Mynd i'r cynnwys

Swyddog Gweinyddu a Cyllid

Sefydliad

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Lleoliad

Venue Cymru, Llandudno

Disgrifiad

Venue Cymru, Llandudno

Venue Cymru yw’r ganolfan gelfyddydau a digwyddiadau brysuraf yn y rhanbarth, ac mae ganddi theatr sy'n eistedd 1,500, arena â lle i 2,500 ac ystod lawn o ystafelloedd cynadledda a digwyddiadau o’r safon uchaf. Rydym yn cyflwyno rhaglen gelfyddydau amrywiol, o Sioeau’r West End i’n perfformiadau ein hunain gan ein Pobl Ifanc Greadigol, ac yn gwesteio cynadleddau a digwyddiadau proffil uchel ledled y flwyddyn.

Fel aelod allweddol o'r tîm cymorth busnes, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein lleoliad yn gweithredu’n effeithlon. Bydd eich dyletswyddau’n cynnwys cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol, cefnogi adrannau amrywiol, a chyfrannu at reoli cyllidebau, a’r cyfan wrth helpu i gynnal enw da Venue Cymru.

Mae profiad o weithio mewn swyddfa brysur yn hanfodol.

Mae arnom angen unigolyn uchel ei gymhelliant gyda sgiliau gweinyddol a chyllid rhagorol, gyda gwybodaeth TG dda.

Swydd llawn amser yw hon, yn gweithio 37 awr yr wythnos ar system waith hyblyg gyda'r opsiwn i weithio gartref ar adegau er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Emma Joyce, Rheolwr Lleoliad Cynorthwyol ( Emma.joyce@venuecymru.co.uk / 01492 879771)

Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Dolen i Ymgeisio

https://webrecruitment.secure.conwy.gov.uk/itlive_webrecruitment/wrd/run/ETREC179GF.open?WVID=771951DBXU&LANG=CYM

Cyflog

£27,711 - £31,067

Dyddiad cau

March 17, 2025

E-bost

helen.e.davies@venuecymru.co.uk