Mynd i'r cynnwys

Newyddion CultureStep Mis Hydref 2023

Fis Hydref eleni, cyfarfu Panel CultureStep i drafod y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer trydydd cyfarfod y flwyddyn ariannol hon.

Cadarnhawyd tri buddsoddiad a fydd yn helpu i gryfhau a chynnal partneriaethau arloesol rhwng busnes a’r celfyddydau. Y prosiectau yw:

  • Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) a Pendine Park Care Organisation. Yn gefnogwr sefydledig i CGWM, yn fwyaf diweddar noddodd y busnes Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2023 a chomisiynu sesiynau therapi cerdd i breswylwyr yn ei gartref gofal yn Wrecsam. Mae CultureStep yn ymestyn y bartneriaeth drwy gynyddu nifer y sesiynau wythnosol i 45.
  • NoFit State Circus (NFS) a Celsa Steel UK. Rhoddodd Celsa ddur i wella gallu teithio NFS. Comisiynodd y busnes berfformiad hefyd fel rhan o’i ddathliadau pen-blwydd yn 20. Mae CultureStep yn cryfhau’r bartneriaeth newydd drwy ariannu criw llawrydd i brosesu’r dur.
  • Tanio a Linc Cymru Housing Association. Trwy Broceriaeth C&B Cymru, mae Linc Cymru wedi comisiynu Tanio i ymgysylltu â’r gymuned leol yn ei brosiect What Once Stood. Mae’r busnes yn dymuno archwilio a chadw treftadaeth ac arwyddocâd hanesyddol dau o’i ddatblygiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae CultureStep yn cefnogi’r bartneriaeth newydd hon drwy gyfrannu at gostau artistiaid a ffotograffiaeth ar gyfer gweithdai cymunedol ar y ddau safle.

Hyd yma yn y flwyddyn ariannol hon, mae CultureStep wedi buddsoddi mewn 21 o bartneriaethau. Y derbynwyr a gadarnhawyd yn y Paneli blaenorol oedd:

  • Arts Connection a Wind 2
  • Canolfan Gerdd William Mathias a Les Harpes Camac
  • Engage Cymru a Tai Wales & West
  • Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a Ty Architecture Cyf
  • Gŵyl Gerdd y Bont-Faen a Richard H Powell & Partners a Tidy Translations
  • Hijinx a Morgan Quarter a FOR Cardiff
  • Making Sense ac RWE Renewals UK Swindon Limited
  • Menter Caerdydd Tafwyl a Choleg Caerdydd a’r Fro
  • Mewn Cymeriad a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Merched y Wawr
  • NoFit State Circus a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd
  • OPRA Cymru a Magnox a Bwydydd Castell Howell
  • Role Plays for Training a Chartrefi Conwy
  • Shelter Cymru ac HSBC ac IKEA
  • studioMADE Creative ac RWE Renewals UK Swindon Limited
  • The Denbigh Workshop ac RWE Renewals UK Swindon Limited
  • The Successors of the Mandingue a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a Thrafnidiaeth Casnewydd
  • Vision Arts a Valero

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes. Darganfyddwch mwy yma.

Y dyddiad cau nesaf yw 24 Tachwedd 2023. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â contactus@aandbcymru.org.uk