Technegydd Cyffredinol
Sefydliad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Venue Cymru, Llandudno
Disgrifiad
enue Cymru yw’r ganolfan gelfyddydau a digwyddiadau brysuraf yn y rhanbarth, ac mae ganddi theatr sy'n eistedd 1,500, arena â lle i 2,500 ac ystod lawn o ystafelloedd cynadledda a digwyddiadau o’r safon uchaf. Rydym yn cyflwyno rhaglen gelfyddydau amrywiol, o Sioeau’r West End i’n perfformiadau ein hunain gan ein Pobl Ifanc Greadigol, ac yn gwesteio cynadleddau a digwyddiadau proffil uchel ledled y flwyddyn.
Wrth gefnogi'r tîm technegol aml-ddisgyblaethol, byddwch yn cyflawni pob agwedd ar y swyddogaeth drydanol a thechnegol. Mae'n hanfodol bod gennych wybodaeth am systemau goleuo, sain, A.V. a llwyfan ar gyfer Cynadleddau, Digwyddiadau a’r Theatr, gyda gogwydd at sain ar gyfer y swydd hon.
Byddai profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd technegol prysur yn hanfodol.
Mae hon yn swydd llawn-amser a pharhaol, sy’n gofyn am unigolyn brwdfrydig sy’n gallu gweithio gyda’r nos, ar benwythnosau, gwyliau banc ac yn gallu gweithio sifftiau hir. Eich oriau gwaith fydd cyfartaledd o 37 awr yr wythnos ar sail oriau blynyddol wedi’u trefnu yn unol â'r system gytunedig o weithio rota sifft.
I sicrhau darpariaeth ddwyieithog ddigonol o fewn yr adain, mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Bryn Rosenwould, Rheolwr Technegol Cynorthwyol (Sain) (01492 879771, bryn.rosenwould@venuecymru.co.uk)
Dolen i Ymgeisio
Cyflog
£27,711 - £31,067
Dyddiad cau
February 17, 2025