Rydym yn Recriwtio – Dwy Swydd Gyffrous Newydd!
Mae C&B Cymru yn chwilio am ddau reolwr profiadol i ymuno â’i tîm.
Pennaeth y Celfyddydau
Llawn amser, wedi’i leoli yng Nghaerdydd
Cyflog – £40K
Pennaeth y Celfyddydau yw’r prif bwynt cyswllt i’r sector yng Nghymru.
Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau dylanwadu datblygedig iawn a dull greddfol o ddatrys problemau. Bydd deiliad y swydd hefyd yn greadigol, yn ddeinamig, yn rhagweithiol ac yn hynod effeithlon.
Am fanylion pellach a phecyn cais, cliciwch yma neu e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp, dydd Llun 16 Mawrth
Dyddiad y cyfweliad: dydd Mercher 25 Mawrth
Rheolwr Perthynas
Llawn amser, wedi’i leoli yng Nghaerdydd
Cyflog – £35K
Mae’r Rheolwr Perthynas yn gyfrifol am gyflwyno rhaglenni a gwasanaethau allweddol C&B Cymru ac yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt i fusnesau ledled De a Gorllewin Cymru.
Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau dylanwadu datblygedig iawn a dull greddfol o ddatrys problemau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn greadigol, yn ddeinamig, yn rhagweithiol ac yn hynod effeithlon.
Am fanylion pellach a phecyn cais, cliciwch yma neu e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp, dydd Llun 16 Mawrth
Dyddiad y cyfweliad: dydd Mawrth 24 Mawrth