Mynd i'r cynnwys

Rheolwr Digwyddiadau

Sefydliad

Theatr Clwyd

Lleoliad

Yr Wyddgrug

Disgrifiad

Mae'r Rheolwr Digwyddiadau yn gyfrifol am arwain datblygiad Theatr Clwyd fel lleoliad cynadleddau, priodasau a digwyddiadau y mae galw mawr amdano.

Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Ymgeisio Erbyn: 02/03/25
Cyfweliad: 10/03/25, 17/03/25
Cyflog: £32,008

Cyfrifoldebau allweddol:
Lansio ein hadeilad sydd wedi’i drawsnewid o’r newydd, gan sicrhau’r buddion gorau posibl o'n cyfleusterau gwell a thynnu sylw marchnadoedd newydd a phresennol at y theatr.
Sbarduno cynhyrchu incwm drwy wneud y defnydd gorau posibl o’r gofod, rhagoriaeth weithredol a gwasanaethau cwsmeriaid eithriadol.
Rheoli’r gofod ar gyfer defnydd mewnol ac allanol ar gyfer digwyddiadau, datblygu prosesau a gweithdrefnau archebu effeithlon ar gyfer y ddau, rheoli calendrau a dyddiaduron, gan gydbwyso'r anghenion amrywiol am y gofod yn ofalus.
Meithrin partneriaethau gydag asiantaethau archebu.
Adeiladu proffil yn lleol ac o fewn y rhanbarth ehangach.
Sicrhau bod yr holl gyfleoedd llogi lleoliad yn cael eu hadolygu a'u hasesu, ochr yn ochr â gweithgarwch wedi'i raglennu, i sicrhau’r potensial incwm gorau posibl drwy logi lleoliad ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau eraill sy'n cynhyrchu incwm lle bo modd, heb wrthdaro â gweithgareddau eraill.
Gweithio'n agos gyda thîm Bryn Williams yn Theatr Clwyd.
Rheoli a monitro cyllidebau dirprwyedig, gan baratoi ffigurau a dadansoddiad fel
sy’n briodol. Cynhyrchu anfonebau ac amserlenni manwl gywir ar gyfer pob digwyddiad, gan sicrhau bod pob archeb yn cael ei chadarnhau gyda'r ddogfennaeth gywir a gweithdrefnau anfonebu prydlon a bod y cleientiaid a’r cyflenwyr yn cytuno ar y telerau a’r amodau llogi.
Dadansoddi gweithgarwch gwerthu a DPA’ion fel sail i benderfyniadau busnes.
Gweithio gyda'r tîm marchnata i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo
Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Datblygu i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer noddwyr, aelodau corfforaethol, a chefnogwyr eraill.

Dolen i Ymgeisio

https://www.theatrclwyd.com/cy/jobs/rheolwr-digwyddiadau

Cyflog

£32,008

Dyddiad cau

March 2, 2025

E-bost

people@theatrclwyd.com