Rhaglen Fuddsoddi CultureStep C&B Cymru yn parhau yn 2023-24!
Diolch i gefnogaeth ffyddlon ein hariannwyr hael, Hodge & Moondance Foundations, rydym yn falch iawn o gyhoeddi, bydd Rhaglen Fuddsoddi CultureStep C&B Cymru yn parhau yn 2023-24!
Bwriad CultureStep yw annog nawdd newydd a datblygu ymgysylltiad busnes sefydledig â’r celfyddydau. Trwy’r cynllun mae A&B Cymru yn buddsoddi mewn partneriaethau arloesol o bob math rhwng y ddau sector, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd tymor hir.
Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes.
Ein dyddiad cau nesaf yw 30 Mehefin 2023 felly, os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â ni.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma