Mynd i'r cynnwys

Newyddion CultureStep Mawrth 2024

Ym mis Mawrth, cyfarfu’r Panel CultureStep i drafod y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer cyfarfod terfynol flwyddyn ariannol 2023/24.

Cadarnhawyd pedwar buddsoddiad, a bydd pob un ohonynt yn helpu i gryfhau a chynnal partneriaethau arloesol rhwng busnes a’r celfyddydau. Y prosiectau yw:

  • Act Now Creative Training a Grant Stephens Family Law. Trwy froceriaeth C&B Cymru, comisiynodd y cwmni Act Now i ddylunio a chyflwyno rhaglen hyfforddi bwrpasol yn seiliedig ar y celfyddydau i ddatblygu sgiliau rhwydweithio a hyder deg o’i weithwyr. Mae CultureStep yn ymestyn y bartneriaeth drwy ariannu ail ddiwrnod o hyfforddiant un-i-un ar gyfer y cyfranogwyr.
  • Theatr na nÓg a Boskalis Westminster; Awdurdod Harbwr Caerdydd; Mermaid Quay a Port of Milford Haven. Mae partneriaid newydd, Boskalis Westminster a Mermaid Quay, wedi ymuno ag Awdurdod Harbwr Caerdydd a Port of Milford Haven, wrth gydweithio â Theatr na nÓg i godi ymwybyddiaeth o beryglon nofio a neidio i mewn i ddŵr heb ei fonitro. Bydd y prosiect yn galluogi’r sioe arobryn Just Jump i ddychwelyd am y 6ed flwyddyn, gan ymgysylltu â dros 1,000 o ddisgyblion o ysgolion Caerdydd yn yr Eglwys Norwyaidd a 350 yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau. Mae CultureStep yn cynyddu cyrhaeddiad y prosiect drwy gyfrannu at ffioedd y cast, gan alluogi mwy o berfformiadau a darpariaeth ddwyieithog.
  • Cardiff Animation Festival a Picl Animation; Cloth Cat Animation; Twt Productions; Bomper Studio; ScreenSkills; Bumpybox a Chapter. Mae amrywiaeth o bartneriaid busnes yn cefnogi Cardiff Animation Festival i gyflwyno ei digwyddiad blynyddol o 25-28 Ebrill. Bydd cynulleidfa o dros 10,000 yn gallu cyrchu 100 o ffilmiau byr, gweithdai creadigol a dosbarthiadau meistr, gan arddangos digwyddiadau ac arddangosfeydd. Bydd yr ŵyl yn canolbwyntio ar y thema Treat, gan archwilio sut mae bwyd yn dod â chymunedau at ei gilydd. Mae CultureStep yn cyfrannu at Ddosbarth Meistr Diwrnod Diwydiant a siaradwyr panel, Profiad VR, cyfieithiad Arabeg ar gyfer digwyddiadau a deunyddiau a hwyluso Gweithdy Lles.
  • Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Unite Students. Mae Unite Students wedi cefnogi cynllun tocynnau cymorthdaledig y Coleg ar gyfer myfyrwyr Caerdydd ers chwe blynedd. Mae’r ddau bartner yn dymuno cynyddu nifer y perfformiadau hygyrch sydd ar gael. I gefnogi hyn, mae CultureStep yn ariannu perfformiadau â chapsiynau ac wedi’u cefnogi gan Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Yn ystod 2023/24, mae CultureStep wedi buddsoddi dros £91K mewn 33 o bartneriaethau, gan ddenu bron i £342K o fusnes yn uniongyrchol i’r celfyddydau.

Y derbynwyr a gadarnhawyd yn y Paneli blaenorol oedd:

  • Anthem a Bizspace
  • Arts Connection – Cyswllt Celf a Wind 2
  • Canolfan Gerdd William Mathias a Les Harpes Camac
  • Canolfan Gerdd William Mathias a Pendine Park Care Organisation
  • Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a WSP UK
  • Engage Cymru a CGI
  • Engage Cymru a Tai Wales a West
  • Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a Ty Architecture Cyf
  • Gŵyl Gerdd y Bont-Faen a Richard H Powell & Partners a Tidy Translations
  • Hijinx a Morgan Quarter a FOR Cardiff
  • Lighthouse Theatre ac Awdurdod Harbwr Caerdydd
  • Mack Events Presents a CJCH Solicitors a Barry Training Services a Forklift Specialist a Finnegans Inn a Gary Watson Motor Company a Ruckleys a RJR BAR Services ac ISO Guy a The Rock Shop a Loaded Dice a Truffle Specialist Finance a Bro Radio a Sunkiss Tanning Salon
  • Making Sense a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • Menter Caerdydd Tafwyl a Choleg Caerdydd a’r Fro
  • Mewn Cymeriad a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Merched y Wawr
  • OPRA Cymru a Magnox a Bwydydd Castell Howell
  • Role Plays for Training a Chartrefi Conwy
  • Rubicon Dance a Rubicon Facilities Management Wales
  • Shelter Cymru a HSBC ac IKEA
  • studioMADE Creative a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • Syrcas NoFit State a CELSA Steel UK
  • Syrcas NoFit State a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd
  • Tanio a Linc Cymru
  • The Denbigh Workshop a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • The Other Room a Bad Wolf
  • The Successors of the Mandingue a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a Thrafnidiaeth Casnewydd
  • Urdd Gobaith Cymru a Llaeth y Llan a Royal College of Psychiatrists
  • Vision Arts a Valero

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes.

Y dyddiad cau nesaf yw 9 Mai 2024. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â contactus@aandbcymru.org.uk