Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol
Y Gyfnewidfa Sgiliau Busnes / Celfyddydol
Ased allweddol unrhyw sefydliad yw ei staff.
Mae’r Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol (RDP) yn dod â chyngor busnes hanfodol a phrofiad i’r celfyddydau mewn ffyrdd sy’n gwella sgiliau’r ddau sector.
Mae’r arweiniad arbenigol hwn nid yn unig yn cael effaith sylweddol ar y sefydliadau dan sylw ond mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu rheolwyr celfyddydol unigol. Mae brwdfrydedd a safbwynt newydd gwirfoddolwyr busnes yn aml wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid deinamig mewn sefydliadau celfyddydol.
Ar gyfer staff busnes, mae’r rhaglenni’n darparu cyfleoedd unigryw ar gyfer magu hyder, gwella sgiliau hyfforddi a chyfrannu’n effeithiol at y gymuned. Trwy drosglwyddo eu sgiliau penodol mewn amgylchedd newydd a chreadigol, mae unigolion yn bwydo syniadau ffres, gwell cymhelliant a phersbectif ehangach yn ôl i’w gweithle.
Mae pum llinyn i’r rhaglenni:
Mae Banc Sgiliau yn rhoi cyfle i reolwyr busnes ymestyn eu sgiliau hyfforddi a datrys problemau trwy ymgymryd â lleoliadau tymor byr, rhan-amser gyda rheolwyr celfyddydau, gan helpu mewn maes penodol fel datblygiad strategol, marchnata neu TG.
Mae Banc Mentora yn rhoi cyfle i uwch weithredwyr busnes wella eu sgiliau hyfforddi a rheoli drwy gynnig cymorth i uwch reolwyr celfyddydol. Gan ganolbwyntio ar anghenion datblygu’r unigolyn, mae’r mentor yn gweithredu fel seinfwrdd amhrisiadwy ac yn rhoi hyder.
Mae Banc Bwrdd yn galluogi rheolwyr busnes i ymestyn eu gorwelion tra’n gwneud cyfraniad effeithiol i sefydliadau celfyddydol trwy ddod yn gyfarwyddwyr anweithredol ac ymddiriedolwyr. Gall gwybodaeth a phrofiad busnes gael effaith fawr ar Fwrdd sefydliad celfyddydol, gan helpu i sicrhau iechyd hirdymor y sector creadigol.
Amrywiaeth mewn Llywodraethu Mae unigolion sy’n gweithio yn y sector yn cydnabod yn eang nad yw rheolaeth a llywodraethu y celfyddydau yng Nghymru yn adlewyrchu natur fywiog ei chymunedau. Fel rhan o strategaeth i fynd i’r afael â hyn, mae C&B Cymru wrthi’n chwilio am weithwyr proffesiynol o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Amrywiol, yn ogystal â’r rhai sy’n Anabl, B/byddar a/neu Niwroamrywiol, sydd â diddordeb mewn ymuno â Byrddau celfyddydau er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol.
Mae Gweithwyr Proffesiynol Ifanc ar Fyrddau yn gosod arweinwyr busnes y dyfodol, rhwng 21 a 35 oed, ar Fyrddau sefydliadau diwylliannol bywiog. Mae cyfranogwyr yn cyfrannu eu sgiliau, egni ac arbenigedd. Yn gyfnewid, maent yn ennill y clod o eistedd ar Fwrdd diwylliannol, y wybodaeth eu bod yn rhoi rhywbeth gwerthfawr yn ôl i’r gymuned a llwybr creadigol i ddatblygiad proffesiynol.
Sicrhau Llwyddiant
Wrth baru unigolion, rhoddir ystyriaeth fawr i’r personoliaethau dan sylw. Mae anghenion datblygu’r ymgynghorydd busnes yr un mor bwysig â’r wybodaeth y gall ei chyflwyno i sefydliad celfyddydol.
Er mwyn sicrhau llwyddiant lleoliadau, mae C&B Cymru yn darparu cymorth manwl drwy gydol – o’r cyfweliad cychwynnol a hyfforddiant i fonitro a gwerthuso trylwyr.
Llun: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Dysgwch fwy am y Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol trwy ddarllen ein Astudiaethau Achos yma
Eisiau gwneud cais i gymryd rhan?
I wneud cais i gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen gyswllt hon