Mynd i'r cynnwys

Rhestr Fer Gwobrau C&B Cymru 2024

Mae un ar bymtheg o fusnesau a’u partneriaid celfyddydol wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau C&B Cymru 2024. Mae’r seremoni, sydd bellach yn ei 29ain flwyddyn, yn cydnabod rhagoriaeth mewn partneriaethau creadigol rhwng y ddau sector.

Mae cwmnïau o bob maint, wedi’u lleoli ar draws Cymru gyfan, yn cystadlu i ennill y gwobrau mawreddog. O awdurdodau porthladdoedd i landlordiaid cymdeithasol, mae’r rhestr fer yn cynrychioli’r llu o ffyrdd pellgyrhaeddol y mae busnesau ledled Cymru yn gweithio gyda’r celfyddydau i gyflawni nodau diriaethol.

Mae’r rhestr fer lawn ar gael yma.

Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu yn y cinio a seremoni tei du a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ddydd Iau 4 Gorffennaf, pan fydd enillwyr Gwobr Robert Maskrey am Ddyngarwch y Celfyddydol, Busnes y Flwyddyn Sony a Gwobr Celfyddydau Hodge Foundation hefyd yn cael eu cyhoeddi.

Mae’r cyfnod blaenoriaeth i archebu tocynnau a hysbysebu yn agor ddydd Llun 22 Ebrill. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk neu ffoniwch 029 2030 3023.