhwng busnes a’r celfyddydau. Mae nhw:

  • Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru (NWIMF) a Sefydliad Gofal Parc Pendine. Mewn partneriaeth a sefydlwyd yn 2011, Parc Pendine unwaith eto yw prif noddwr Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2024. Eleni, mae’r busnes wedi cynyddu ei gefnogaeth ariannol i alluogi Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine, cystadleuaeth gerddorol gyntaf NWIMF ar gyfer perfformwyr ifanc o Gymru. Mae CultureStep yn cynyddu cyrhaeddiad y bartneriaeth drwy gyfrannu at berfformiadau Taith Gymunedol ryngweithiol, gan gynnwys cyngherddau wedi’u dehongli gan BSL sy’n ystyriol o ddementia, prosiect celfyddydol i bobl ifanc a phrosiect cerddoriaeth a chelfyddydol i blant a phobl hŷn sy’n byw ag anabledd.
  • Benjamin C Dearnley a Cartrefi Conwy. Trwy Broceriaeth C&B Cymru, mae Cartrefi Conwy wedi comisiynu’r artist Benjamin Dearnley i greu cyfres o weithiau celf cyhoeddus ar ei Ddatblygiad Porth Gorllewinol Abergele, gan ymgysylltu â’r cymunedau cyfagos i’r safle mewn gweithdai cerfio carreg. Yn ystod y sesiynau, bydd Ben yn casglu syniadau cyfranogwyr ar gyfer geiriau beirdd lleol i’w cerfio mewn cyfres o gerfluniau, yn darlunio hanes lleol ac yn ysbrydoli unrhyw un sy’n defnyddio’r gofod. Mae CultureStep yn cryfhau ac ymestyn y bartneriaeth drwy ariannu ffi’r bardd, yn ogystal â chyfrannu at ffi’r artist a’r gost o brynu’r garreg ar gyfer y gwaith celf terfynol.
  • Cwmni Frân Wen a Dŵr Cymru. Mewn partneriaeth newydd, mae Dŵr Cymru yn cefnogi Cwmni Frân Wen i gyflawni ei brosiect Olion Cymraeg creadigol, gan gyrraedd hyd at 1,000 o bobl o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn Hirael, Bangor a thu hwnt. Bydd y cyfranogwyr yn cynnwys gofalwyr, unigolion â phroblemau iechyd meddwl, ceiswyr lloches a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith. Mae CultureStep yn ehangu’r bartneriaeth drwy ariannu artistiaid llawrydd i gyflwyno wyth sesiwn ymgysylltu i gydweithio ag aelodau’r gymuned i ddatblygu gweithgareddau teuluol ar gyfer gŵyl gelfyddydol Frân Wen.
  • The Other Room (TOR) a Draycott Group. Mewn partneriaeth newydd, mae Draycott Group yn cefnogi The Other Room trwy ddarpariaeth mewn nwyddau o denantiaeth tri mis yn Harlech Court. Mae hyn yn galluogi TOR i adfywio ei gynhyrchiad o Baba Joon, portread o brofiadau un dyn o gyrraedd Cymru o Iran yn y 1970au a llywio ei ferch trwy lawenydd a chymhlethdodau bod o deulu treftadaeth gymysg yn byw yn Ne Cymru. Mae CultureStep yn cefnogi’r bartneriaeth drwy ariannu ffioedd yr artistiaid.
  • Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDC Cymru) a Goodson Thomas. Yn ei flwyddyn gyntaf o bartneriaeth, mae Goodson Thomas wedi’i enwi’n hyrwyddwr busnes CDC Cymru, trwy ei gefnogaeth i’w Raglen Young Associates. Mae CultureStep yn ariannu rhaglen weithgareddau Young Associates ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a RhCT, gan gynnwys 80 o ddawnswyr ifanc mewn sesiynau blasu ac annog ceisiadau ar gyfer Rhaglen Young Associates.
  • Hijinx a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru. Mewn partneriaeth newydd, mae ADSS Cymru wedi comisiynu Hijinx i wella ei Chynhadledd Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol ym mis Hydref 2024. Bydd y cwmni theatr yn dangos sut y gall celfyddydau creadigol gyfoethogi bywydau pobl ag anableddau dysgu i dros 100 o arweinwyr gofal cymdeithasol o bob rhan o Gymru. Mae CultureStep yn cryfhau’r bartneriaeth drwy ariannu digwyddiad a dau actor Hijinx i gyflwyno trafodaeth banel a rhannu eu profiadau byw, yn ogystal â chyfrannu at gostau dau berfformiad – un gan y Astronauts’ ac un gan y band rhyngweithiol, Vaguely Artistic. .

Hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, mae CultureStep wedi buddsoddi bron i £39K mewn 14 partneriaeth, gan drosoli bron i £155K o fusnes yn uniongyrchol i’r celfyddydau.

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes. Darganfod mwy CultureStep – Celfyddydau & Busnes Cymru (aandb.cymru)

Y dyddiad cau nesaf yw 26 Medi 2024. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â contactus@aandbcymru.org.uk