Mynd i'r cynnwys

Cydlynydd Cyfleusterau

Sefydliad

Theatr Clwyd

Lleoliad

Yr Wyddgrug

Disgrifiad

Cynllunio a chyflawni’r Strategaethau Cynnal a Chadw, Mecanyddol a Thrydanol y cytunwyd arnynt ar gyfer holl eiddo Theatr Clwyd, gan ddarparu amgylchedd dymunol, diogel, cydymffurfiol a chroesawgar i gwsmeriaid, aelodau’r tîm ac ymwelwyr.

Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Ymgeisio Erbyn: 02/03/25
Cyfweliad: 10/03/25, 17/03/25
Cyflog: £27,643 Yn amodol ar Gytundeb Dyfarniad Cyflog

Cyfrifoldebau Allweddol:
Darparu Rheolaeth linell i'r Cynorthwywyr Gwasanaethau Adeiladau a'r Timau Cadw Tŷ gan gynnwys rheoli eu hamserlen, tasgau dyddiol a chyflawni'r holl dasgau sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol.
Sicrhau'r contractau caffael ar gyfer cynnal a chadw, a gwasanaethu gan sicrhau gwaith o safon a gwerth am arian.
Bod yn gyfrifol am gynnal a chadw cyffredinol yr eiddo, gan gynnwys gwresogi, goleuo, plymio ac ati.
Sicrhau bod y rhaglenni BMS (System rheoli adeiladau) sy’n rheoli’r awyru, yr aerdymheru, y gwresogi, y plymio ac ati yn cael eu rhaglennu bob wythnos yn dibynnu ar y defnydd o'r adeilad.
Bod yn gyfrifol am a gweithio gyda chontractwyr allanol ar gyfer darparu gwasanaethau arbenigol.
Gwirio bod y dodrefn, yr offer a'r peiriannau ym mhob rhan o'r adeilad yn addas i'r diben a chymryd yr holl gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau bod yr agweddau hyn yn bodloni gofynion y rheoliadau pryd bynnag y bo angen.
Bod yn un o ddeiliaid allweddi'r safle.
Gweithredu fel galwad gyntaf ar gyfer achosion brys y tu allan i oriau arferol a larymau tresmaswyr.
Bod yn ystyriol o brofiad yr ymwelwyr sydd ag anghenion hygyrch wrth fynd i'r afael â thasgau, a chadw hygyrchedd yn flaenllaw yn yr holl waith.
Cymryd rhan weithredol yn y gofynion iechyd a diogelwch gan gynnwys ysgrifennu datganiadau dull a chwblhau gwaith papur iechyd a diogelwch cysylltiedig arall gan gynnwys gweithio ar uchder, trwyddedau gwaith poeth a sicrhau bod cemegau COSHH yn cael eu cofrestru a'u storio'n gywir.
Sicrhau bod y gweithle’n cadw at ofynion iechyd a diogelwch a chynnal safon ardderchog o gadw tŷ.

Dolen i Ymgeisio

https://www.theatrclwyd.com/cy/jobs/cydlynydd-cyfleusterau

Cyflog

£27,643

Dyddiad cau

March 2, 2025

E-bost

people@theatrclwyd.com