Mynd i'r cynnwys

Hysbyseb Rheolwr Canolfan EVI

Sefydliad

ProMo Cymru

Lleoliad

Ebbw Vale

Disgrifiad

Ydych chi'n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth?

Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb.

Yr hyn byddech chi'n ei wneud:

Arwain gydag Angerdd: Ysbrydoli ein tîm ac aelodau'r gymuned i gyrraedd uchelfannau newydd.

Rheoli'n Effeithlon: Goruchwylio'r gweithrediadau o ddydd i ddydd, sicrhau canolfan sydd yn rhedeg yn esmwyth.

Datblygu gyda Gweledigaeth: Adnabod cyfleoedd tyfiant a gweithredu rhaglenni arloesol.

Cydweithio â Phwrpas: Cynnal perthnasau cryf gyda rhanddeiliaid, partneriaid, a thenantiaid.

Ymgysylltu'n Frwdfrydig: Meithrin synnwyr o berthyn gyda digwyddiadau a gweithgareddau difyr.

Yr hyn sydd ei angen arnoch:

Angerddol: Yn credu yng ngrym cymuned ac wedi ymrwymo i gael effaith bositif.

Trefnus: Aml-dasgwr medrus sydd yn gallu ymdrin â sawl cyfrifoldeb yn rhwydd.

Creadigol: Yn gallu meddwl y tu allan i'r bocs a datblygu datrysiadau arloesol.

Cydweithredol: Yn rhan o dîm sydd yn gallu gweithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid amrywiol.

Gwydn: Yn gallu addasu i newid a goresgyn heriau gydag agwedd bositif.

Yr hyn rydych chi'n ei gynnig:

Angerdd dwfn dros ddatblygu cymunedau a mentrau diwylliannol.

Profiad profedig mewn rheoli prosiectau, arwain tîm, a rheolaeth ariannol.

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda'r gallu i feithrin perthynas â phobl o bob cefndir.

Meddylfryd creadigol ac arloesol, wastad yn chwilio am gyfleoedd newydd i gyfoethogi cynigion y Ganolfan.

Agwedd hunan cychwynnol gyda'r gallu i flaenoriaethu tasgau a gweithio'n annibynnol.

Dolen i Ymgeisio

https://promo.cymru/cy/2024/11/14/cyfle-swydd-hysbyseb-rheolwr-canolfan-evi/

Cyflog

£37,000+

Dyddiad cau

November 30, 2024

E-bost

people@promo.cymru