Ymunwch Â’n Tîm! Rheolwr Datblygu Busnes
Rheolwr Datblygu Busnes
Llawn amswer, wedi’i leoli yng Nghaerdydd
Cyflog – £35K
Mae C&B Cymru yn chwilio am reolwr profiadol i chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a datblygu perthynas yr elusen â’r sector corfforaethol.
Bydd y Rheolwr yn gyfrifol am gyflwyno rhaglenni a gwasanaethau allweddol C&B Cymru ac yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt i fusnesau ledled De a Gorllewin Cymru.
Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau dylanwadu datblygedig iawn a dull greddfol o ddatrys problemau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn greadigol, yn ddeinamig, yn rhagweithiol ac yn effeithlon iawn.
Am fanylion pellach a phecyn cais, cliciwch yma neu e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp, 26 Ionawr 2026
Dyddiadau’r cyfweliadau: 3 Chwefror 2026